Paratoi ar gyfer Cyfweliad Prifysgol
Beth yw Cyfweliad Prifysgol?
Rydych chi wedi cyflwyno’ch cais i’r Brifysgol, ac efallai eich bod yn holi beth sy’n digwydd nesaf? Yn dibynnu ar y cwrs efallai y cewch eich gwahodd i gyfweliad cyn cael cynnig lle ar y cwrs. Dyma eich cyfle i ddod â’ch cais yn fyw a dangos eich brwdfrydedd, eich personoliaeth a’ch potensial wyneb yn wyneb.
Cofiwch, byddwch yn hyderus, yn chwilfrydig ac yn awyddus i ddangos pam eich bod chi’n berffaith ar gyfer y cwrs. Er mwyn eich helpu i wneud y gorau o’r cyfle hwn, dyma ganllaw cynhwysfawr i’ch arwain drwy’r broses o baratoi ar gyfer cyfweliad.
Beth i'w Ddisgwyl yn eich Cyfweliad Prifysgol
10 Awgrym Gwych ar gyfer paratoi ar gyfer eich Cyfweliad Prifysgol...
-
Y peth cyntaf i’w wneud yw ymchwilio’n drylwyr i’r Brifysgol, y rhaglen a’r holl ffactorau cysylltiedig eraill. Ceisiwch ddeall cymaint ag y gallwch chi am y cwricwlwm, y cyfleusterau ac unrhyw ddatblygiadau diweddar a allai fod yn berthnasol. Bydd hyn yn dangos i’r sawl sy’n eich cyfweld bod gennych ddiddordeb gwirioneddol yn y maes.
-
Rydych wedi cael eich gwahodd i gyfweliad yn seiliedig ar eich cais, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych dros eich datganiad personol a’ch CV a byddwch yn barod i drafod unrhyw gyflawniadau, profiadau a dyheadau a nodwyd gennych yn fanwl.
-
Mae’n syniad da i ymarfer ateb cwestiynau cyfweliad cyffredin, a pharatoi ymatebion cryno ond difyr sy’n dangos eich cryfderau a’ch diddordebau. Mae’r math hyn o gwestiynau’n cynnwys, “Dywedwch ychydig wrthyf amdanoch chi’ch hun”, “Pam ydych chi eisiau astudio’r pwnc hwn?”, “Beth allwch chi ei gynnig i’n Prifysgol ni?”
-
Paratowch atebion sy’n arddangos eich sgiliau trwy feddwl am enghreifftiau i ddangos eich gallu i ddatrys problemau, eich sgiliau wrth weithio mewn tîm, profiad arwain ac ati. Bydd hyn yn ychwanegu dyfnder at eich atebion ac yn eich helpu i sefyll allan.
-
Eich ymddangosiad sy’n rhoi’r argraff gyntaf ohonoch, felly dewiswch wisg sy’n cyd-fynd â diwylliant y brifysgol a’r rhaglen rydych chi’n gwneud cais amdani. Bydd gwisgo’n broffesiynol ac yn gyfforddus yn rhoi hwb i’ch hyder ac yn gadael argraff gadarnhaol.
-
Edrychwch ar foesau sylfaenol cyfweliad fel ysgwyd llaw yn gadarn, cynnal cyswllt llygad a gwrando gweithredol. Cofiwch fod yn gwrtais tuag at bawb y byddwch yn dod ar eu traws, oherwydd efallai y byddwch chi’n cyfarfod nifer o bobl ddylanwadol.
-
Gwnewch yn siŵr fod gennych restr o gwestiynau yn barod i’w gofyn i’r sawl sy’n eich cyfweld. Bydd hyn yn dangos eich bod yn awyddus i ddysgu mwy am y rhaglen. Gallai cwestiynau cyffredin gynnwys holi am gyfleoedd pellach, cymorth gyrfaoedd, ac unrhyw beth arall sydd ganddoch chi ddiddordeb ynddo.
-
Mae’n ychydig yn anodd i ddechrau ond,bcynnal ffug gyfweliadau gyda ffrindiau, teulu, neu fentoriaid yw’r ffordd berffaith i gael gwared ar y nerfau. Bydd yr ymarfer hwn yn helpu i fireinio’ch atebion, gwella’ch cyflwyniad ac yn eich gwneud yn llai nerfus.
-
Yn dibynnu ar eich rhaglen, efallai y bydd angen i chi ateb cwestiynau technegol yn ymwneud â’r maes pwnc. Paratowch ar gyfer hyn drwy adolygu cysyniadau allweddol, a datblygiadau diweddar yn y maes, a darllen gwaith sydd wedi’u gyhoeddi.
-
Nid ceisio chwilio am feiau y mae’r cyfwelydd, maen nhw yno er mwyn deall yn well pwy ydych chi fel person. Cymerwch anadl ddofn, cadwch ar gyflymder cyson a byddwch yn chi’ch hun. Mae bod yn ddiffuant yn allweddol er mwyn gwneud cysylltiad go iawn gyda’r sawl sy’n eich cyfweld.