ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Gradd Feistr mewn Gweinyddu Busnes (Llawn amser) (MBA)

Abertawe
1 Flwyddyn

Mae’r Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA) yn Ysgol Fusnes Abertawe (YFA) yn rhaglen sefydledig sydd wedi’i chynnig i fyfyrwyr o bob cwr o’r byd ers dros 20 mlynedd. Fe’i cynlluniwyd i roi i weithwyr proffesiynol profiadol a graddedigion diweddar y sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn y byd busnes sydd ohoni.

Mae’r cymhwyster rheoli cyffredinol hwn yn uchel ei barch ar raddfa fyd-eang. Mae’n helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau arwain allweddol, gan ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n ceisio datblygu eu gyrfa neu newid gyrfa. P’un a ydych yn anelu at symud ymlaen yn eich rôl bresennol, dechrau llwybr entrepreneuraidd, neu ymuno â’r byd busnes am y tro cyntaf, mae’r rhaglen hon yn cynnig dull hyblyg a modern o ddysgu.

Mae’r MBA yn YFA yn unigryw am ei fod yn cynnig arfer yn y byd go iawn a phrofiad ymarferol, gan ganiatáu i fyfyrwyr gymhwyso’r hyn maen nhw’n ei ddysgu’n uniongyrchol i’w gyrfaoedd. Mae’r rhaglen yn cynnig llwybrau gwahanol, gan gynnwys MBA (Rheolaeth Twristiaeth) ac MBA (Rheolaeth Lletygarwch Rhyngwladol), sy’n darparu ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno arbenigo yn y diwydiannau hyn. Trwy gydol y cwrs, mae ffocws ar fusnes byd-eang, gan roi dealltwriaeth eang i fyfyrwyr o sut mae busnesau’n gweithredu’n rhyngwladol.

Yn PCYDDS, mae dysgu’n hyblyg a gellir ei deilwra i weddu i anghenion unigol. Gall myfyrwyr ddewis astudio ar y campws, ar-lein, neu drwy ddull cyfunol sy’n cyfuno’r ddau. Mae’r hyblygrwydd hwn yn berffaith i’r rhai sy’n cydbwyso astudiaethau â gwaith neu ymrwymiadau eraill. Mae’r cwrs yn annog dysgu gydol oes, gan sicrhau bod myfyrwyr yn tyfu’n gyson ac yn addasu i ofynion y byd busnes.

Drwy gydol y rhaglen, bydd myfyrwyr yn gweithio ar brosiectau cleientiaid, sy’n darparu profiadau ymarferol a chyfle i ddatblygu atebion ar gyfer busnesau go iawn. Mae hyn yn rhan allweddol o ffocws yr MBA ar arloesi ac yn paratoi myfyrwyr i fynd i’r afael â heriau busnes modern.

Mae astudio ochr yn ochr â charfan ryngwladol yn cynnig cyfle cyfoethogi i gydweithio a rhwydweithio gydag ymarferwyr proffesiynol o wahanol gefndiroedd a diwydiannau. Mae hyn yn helpu i greu profiad cyflawn, sy’n ehangu eich safbwyntiau ac yn meithrin cysylltiadau sy’n werthfawr mewn unrhyw yrfa fusnes.

At ei gilydd, mae’r MBA yn Ysgol Fusnes Abertawe yn ddewis ardderchog i’r rhai sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau rheoli ac agor drysau i gyfleoedd gyrfaol newydd.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cyfle i ddatblygu'r wybodaeth a dysgu’r sgiliau ar gyfer arwain a rheoli allweddol y byddwch eu hangen er mwyn symud ymlaen yn eich gyrfa.
02
Byddwch yn gweithio gyda thiwtoriaid cyfeillgar a phrofiadol sy’n dysgu drwy enghreifftio arfer dda, gan eich tywys drwy bob cam o'r broses.
03
Byddwch yn ymuno â chymuned ddysgu a ddaw’n rhwydwaith busnes gydol oes i chi.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein rhaglen MBA wedi’i chynllunio i baratoi myfyrwyr ar gyfer amgylchedd busnes byd-eang sy’n newid yn gyflym, gan hyrwyddo cydbwysedd rhwng gwybodaeth ddamcaniaethol a chymhwyso ymarferol. Trwy fodylau sy’n canolbwyntio ar ddatblygu arweinyddiaeth, arloesi ac arfer yn y byd go iawn, byddwch yn datblygu craffter busnes byd-eang a sgiliau rheoli cyffredinol beirniadol. Mae’r cwrs yn darparu opsiynau dysgu hyblyg, gyda llwybrau ar gael ar gyfer astudio’n llawn-amser neu’n rhan-amser mewn dulliau safonol ac ansafonol. Isod, ceir dadansoddiad o’r hyn y byddwch chi’n ei ddysgu yn seiliedig ar y dull cyflwyno.

Yn y dull carlam hwn, bydd myfyrwyr yn ymgysylltu â meysydd allweddol fel Heriau Busnes Byd-eang, Rheoli Pobl mewn Sefydliadau, a Chyllid i Reolwyr Busnes o fewn y ddau semester cyntaf. Mae natur gyflym y dull astudio hwn yn darparu llwybr uniongyrchol i fyfyrwyr sy’n awyddus i roi hwb i’w datblygiad gyrfa mewn blwyddyn. Mae’r misoedd sy’n weddill wedi’u neilltuo i gwblhau eich traethawd hir, gyda chymorth gweithdai ymchwil. Bydd hyn yn atgyfnerthu eich profiad ymarferol ac yn eich galluogi i roi theori ar waith mewn prosiectau cleientiaid.

Gorfodol

Rheoli Pobl mewn Sefydliadau

(20 credydau)

Rheoli Newid Marchnata

(20 credydau)

Cyllid i Reolwyr Busnes

(20 credydau)

Heriau Busnes Byd-eang

(20 credydau)

Rheoli Busnes Strategol ac Ystwyth

(20 credydau)

Ymchwil Busnes

(20 credydau)

Dewisol

Traethawd Hir

(60 credydau)

Modiwl Astudio Annibynnol Rhyngwladol

(60 credydau)

Ymwrthodiad

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, mae angen gallu yn y Saesneg sy’n cyfateb i sgôr IELTS o 6.0 (neu gyfwerth), heb unrhyw sgôr islaw 5.5 mewn darllen, ysgrifennu, gwrando a siarad.  Mae’r gofynion mynediad academaidd eraill yr un fath ar gyfer pob myfyriwr: (cartref, UE, rhyngwladol).

    Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion o bob disgyblaeth cyn belled â’u bod yn meddu ar radd a/neu gymwysterau proffesiynol. Rydym hefyd yn annog ceisiadau gan unigolion sydd â phrofiad proffesiynol, profiad o arwain, a phrofiad o reoli, a byddan nhw’n cael eu cymeradwyo yn ôl disgresiwn cyfarwyddwr y rhaglen.

    Rhaid i ymgeiswyr fod yn 21 oed neu’n hÅ·n a rhaid iddyn nhw fod ag un neu fwy o’r canlynol:

    • Gradd anrhydedd gydnabyddedig (o leiaf 2:2) neu gymhwyster cyfatebol.
    • Cymhwyster proffesiynol.
    • Diplomâu/tystysgrifau’r Brifysgol mewn Rheoli Busnes.
    • Gall ymgeiswyr 25 oed neu hÅ·n sydd ddim yn bodloni’r meini prawf gael eu derbyn ar y cwrs os bernir bod eu profiad proffesiynol neu eu profiad o reoli yn briodol.

    Gellir ystyried eithrio rhai myfyrwyr rhag gorfod cwblhau rhai modiwlau a addysgir, ond bydd penderfyniadau o’r fath yn cael eu gwneud fesul achos ac yn unol â phroses achredu PCYDDS.

  • Caiff modiwlau eu hasesu gan waith cwrs. Gall hyn ei wneud mewn sawl ffordd gwahanol, gan gynnwys prosiectau sy’n seiliedig ar waith, prosiectau ymchwil byr, cyflwyniadau, dadansoddi astudiaethau achos a’r traethawd hir. Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr y rhaglen llawn-amser, neu’r rhai sydd heb gyflogaeth ar hyn o bryd, yn gallu seilio eu prosiectau ar gwmnïau o rwydwaith helaeth o gyflogwyr SBS er mwyn cael dewisiadau eraill ar gyfer aseiniadau sy’n seiliedig ar waith.

  • Fel sefydliad, rydym yn ceisio gwella profiadau ein myfyrwyr trwy’r adeg, ac o ganlyniad, gallent ysgwyddo costau ychwanegol o ganlyniad i weithgareddau a fydd yn ychwanegu gwerth at ei addysg. Lle bo’n bosibl, bydd y costau hyn yn cael eu cadw mor isel â phosibl, gyda gweithgareddau ychwanegol yn ddewisol.

    Bydd teithiau maes dewisol ar gael i fyfyrwyr. Bydd costau’r teithiau o fewn y DU a rhai rhyngwladol yn cael eu darparu ar ddechrau’r flwyddyn academaidd. 

    Bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu’r gost bedair wythnos cyn i’r teithiau ddigwydd, a thri mis cyn y dyddiad gadael a chostau visa ar gyfer lleoliadau tramor.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae ein cyn-fyfyrwyr wedi elwa ar y cymhwyster hwn i hybu eu gyrfa yn y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol/dielw, a hynny yn y DU a thramor.

    Hefyd, mae ein myfyrwyr llawn-amser hefyd yn cymryd rhan mewn rhaglen o ymweliadau sefydliadol, gweithdai a digwyddiadau DPP (mewn cydweithrediad â’r Sefydliad Rheolaeth Siartredig) sy’n darparu cyfle i ymgeisio ac i rwydweithio. Maen nhw hefyd yn cael eu cefnogi i ddod o hyd i gyfleoedd profiad gwaith priodol ac i gynllunio a datblygu eu gyrfaoedd ar ôl graddio.

    Mae gan y rhaglen ffocws alwedigaethol, ac mae’n defnyddio astudiaethau achos go iawn o sefydliadau sy’n gweithredu’n gyfredol. Rydym yn annog myfyrwyr i rannu eu profiad gwaith eu hunain ac i ddefnyddio eu gwybodaeth a’u sgiliau mewn ffyrdd creadigol ac arloesol.

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau