ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Crwydro y tu hwnt i PCYDDS

Mae chwaraeon yn rhan fawr o ddiwylliant Cymru ac mae mynd i ddigwyddiad neu i wylio gêm yn rhan hanfodol o astudio yn PCYDDS! Cymerwch gip ar y lleoliadau isod y gallwch chi ymweld â nhw pryd bynnag mae’r awydd yn codi.  

Abertawe

Liberty Stadium Swansea

Stadiwm Swansea.com

Agorodd Stadiwm Swansea.com yn 2005 i roi cartref i dîm pêl droed Dinas Abertawe a Rygbi’r Gweilch ac yn gyfleuster i Abertawe fod yn falch ohono.  

Golygfa o Barc Chwaraeon Bae Abertawe o’r awyr

Parc Chwaraeon Bae Abertawe

Mae’r cyfleusterau ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe yn amrywio o Bwll Cenedlaethol Cymru Abertawe sy’n 50m, trac athletau awyr agored, caeau aml-ddefnydd, campfa, caeau hoci a llawer mwy. 

Sain Helen o’r awyr

Cae Chwarae Rygbi a Chriced San Helen 

Lleoliad chwaraeon yn Abertawe yw Cae Chwarae Rygbi a Chriced San Helen, cartref Clwb Rygbi Abertawe, Clwb Criced Abertawe a Chriced Morgannwg. 

Golygfa o Barc y Scarlets o’r awyr

Parc y Scarlets

Cartref Clwb Rygbi’r Scarlets a lleoliad gwych ar gyfer pob math o gynadleddau, achlysuron a dathliadau. 

Golygfa o Gwrs Golff Machynys o’r awyr

Cwrs Golff Machynys, Llanelli

Cwrs golff pencampwriaeth modern 7121 llath a ddyluniwyd gan Nicklaus ac a agorodd yn 2005 yw Machynys, ac mae eisoes wedi cynnal 14 Pencampwriaeth.

Sylwch na allwch ddefnyddio’r cyfleusterau allanol hyn yn rhad ac am ddim, codir tâl gwasanaeth arnoch chi wrth eu defnyddio. 

Caerdydd

Golygfa o Stadiwm Principality yng Nghaerdydd

Stadiwm Principality

Gyda’r to cyntaf y gellir ei agor yn llwyr yn y DU, mae Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ar flaen y gad fel lleoliad ar gyfer digwyddiadau amlbwrpas, amlweddog, a dyma gartref Undeb Rygbi Cymru. 

Gerddi Sophia yng Nghaerdydd

Gerddi Sophia

Stadiwm 16,000 o seddi yng Nghaerdydd yw Gerddi Sophia, cartref Criced Morgannwg a lleoliad cydnabyddedig ar gyfer criced rhyngwladol. 

Llun o Stadiwm Dinas Caerdydd

Stadiwm Dinas Caerdydd

Stadiwm Dinas Caerdydd yw cartref Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a thîm pêl-droed cenedlaethol Cymru.  

Parc yr Arfau Caerdydd

Parc yr Arfau Caerdydd

Parc yr Arfau Caerdydd yw cartref Rygbi Caerdydd a Chlwb Rygbi Caerdydd ac mae wedi’i leoli wrth ymyl Stadiwm Principality yng nghanol prifddinas Cymru.  

Llun o Bentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd

Pentref Chwaraeon Rhyngwladol

Wrth ymyl y llyn dŵr croyw a grëwyd gan Forglawdd Bae Caerdydd, mae eisoes gan y Pentref Chwaraeon ddau gyfleuster chwaraeon o safon Olympaidd, sef Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd a Phwll Rhyngwladol Caerdydd. Yn ogystal â’r rhain, fe welwch Arena Viola - llawr sglefrio i’r cyhoedd a chartref tîm hoci iâ Cynghrair Elît Devils Caerdydd. 

Sylwch nad yw’r cyfleusterau allanol hyn yn rhad ac am ddim i’w defnyddio, bydd angen i chi dalu am gael eu defnyddio..

Caerfyrddin

Cyfweliad ar Gae Ras Ffos Las

Cae Ras Ffos Las

Mae Cae Ras Ffos Las wedi dod â rasys ceffylau o’r radd flaenaf i Gymru ers iddo agor yn 2009. Wedi’i leoli rhwng Llanelli a Chaerfyrddin, mae Ffos Las yn cynnal 23 o ddigwyddiadau rasio yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â bod ar gael i’w logi ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau.​ 

Aerial shot of Richmond Park

Parc Waun Dew, Caerfyrddin

Stadiwm Uwch Gynghrair Cymru yng Nghaerfyrddin yw Parc Waun Dew. Wedi’i leoli ar Stryd y Prior, mae’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar gyfer gemau pêl-droed a dyma gartref Clwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin.​ 

Beicwyr ar y cwrs rasio ym Mharc Caerfyrddin

Parc Caerfyrddin

Wedi’i agor ym 1900, Parc Caerfyrddin yw cartref felodrom (trac beicio) cyntaf Cymru ac un o’r ychydig felodromau cynnar sydd wedi goroesi ac mewn cyflwr y gellir ei ddefnyddio. Gyda’i eisteddle gwreiddiol, y safle seindorf, y porthdy, y giatiau mynediad, a’r rheiliau, mae Parc Caerfyrddin wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth eang o chwaraeon, eisteddfodau, adloniant, syrcasau a chyngherddau 

Golygfa o lwybr beicio Cynefin o’r awyr

Cynefin

Mae Cynefin - Canolfan Addysg Antur Awyr Agored PCYDDS - wedi’i lleoli ar safle gwyrdd godidog ar gyrion Caerfyrddin, dim ond 20 munud ar droed o’r campws. Mae’r safle’n gysgodol a diarffordd gydag ystod amrywiol o gynefinoedd naturiol a mynediad i ddyfrffyrdd a llwybrau troed. Mae lleoliad y ganolfan yn berffaith ar gyfer dysgu am addysg antur awyr agored. 

Sylwch nad yw’r cyfleusterau allanol hyn yn rhad ac am ddim i’w defnyddio, bydd angen i chi dalu am gael eu defnyddio.