ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Datblygu Mentrau Cynaliadwy (Gwledig) (CertHE)

Dysgu o Bell
1 Flwyddyn Llawn Amser
32 o Bwyntiau UCAS

Yn y byd sydd ohoni, mae busnesau gwledig yn wynebu’r her o dyfu’n gyfrifol. Mae’r rhaglen DystAU Datblygu Mentrau Cynaliadwy (Gwledig) wedi’i chynllunio ar gyfer myfyrwyr sy’n barod i gael effaith gadarnhaol ar economïau gwledig a chyfrannu at ddatblygu cynaliadwy. Mae’r cwrs hwn yn eich annog i feddwl yn arloesol am adeiladu busnes cynaliadwy sydd o fudd i bobl a’r amgylchedd, gan eich paratoi i wneud gwir wahaniaeth mewn cymunedau lleol.

Mae’r rhaglen yn pwysleisio datblygu cynaliadwy ac arferion busnes moesegol, gan roi i chi’r sgiliau i fynd i’r afael â materion sy’n benodol i leoliadau busnes gwledig. Byddwch yn astudio meysydd fel strategaeth fusnes a rheolaeth ariannol, gan ennill dealltwriaeth o sut y gall dulliau cynaliadwy ysgogi elw wrth hyrwyddo llwyddiant hirdymor. Byddwch hefyd yn archwilio datblygiad cymunedol a menter gymdeithasol, gan ddarganfod sut y gall busnesau gwledig dyfu mewn ffyrdd sy’n cefnogi cymdeithas a’r amgylchedd naturiol.

Mae’r cwrs yn defnyddio dull dysgu ymarferol seiliedig ar broblemau. Trwy sesiynau grŵp bach, byddwch yn gweithio gyda chyfoedion i fynd i’r afael â heriau busnes byd go iawn, yn mireinio eich sgiliau cydweithredu a datblygu arbenigedd mewn ymgysylltu â rhanddeiliaid. Bydd y profiadau hyn yn eich paratoi i greu datrysiadau sy’n cael effaith ystyrlon, barhaol ar gymunedau.

Drwy gydol y rhaglen, cewch eich annog i herio arferion busnes confensiynol, gan chwilio am ymagweddau sy’n blaenoriaethu effaith amgylcheddol a llesiant cymunedol. Byddwch hefyd yn meithrin ymdeimlad o ddinasyddiaeth fyd-eang, gan gydnabod sut y gall menter wledig gysylltu â nodau cynaliadwyedd byd-eang ehangach.

P’un ai lansio busnes newydd, gwella un presennol, neu ailfeddwl arferion busnes traddodiadol yw eich nod, mae’r rhaglen hon yn eich helpu i adeiladu model busnes cynaliadwy sy’n adlewyrchu gwerthoedd gwledig yr oes sydd ohoni. Yn fyfyriwr graddedig, byddwch wedi cael eich paratoi’n dda ar gyfer ymuno â’r gweithlu gyda safbwynt blaengar, yn barod i gyfrannu at yr economi wledig mewn ffyrdd sy’n arloesol, yn gymdeithasol gyfrifol ac yn ecogyfeillgar.

Ymunwch â chymuned sy’n rhannu eich ymrwymiad i arloesi ac effaith a helpwch i siapio dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer menter wledig gyda’r rhaglen Datblygu Mentrau Cynaliadwy (Gwledig) TystAU.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Dysgu o bell
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn Amser
Gofynion mynediad:
32 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 25/26
Cartref (Llawn-amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cwricwlwm Arloesol: Canolbwyntiwch ar ddatblygu cynaliadwy ac arferion busnes moesegol.
02
Dysgu Ymarferol: Cymerwch ran mewn dysgu seiliedig ar broblemau gyda heriau busnes byd go iawn.
03
Effaith Gymunedol: Dysgwch sut i ysgogi newid cadarnhaol mewn cymunedau gwledig.
04
Safbwynt Byd-eang: Datblygwch ymdeimlad o ddinasyddiaeth fyd-eang a chysylltu â nodau byd-eang ehangach.
05
Bod yn barod am yrfa: Dysgwch y sgiliau sydd arnoch eu hangen i ymuno â'r gweithlu gyda meddylfryd sy'n edrych tua’r dyfodol.
06
Amgylchedd Cefnogol: Ymunwch â chymuned sy'n angerddol am arloesi a chynaliadwyedd.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen TystAU Datblygu Mentrau Cynaliadwy (Gwledig) yn cwmpasu pynciau hanfodol fel strategaeth fusnes, rheolaeth ariannol, datblygu cymunedol, a menter gymdeithasol. Byddwch yn dysgu sut i greu modelau busnes cynaliadwy sydd o fudd i bobl a’r blaned.

Pynciau Modylau: 

Mae ein rhaglen yn pwysleisio dysgu gweithredol ac ymagweddau cydweithredol sy’n meithrin meddwl beirniadol, adfyfyrio moesegol, a defnyddiau byd go iawn. Gyda chyfuniad o theori ac arfer ymarferol, mae myfyrwyr yn datblygu’r sgiliau i ddylanwadu ar arferion cynaliadwy a dod yn asiantau rhagweithiol dros newid. Trwy fodylau diddorol, ein nod yw creu arweinwyr ag ymwybyddiaeth fyd-eang, sy’n gymdeithasol gyfrifol a fydd yn siapio dyfodol cynaliadwy ar draws cyd-destunau cymunedol a menter amrywiol.
 

Rheolaeth Ariannol ar gyfer Cynaliadwyedd Busnes

(20 credydau)

Arbenigrwydd ac Adfywio

(20 credydau)

Marchnata Digidol

(20 credydau)

Dysgu a Chydweithio ar gyfer Dinasyddiaeth Fyd-eang

(20 credydau)

Menter Gynaliadwy

(20 credydau)

Datblygiad Cymunedol

(20 credydau)

Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Mae gennym ddiddordeb mewn ymgeiswyr sydd eisiau cyfrannu at ddyfodol Menter Gymdeithasol.  Nid oes angen astudiaeth flaenorol o fusnes ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o ystod eang o gefndiroedd.

    Ar gyfer ymgeiswyr o dan 21 oed, mae angen un Lefel A neu NVQ lefel 3 arnom.  Derbynnir gwobrau eraill gan gynnwys dyfarniadau Edexcel,  yn ogystal ag ystod o dystysgrifau eraill ar y lefel hon gan  gyrff y DU, yr UE a chyrff Rhyngwladol.

    Derbynnir nifer o gymwysterau cyfatebol eraill hefyd mewn cyfraniad at eich  pwyntiau tariff UCAS a bydd y panel derbyn yn ystyried pob cais yn unigol.

    Sylwer hefyd nad yw ein cynigion wedi’u seilio ar eich cyraeddiadau academaidd yn unig; byddwn yn cymryd i ystyriaeth ystod lawn eich sgiliau, profiad a chyflawniadau wrth ystyried eich cais.

  • Caiff y rhaglen ei hasesu drwy gyfuniad o ddulliau arloesol a mwy traddodiadol sydd wedi’u cynllunio i ddatblygu dealltwriaeth, datrys problemau a meddwl creadigol myfyrwyr yn ystod y rhaglen. 

    Mae asesiadau wedi’u cysylltu’n agos â gweithgareddau dysgu, lle mae myfyrwyr yn meithrin dealltwriaeth a sgiliau mewn sesiynau wythnosol ac yn gallu dysgu o asesiadau ffurfiannol drwy gydol y rhaglen.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, ond nid yw hwn yn ofynnol ac ni chaiff unrhyw effaith ar y radd derfynol.

  • Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

  • Ewch i dudalen Teithio’r Byd gyda’r Drindod Dewi Sant i ddysgu rhagor am gyfleoedd i astudio dramor.

  • Caiff graddedigion eu paratoi ar gyfer gyrfaoedd ym meysydd datblygu busnes cynaliadwy, rheolaeth gymunedol, ac arweinyddiaeth menter gymdeithasol.

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau