Doethuriaeth mewn Arfer Proffesiynol (Rhan amser) (DProf)
Mae’r Ddoethuriaeth mewn Arfer Proffesiynol (DProf) yn integreiddio astudiaethau rhan-amser ar lefel doethuriaeth a datblygiad proffesiynol parhaus, ac mae’n ffordd ddelfrydol o sicrhau doethuriaeth wrth gynnal ymrwymiadau proffesiynol.
Mae rhaglen Y Drindod Dewi Sant yn un o’r ychydig raglenni DProf generig yn y byd, ac mae mewn sefyllfa unigryw i ddarparu ar gyfer ystod eang o gefndiroedd proffesiynol a phynciau ymchwil. Mae’r Rhan 1 a addysgir yn cynnwys astudio mewn amgylchedd grŵp cefnogol, sy’n wedd unigryw a gwerthfawr arall ar y rhaglen.
Mae Rhan 1 y rhaglen yn helpu ymgeiswyr i adolygu eu dysgu proffesiynol ac adeiladu sgiliau ymchwil. Mae Rhan 2 yn darparu cefnogaeth ar gyfer prosiect ymchwil mawr sy’n ffocysu ar agweddau ar arfer proffesiynol ymgeiswyr.
Manylion y cwrs
- Dysgu o bell
- Rhan amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r rhaglen yn cynnwys dwy brif ran. Mae rhan 1 (180 credyd; hyd, tua 2 flynedd, rhan amser) yn cynnwys astudio chwech modwl lefel 7. Mae hyn yn adolygu eich dysgu proffesiynol presennol, yn darparu sgiliau ymchwil ac yn eich paratoi at ymchwil Rhan 2. Mae Rhan 2 y rhaglen (360 credyd; hyd, tua 3-4 blynedd, rhan amser) yn canolbwyntio ar brosiect ymchwil pwysig seiliedig ar waith, gan arwain at lunio traethawd ymchwil 60,000 o eiriau.
Cynhelir gweithdai preswyl yn Y Drindod Dewi Sant Llambed. Cynhelir pob seminar a thiwtorial arall yn Y Drindod Dewi Sant Caerfyrddin a/neu ar-lein.
Gorfodol
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(360 credydau)
Dewisol
(30 credydau)
(60 credydau)
Ymwrthodiad
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Mae’r rhaglen yn agored i ymarferwyr sydd ag o leiaf bum mlynedd o brofiad o rôl broffesiynol sylweddol, ac sy’n meddu ar radd ail ddosbarth uwch, ac yn ddelfrydol gradd meistr neu gyfwerth yn ogystal.
Gofynion Iaith Saesneg
Mae angen i ymgeiswyr gael sgôr IELTS o 6.0 at ei gilydd, gyda dim llai na 5.5 mewn darllen ac ysgrifennu, a dim llai na 5.5 mewn gwrando neu siarad (neu gyfatebol). Gweler ein Polisi Iaith Saesneg.
-
Mae gan bob modwl ei elfen asesu’i hun yn cynnwys cymysgedd o gyflwyniad, portffolio, ac adroddiadau neu draethawd ysgrifenedig. Ar ddiwedd Rhan 2, disgwylir y bydd ymgeiswyr wedi cynhyrchu traethawd ymchwil 60,000-word gair sy’n seiliedig ar eu prosiect ymchwil a ddylai gyfrannu at arfer proffesiynol unigolion a datblygiad strategol eu sefydliadau. Unwaith y bydd y traethawd ymchwil wedi ei astudio a’i gymeradwyo, bydd ymgeiswyr wedi cyflawni 540 o gredydau a’r cymhwyster DProf, ynghyd â’r teitl ‘Dr’.
-
Disgwylir i fyfyrwyr fynychu gweithdy preswyl unwaith y flwyddyn yng Ngorllewin Cymru ar gyfer rhan un y rhaglen, a disgwylir iddynt dalu eu costau teithio eu hunain.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae pob ymgeisydd DProf mewn swydd yn barod. Yn aml, dilynir y rhaglen am ei fod yn cyfrif fel darn sylweddol o ddatblygiad proffesiynol parhaus, sy’n cyfoethogi eich dilyniant gyrfaol.