Arweinyddiaeth a Rheolaeth Gymhwysol yn y Gweithle (Yn y Gymuned) (BA Anrh)
Dysgu a datblygu strategaethau arweinyddiaeth a rheolaeth ar gyfer y gweithle gyda’r radd Arweinyddiaeth a Rheolaeth Gymhwysol yn y Gweithle.
Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio’n benodol ar gyflogadwyedd a dilyniant gyrfa yn y dyfodol drwy eich cyflwyno i ddulliau, strategaethau a sgiliau a ystyrir yn hanfodol ar gyfer cyflogaeth. Ymhlith y meysydd a gwmpesir mae rôl trafodaeth a dadlau wrth ddatrys problemau, datblygiad eich deallusrwydd emosiynol a’r gallu i weithio’n effeithiol, yn annibynnol ac mewn tîm, ac arfer adfyfyriol.
Mae’r rhaglen hyblyg yn cael ei haddysgu yn ystod y penwythnosau a gyda’r nosau i’ch galluogi i weithio ar yr un pryd ag astudio.
Mae pob myfyriwr yn graddio gyda thystysgrif Gradd BA (Anrh) a thystysgrif statws proffesiynol gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth.
Rydym hefyd yn rhoi’r dewis i’n myfyrwyr yn eu blwyddyn olaf o ennill Tystysgrif Lefel 5 mewn Hyfforddi a Mentora gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth.
Sylwch fod y rhaglen hon yn cael ei chyflwyno ar gampysau eraill hefyd, sy’n cynnwys Abertawe ac Caerfyrddin. Yn ogystal, cyflwynir y rhaglen hon hefyd yn ‘Busnes in Focus’, Tondu, yn rhan o ddarpariaeth Pen-y-bont ar Ogwr a Business in Focus, Ystâd Ddiwydiannol Trefforest yn rhan o ddarpariaeth Trefforest.
Manylion y cwrs
- Yn y Gymuned
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 25/26
Cartref (Llawn-amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Nodau’r rhaglen yw:
- Rhoi cyfle i ddysgwyr astudio am ddyfarniad sy’n canolbwyntio’n benodol ar gyflogadwyedd a dilyniant gyrfa yn y dyfodol
- Cyflwyno myfyrwyr i ddulliau, strategaethau a sgiliau a ystyrir yn hanfodol ar gyfer cyflogaeth mewn cyd-destun cyffredinol
- Gwneud myfyrwyr yn gyfarwydd â thrafod a dadlau wrth brosesu a datrys problemau
- Datblygu meddwl beirniadol myfyrwyr i gefnogi gwneud penderfyniadau mwy effeithiol ac effeithlon
- Rhoi amrywiaeth o brofiadau dysgu i fyfyrwyr a luniwyd i’w cynorthwyo i gaffael a chymhwyso gwybodaeth
- Galluogi dysgwyr i ddod yn rheolwyr adfyfyriol, sy’n gallu diffinio targedau personol a phroffesiynol a’u cyflawni, gan gynnwys cyfrifoldeb am ddysgu a datblygiad proffesiynol yn y dyfodol.
Carfan 1: Hydref i Awst
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Carfan 1: Chwefror i Dachwedd
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Lefel 5 dros 10 mis - Chwefror i Dachwedd
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Lefel 5 dros 10 mis - Chwefror i Dachwedd
Gorfodol
(30 credydau)
(20 credydau)
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
120 Credyd ar Lefel 4
Cyngor a Chymorth Derbyn Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. &²Ô²ú²õ±è;
-
Mae asesiadau wedi’u llunio i wneud yn fawr o’r cyswllt rhwng theori ac arfer a chaniatáu i fyfyrwyr ddangos trylwyredd deallusol ac adfyfyrio’n feirniadol ar eu profiadau eu hunain yn y gweithle.
Defnyddir dulliau asesu gwahanol i alluogi myfyrwyr i ddangos yr hyn maent wedi’i ddysgu mewn amrywiol ffyrdd, megis adroddiadau, gwaith adfyfyriol, cyflwyniadau, gwaith unigol a pheth gwaith grŵp, er bod asesiad unigol bob tro. Defnyddir asesiadau ffurfiannol i gyfoethogi dealltwriaeth dysgwyr ac i fagu hyder dysgwyr, yn ogystal â nodi ymhle y gallai fod angen cymorth tiwtorial ychwanegol. Ar gyfer asesiadau ffurfiannol, gall cwisiau fod yn ddifyr a gweithio’n dda. Anogir myfyrwyr i ddod â’u hymchwil eu hunain i’r dosbarth i’w rannu ag eraill sy’n cyfrannu.
Yn gyffredinol, darperir adborth trwy’r platfform ar-lein, Moodle. Mae tîm y rhaglen hefyd yn darparu adborth wyneb yn wyneb er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn gwerthfawrogi ac yn dysgu o’r adborth a ddarperir ac yn gallu trafod pob agwedd ar eu perfformiad a’r gwersi y gellid eu cymhwyso yn y dyfodol.
I grynhoi, er mwyn creu ymarferwyr adfyfyriol cymwys, bydd y rhaglen yn:
- Annog myfyrwyr i ymgymryd â darllen ac ymchwil annibynnol i ehangu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth unigol o’r pwnc
- Defnyddio dulliau asesu sy’n rhoi pwyslais ar ddadansoddi beirniadol, gwerthuso ac arfer adfyfyriol
- Profi gwybodaeth a sylfaen sgiliau drwy waith cwrs ac ymarferion ymarferol a asesir.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg
-
Fel sefydliad, ymdrechwn yn barhaus i gyfoethogi profiadau myfyrwyr ac o ganlyniad, mae’n bosibl y daw costau ychwanegol i ran y myfyrwyr sy’n gysylltiedig â gweithgareddau a fydd yn ychwanegu gwerth at eu haddysg.
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio heb gostau ychwanegol. Efallai bydd myfyrwyr yn dymuno cofrestru am dystysgrif L5 mewn Hyfforddi a Mentora gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth am gost ychwanegol o £160.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau arwain a rheoli sydd gan y myfyrwyr aeddfed a’u defnyddio yn gweithle.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen lefel 4 sy’n sefyll ar ei phen ei hun, gall myfyrwyr adael y Brifysgol â ThystAU lefel 4 a Thystysgrif lefel 4 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth gan yr ILM. Mae’r rhan fwyaf o’r myfyrwyr llwyddiannus yn dewis symud ymlaen a pharhau â’u hastudiaethau amser llawn drwy ymgymryd â rhaglen BA atodol am 2 flynedd. Mae’r BA 2 flynedd mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth hefyd yn cynnig cydnabyddiaeth broffesiynol gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth i’r myfyrwyr sy’n parhau â’u hastudiaethau. Cenhadaeth y Sefydliad yw “Ysbrydoli Arweinyddiaeth Ardderchogâ€.
Mae ymgysylltu â chyflogwyr yn rhoi cyfleoedd i rwydweithio a chael gwell dealltwriaeth o’r maes astudio, ac yn helpu’r brifysgol i ragweld anghenion posibl cyflogwyr yn y dyfodol. Ymgynghorir â chyflogwyr a chyrff dyfarnu wrth ddylunio’r deunydd a chynnwys y modylau ac maent yn rhoi mewnbwn ar y rhaglen ar ffurf siaradwyr o fyd diwydiant.