
Y Gymraeg yn y Drindod Dewi Sant
Y Gymraeg yn y Drindod Dewi Sant
Mae’r Drindod Dewi Sant yn Brifysgol naturiol ddwyieithog, lle mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn cyd-fyw mewn cytgord. Mae canran uchel o’n staff a’n myfyrwyr yn medru’r Gymraeg ar draws ein campysau ac mae modd felly i siaradwyr Cymraeg dderbyn cefnogaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob agwedd o’ch bywyd fel myfyriwr yma. Rydym hefyd yn falch iawn i gefnogi unrhyw fyfyriwr sy’n dymuno dysgu neu ddatblygu eu Cymraeg yn ystod eu hamser yma yn y Brifysgol.

Dwi wedi gwneud llwyth o ffrindiau newydd drwy ddewis i astudio yn y Gymraeg. Mae cymuned glos o fyfyrwyr ac ry’n ni’n cael llwyth o brofiadau newydd gan gynnwys nosweithiau allan, mynychu rhyng-gol a theithiau tramor.
Siarad Cymraeg?

Cyrsiau Cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog
Yma yn y Drindod Dewi Sant mae gennym arlwy o gyrsiau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar draws ein campysau. Efallai nad ydych wedi ystyried astudio eich gradd neu ran o’ch rhaglen radd drwy gyfrwng y Gymraeg hyd yn hyn, neu efallai eich bod yn teimlo’n ddihyder ynghylch astudio eich rhaglen yn llwyr drwy gyfrwng y Gymraeg. Peidiwch â phoeni, rydych mewn dwylo da. Cewch gefnogaeth gan y Brifysgol trwy gydol eich astudiaethau, fyddwch chi ddim ar eich pen eich hunan.
Meddyliwch am y drysau a fydd yn agor i chi fel graddedigion os byddwch wedi astudio o leiaf ran o’ch rhaglen radd drwy gyfrwng y Gymraeg!

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
-
Mae gan fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant sy’n dilyn cyrsiau neu fodiwlau israddedig cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog gyfle arbennig i gael cymorth ariannol gan y Brifysgol a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
-
Dyfernir £50 am bob 10 credyd a gwblhawyd yn llwyddiannus gan fyfyriwr is-raddedig drwy gyfrwng y Gymraeg/yn ddwyieithog.
-
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dyfarnu nifer o ysgoloriaethau i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau penodol yn rhannol, neu’n gyfan gwbl, drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r Drindod Dewi Sant yn chwarae rôl allweddol wrth ddarparu addysg uwch cyfrwng Cymraeg ac mae ganddi Gangen weithgar o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r Gangen yn trefnu arlwy o ddigwyddiadau academaidd a chymdeithasol i staff a myfyrwyr, o ddigwyddiadau’r glas a chinio blynyddol, i ddarlith flynyddol a chynadleddau yn ogystal a’r Côr cymdeithasol a phaned a sgwrs. Mae’r Gangen hefyd yn cynnig cefnogaeth ieithyddol ac ariannol i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith.

Mae’r Gymdeithas Gymraeg – yn cael ei rhedeg gan fyfyrwyr y Brifysgol, a threfnir gweithgareddau a digwyddiadau cymdeithasol amrywiol, gan roi digon o gyfleoedd i wneud ffrindiau a chael profiadau newydd; o deithiau rygbi rhyngwladol i gystadlaethau chwaraeon ac Eisteddfodau’r Rhyng-gol … mae llu o gyfleoedd a gweithgareddau at ddant pawb!

Mae Canolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol yma i’ch cefnogi. Yn ogystal â bod yn gyfrifol am hyrwyddo a datblygu cyfleoedd addysg cyfrwng Cymraeg, mae’r ganolfan yn gartref i Rhagoriaith a Pheniarth.
Beth am Ddysgu Cymraeg?
Yma’n y Drindod Dewi Sant rydym yn ymrwymo i hyfforddi a pharatoi myfyrwyr ar gyfer y Gymru ddwyieithog. Rydym yn darparu gwersi Cymraeg yn rhad ac am ddim i’n staff a’n myfyrwyr. Hoffech chi ddysgu Cymraeg tra yn y Brifysgol a chofleidio’r cyfle i uwchsgilio’ch hun a pharatoi ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol mewn gweithle dwyieithog? I gofrestru eich diddordeb a chael gwybod mwy am gyrsiau Cymraeg sydd ar gael, cysylltwch â ni ar tiwtorcymraeg@pcydds.ac.uk
Eich Hawliau
Mae gennych chi i dderbyn gwasanaethau yn y Gymraeg. Mae’r hawliau yma wedi cael eu creu o ganlyniad i osod ‘Safonau Iaith’ ar y Brifysgol.
Defnyddiwch eich hawliau – gofynnwch am y Gymraeg!
- Gwasanaeth cwnsela yn Gymraeg
- Cyfarfodydd yn Gymraeg
- Cyflwyno gwaith ysgrifenedig yn Gymraeg
- Cais am gymorth ariannol yn Gymraeg
- Ffurflenni yn Gymraeg
- Llyfryn croeso yn Gymraeg
- Llythyrau yn Gymraeg
- Prosbectws yn Gymraeg
- Tiwtor personol sy’n siarad Cymraeg
- Tystysgrifau yn Gymraeg
- Llety gyda siaradwyr Cymraeg eraill

Roeddwn braidd yn ansicr trwy gyfrwng y Saesneg felly mae cael y cyfle i astudio cwrs BA Perfformio trwy gyfrwng y Gymraeg yn fraint. Yn ogystal, mae’r ysgoloriaethau y mae’r Coleg Cymraeg yn eu cynnig yn rhoi hwb enfawr i fyfyrwyr sy’n astudio yn y Gymraeg.