Sefydliad y Ddynoliaeth Fyd-eang dros Heddwch
Sefydliad y Ddynoliaeth Fyd-eang dros Heddwch
Lansiwyd Sefydliad y Ddynoliaeth Fyd-eang dros Heddwch ar y cyd gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a Sefydliad Heddwch Guerrand-Hermès. Mae wedi’i leoli ar Gampws Llambed PCYDDS, gyda chefnogaeth partneriaid byd-eang. Mae’r Sefydliad yn parhau â sawl prif raglen ymchwil ryngwladol a ddatblygwyd yn flaenorol yn Sefydliad Heddwch Guerrand-Hermès, ac mae’n rhan o amgylchedd ymchwil ac addysgu a chymuned ddysgu ardderchog yn PCYDDS.
Sefydliad y Ddynoliaeth Fyd-eang dros Heddwch
Mae Sefydliad y Ddynoliaeth Fyd-eang dros Heddwch yn ceisio ymwneud ag ymchwil ar flaen y gad sy’n anelu at ddealltwriaeth newydd, arloesi, newid polisi, a thrawsnewid cymdeithasol.
Mae’r Sefydliad yn canolbwyntio ar y canlynol:
- Meithrin iachâd ar y cyd (gan gynnwys iacháu clwyfau o erchyllterau’r gorffennol a chlwyfau ein planed), cyfoethogi adfywio cymunedol, a hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol ac undod byd-eang.
- , meithrin cymwyseddau trawsnewidiol ieuenctid a darparu cyfleoedd datblygu proffesiynoli hwyluswyr iachâd ar y cyd ac adfywio cymunedol.
- Cysoni â ffyniant ein planed.
- Cefnogi’r gwaith o ddatblygu sy’n seiliedig ar werthoedd, sy’n canolbwyntio ar ddeialog, ac sy’n ystyriol o les.
- Annog ac ysbrydoli diwylliant gofalgar mewn sefydliadau addysgol.
- Creu mannau ar gyfer cyfarfyddiadau dwfn, gwrando astud, a deialog ddofn er mwyn ennyn ymhlith popeth sy’n bod.
Cyflawnir yr holl weithgareddau hyn mewn partneriaeth â ac maent yn cyd-fynd â .
Byddwn yn cynnig cyrsiau gradd meistr a doethurol a rhaglenni proffesiynol mewn iachâd ar y cyd, iechyd a lles, cyfiawnder cymdeithasol, trawsnewid gwrthdaro, deialog ddofn, heddwch cadarnhaol, addysg sy’n canolbwyntio ar bobl, ac adfywio cymunedol.
UNESCO and Research
Mae Sefydliad y Ddynoliaeth Fyd-eang dros Heddwch (GHfP) yn hwyluso ac yn cydlynu Menter Iachau Torfol UNESCO, mewn partneriaeth â Phrosiect Llwybrau Pobl wedi’u Caethiwo UNESCO.
Wedi’u hysbrydoli gan flaenoriaethau tymor canolig (2022-2029) UNESCO (e.e. Affrica, cydraddoldeb rhywedd, a grymuso ieuenctid), ac yn ymroddedig i Ddegawd Pobl o Dras Affricanaidd y Cenhedloedd Unedig (2015-2024), amcanion cyffredinol y Fenter Iachau Torfol yw:
- torri ar y distawrwydd yn ymwneud â chreulondeb hanesyddol caethwasiaeth, gwladychiaeth, hil-laddiad a thrais strwythurol parhaus
- wynebu amddifadedd, allgáu, a bregusrwydd economaidd-gymdeithasol
- herio anghydraddoldeb rhywedd, anghyfiawnder cymdeithasol, a hiliaeth strwythurol
- mynd i’r afael â thrawma ac aflesiant sy’n pontio’r cenedlaethau
- hyrwyddo gwleidyddiaeth urddas tuag at drawsnewid cymdeithasol
Mae’r amcanion hyn yn defnyddio gwybodaeth gyfredol am y cydgysylltiad rhwng iachau torfol, cyfiawnder cymdeithasol a llesiant byd-eang. Amlygir gan ymchwil parhaus y gall iachau torfol gyfrannu tuag at “ddad-hiliaethu” ein gweledigaeth a “dad-drefedigaethu” ein cysyniad o ddynoliaeth. Gwna hynny drwy ddadelfennu trafodaethau ac ideoleg hiliol, cydnabod a mynd i’r afael â niweidiau gwaddol caethwasiaeth, trosgynnu gelyniaeth y meddylfryd ‘ni yn erbyn nhw’, a chyd-weld dyfodol cyffredin i bawb. Yn bwysicach fyth, gall helpu cymunedau (ail)ddarganfod rhoddion gwybodaeth, doethineb ac arferion (brodorol), a chyfoethogi ein gwydnwch ar y cyd, ein llesiant, a chyd-ffyniant â natur.
Mae Sefydliad GHfP yn rhan o gymuned ymchwil fywiog ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Mae’r Sefydliad wedi ymrwymo i ymwneud ag ymchwil arloesol o ansawdd uchel ar faterion trawsbynciol amrywiol, gan adeiladu ar ei raglenni ôl-raddedig a doethurol amrywiol, mentrau partneriaeth, ac arbenigedd Athrawon Ymarfer.
Mae Tîm Ymchwil y Sefydliad yn cynnwys ymchwilwyr rhyngddisgyblaethol, cymrodyr gwadd, cymdeithion ymchwil a chynorthwywyr ymchwil sy’n awyddus i gymryd rhan mewn deialog ac archwiliadau parhaus trwy weminarau, symposia, cynadleddau a digwyddiadau rheolaidd eraill. Mae ein hymchwil wedi bod yn canolbwyntio ar bedwar prif faes, gan gynnwys Iachau Torfol, Llesiant, Llywodraethu, Heddwch Cadarnhaol ac Addysg sy’n Canolbwyntio ar Bobl.