Arolwg Hynt Graddedigion
Graduate Outcomes Survey
Mae’r arolwg Hynt Graddedigion yn arolwg cenedlaethol sy’n casglu gwybodaeth am weithgareddau a safbwyntiau graddedigion 15 mis ar ôl iddynt orffen eu hastudiaethau.
Byddwn ni eisiau gwybod beth rydych chi’n ei wneud fel y gallwn ddathlu eich cyflawniadau a chael darlun clir o’r llwybrau gyrfa amrywiol y mae eich rhaglenni gradd wedi arwain atynt. Byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wella profiadau myfyrwyr.
Gobeithio y bydd eich holl gwestiynau yn cael eu hateb yn y wybodaeth isod, ond gallwch hefyd fynd at .
Peidiwch ag anghofio, i gael dweud eich dweud, bydd angen eich cyfeiriad e-bost a’ch rhif cyswllt diweddaraf arnom. Gallwch eu diweddaru isod.
HESA video
Arolwg Hynt Graddedigion
-
Gofynnir i’r holl raddedigion sydd wedi cwblhau cyrsiau perthnasol gymryd rhan yn yr arolwg Hynt Graddedigion. Dim ond tua 10 munud mae’n ei gymryd i’w gwblhau.
Mae’n ceisio deall a ydych chi mewn cyflogaeth, wedi parhau gydag astudiaeth bellach neu’n gwneud rhywbeth arall, ac mae’n ystyried i ba raddau y mae eich cymhwyster wedi chwarae rhan.
Gofynnir i chi wneud yr arolwg hyd yn oed os ydych chi wedi parhau â’ch astudiaethau gyda ni, a hyd yn oed os gwnaethoch chi eich cwrs fel rhan o’ch cyflogaeth, neu fel gofyniad ar gyfer eich cyflogaeth bresennol.
-
Bydd eich ymateb yn ddienw ond bydd yn helpu’r Drindod Dewi Sant i farchnata a gwerthuso ein cyrsiau a bydd yn rhoi cipolwg hefyd i fyfyrwyr presennol ac yn y dyfodol ar gyrchfannau a datblygiad gyrfa.
Mae’r arolwg hefyd o arwyddocâd cenedlaethol. Mae’n caniatáu i lunwyr polisi, elusennau, newyddiadurwyr, ymchwilwyr ac eraill ddeall y sector addysg uwch a chyflwr y farchnad lafur i raddedigion.
-
Mae’r arolwg yn cael ei gynnal gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) felly byddant yn cysylltu â chi ar ran y Brifysgol.
Byddwch yn derbyn e-bost gan UniversityOfWalesTrinitySaintDavid@graduateoutcomes.ac.uk yn eich gwahodd i gwblhau’r arolwg ar-lein. Efallai y byddwch hefyd yn derbyn negeseuon testun gan ‘G°ù²¹»å°¿³Ü³Ù³¦´Ç³¾±ð’ a galwadau gan IFF Research ar ran y Brifysgol fel y gallwch gwblhau’r arolwg dros y ffôn. Os nad oes modd cysylltu â chi, efallai y byddwn yn gofyn i drydydd parti fel aelod o’r teulu am y wybodaeth hon.
Peidiwch ag anghofio, er mwyn cysylltu â chi, y byddwn angen eich gwybodaeth ddiweddaraf. Os nad ydych chi’n meddwl ei bod gennym ni, gallwch chi ddiweddaru’ch manylion.
Os ydych chi’n fyfyriwr cyfredol, gallwch ddiweddaru’ch manylion gan ddefnyddio
-
Byddwch yn cael yr arolwg tua 15 mis ar ôl i chi gwblhau eich astudiaethau.
Bydd graddedigion yn cael eu grwpio ar draws y flwyddyn yn bedair carfan yn seiliedig ar ddyddiad gorffen eich cwrs. Yn dibynnu ar ba bryd y daeth eich cwrs i ben, byddwch yn derbyn eich gwahoddiad arolwg tua 15 mis yn ddiweddarach. Er enghraifft, os daeth eich cwrs i ben ym mis Mai i fis Gorffennaf 2023, byddwch yn derbyn gwahoddiad yr arolwg ym mis Medi 2024.
Mae’r tabl isod yn dangos pryd y byddwch yn cael yr arolwg:
Dyddiad gorffen y cwrs Cyfnod yr arolwg Awst – Hydref 2022 Rhagfyr 2023 – Chwefror 2024 Tachwedd 2022 – Ionawr 2023 Mawrth – Mai 2024 Chwefror – Ebrill 2023 Mehefin – Awst 2024 Mai – Gorffennaf 2023 Medi - Tachwedd 2024