Hawliau Dynol
Hawliau Dynol
Mae’r cymorth hwn yn cynnwys cefnogi’r gwaith o ddosbarthu canllaw newydd ar hawliau dynol, sy’n ceisio dangos pam maent yn bwysig i fywydau bob dydd pobl Abertawe. Gellir lawrlwytho fersiynau PDF o’r canllawiau o wefan y Cyngor.
Mae’r uchelgais y mae Abertawe wedi ei datgan i ddod yn Ddinas Hawliau Dynol wedi ei rhannu gan y Brifysgol a sefydliadau allweddol eraill fel yr heddlu, y bwrdd iechyd, y gwasanaeth tân, a grwpiau gwirfoddol yn ogystal â busnesau a thrigolion ar draws y ddinas.
Human Rights
-
Mynd i’r afael â thlodi
-
Cefnogi plant a theuluoedd bregus
-
Mynd i’r afael â gwahaniaethu
-
Mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais
-
Codi ymwybyddiaeth o hawliau dynol
Human Rights
Becoming a Human Rights City
Becoming a Human Rights City
Yn yr wyth deg mlynedd neu ragor ers araith Arlywydd yr UD Franklin D. Roosevelt ar 6 Ionawr, 1941 pan fynegodd ‘y Pedwar Rhyddid’, mae’r byd wedi newid y tu hwnt i bob adnabyddiaeth ond heddiw mewn sawl rhan o’n byd mae’r ffurfiau sylfaenol hynny ar ryddid dan fygythiad. Yn ei anerchiad cynigiodd Roosevelt bedwar rhyddid sylfaenol y dylai pobl “ym mhobman yn y byd” eu mwynhau:
-
Rhyddid i lefaru
-
Rhyddid addoliad
-
Rhyddid rhag eisiau
-
Rhyddid rhag ofn
Wyth degawd yn ddiweddarach ac mae Dinas Abertawe yn anelu at ddod yn Ddinas Hawliau Dynol gyntaf Cymru.