ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Busnes a Rheolaeth (Rhan amser) (BA Anrh)

Caerfyrddin
6 blynedd rhan-amser
88 o Bwyntiau UCAS

Oes gennych chi ddiddordeb mewn Busnes a Rheoli ac am helpu i lunio dyfodol gwell? Mae ein cwrs, sydd wedi’i leoli ar gampws Caerfyrddin, wedi’i gynllunio i’ch paratoi ar gyfer gyrfa mewn amgylchedd byd-eang sy’n newid yn gyflym. Byddwch yn dysgu sut y gall busnes cyfrifol ysgogi newid cadarnhaol mewn meysydd cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd.

Bydd y rhaglen hon yn dyfnhau eich dealltwriaeth o sefydliadau, eu rheolaeth, yr economi, a’r amgylchedd busnes. Byddwch yn datblygu sgiliau proffesiynol hanfodol fel meddwl beirniadol, datrys problemau, creadigrwydd a myfyrio. Mae ein cwrs yn annog agwedd flaengar ac arloesol, gan eich helpu i ddeall effaith gweithredoedd a sut y gall busnes a chymdeithas addasu ar gyfer dyfodol cynaliadwy.

Byddwch yn archwilio meysydd allweddol fel cyfiawnder cymdeithasol, moeseg a lles a gweld sut mae’r rhain yn berthnasol i fusnes a rheoli. Ein nod yw eich helpu i ddod yn ddinesydd byd-eang sy’n cyfrannu at fyd cynaliadwy drwy eich gyrfa a’ch bywyd personol.

Trwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn ennill sgiliau digidol a sgiliau dadansoddi, yn dysgu am farchnata, rheoli adnoddau dynol ac arweinyddiaeth. Byddwch hefyd yn ymchwilio i ymarfer rheoli, ymddygiad sefydliadol a gweithrediadau busnes. Bydd pynciau fel strategaeth gorfforaethol, rheoli cadwyn gyflenwi a chyfrifeg hefyd yn cael eu trafod er mwyn sicrhau bod gennych ddealltwriaeth gyflawn o’r maes.

Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i fod yn entrepreneuraidd ac arloesol, gan eich annog i feddwl yn greadigol, a datblygu syniadau newydd. Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn meddu ar sgiliau meintiol ac yn barod i fynd i’r afael â heriau busnes modern gyda meddylfryd moesegol.

Ymunwch â ni a dod yn rhan o genhedlaeth sy’n llywio meddylfryd busnes ac yn cyfrannu’n gadarnhaol at y byd.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
227W
Hyd y cwrs:
6 blynedd rhan-amser
Gofynion mynediad:
88 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Byddwch yn rhan o ailfeddwl busnes ar gyfer byd sy’n newid trwy ymuno ag ysgol fusnes arobryn.
02
Astudiwch fusnes o bersbectif cyfoes â modylau a ddyluniwyd i roi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer arwain busnes yn y dyfodol.
03
Ymunwch ag amgylchedd cefnogol lle byddwch yn trafod pynciau mewn grwpiau bach mewn cymuned ddysgu o staff a myfyrwyr.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein cwrs Busnes a Rheoli yn canolbwyntio ar ddysgu ymarferol a meddwl beirniadol. Ein nod yw datblygu myfyrwyr i fod yn ddinasyddion byd-eang sy’n gallu arwain yn gyfrifol ac arloesi’n gynaliadwy ym myd busnes.

Byddwch yn adeiladu sylfaen mewn egwyddorion rheolaeth busnes. Byddwch yn astudio cyfrifeg, marchnata a rheoli adnoddau dynol. Bydd sgiliau allweddol fel llythrennedd digidol, dadansoddi meintiol a datrys problemau yn cael eu datblygu trwy fodiwlau ymarferol, diddorol.

Heriau Busnes Byd-eang

(20 credydau)

Dysgu a Chydweithio ar gyfer Dinasyddiaeth Fyd-eang

(20 credydau)

Menter Gynaliadwy

(20 credydau)

Rheolaeth Ariannol ar gyfer Cynaliadwyedd Busnes

(20 credydau)

Dulliau Rheoli Cyfoes

(20 credydau)

Arbenigrwydd ac Adfywio

(20 credydau)

Byddwch yn dyfnhau eich dealltwriaeth o ymarfer rheoli ac ymddygiad sefydliadol. Bydd y cyrsiau’n cynnwys strategaeth gorfforaethol, rheoli cadwyn gyflenwi, a gweithrediadau busnes. Byddwch hefyd yn gwella eich sgiliau meddwl beirniadol a chreadigol wrth weithio ar broblemau busnes yn y byd go iawn.

Marchnata Cyfrifol

(20 credydau)

Interniaeth a Gwirfoddoliaeth

(20 Credydau)

Gwleidyddiaeth a Dadansoddi Polisi

(20 Credydau)

Newid ac Arloesi Technolegol

(20 credydau)

Ymholiad ac Ymchwil Busnes

(20 credydau)

Gweithio mewn Byd Cynhwysol

(20 Credydau)

.

Busnes Cyfrifol o Safbwynt Byd-eang

(20 credydau)

Busnes Digidol

(20 credydau)

Strategaethau ar gyfer Gwydnwch a Ffyniant

(20 credydau)

Traethawd Hir Busnes Cynaliadwy

(40 Credydau)

Yr Economi Werdd

(20 Credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 88 o Bwyntiau UCAS.

    Mae gennym ddiddordeb mewn ymgeiswyr sydd am gyfrannu i ddyfodol busnes a rheolaeth.  Nid oes angen yr astudiaeth flaenorol a byddem yn croesawu ymgeiswyr gan amrywiaeth eang o gefndiroedd.

    Ein cynnig arferol ar gyfer y BA yw 88 pwynt tariff UCAS, a 46 pwynt tariff UCAS ar gyfer yr HND.  Perchir dyfarniadau Lefel A ac Edexcel, yn ogystal ag ystod o dystysgrifau eraill ar y lefel hon o’r DU, yr UE a chyrff rhyngwladol.

    Derbynnir nifer o gymwysterau cyfatebol eraill yn gyfraniad at eich pwyntiau tariff UCAS a bydd y panel derbyniadau’n ystyried pob cais yn unigol. Sylwer hefyd nad yw ein cynigion wedi’u seilio ar eich cyraeddiadau academaidd yn unig; byddwn yn cymryd i ystyriaeth ystod lawn eich sgiliau, eich profiad a’c chyflawniadau wrth ystyried eich cais.

  • Caiff y rhaglen BA Busnes a Rheolaeth ei hasesu trwy gyfuniad o ddulliau arloesol a rhai mwy traddodiadol a ddyluniwyd i ddatblygu dealltwriaeth myfyrwyr, y gallu i ddatrys problemau a meddwl yn greadigol yn ystod eu tair blynedd o astudio.

    Mae asesiadau wedi eu cysylltu’n agos â gweithgareddau dysgu, lle mae plant adeiladu dealltwriaeth a sgiliau mewn sesiynau wythnosol ac y mae modd iddynt ddysgu oherwydd asesiad ffurfiannol gydol y rhaglen.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis prif brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol.

    Efallai yr hoffai myfyrwyr fynd ar ymweliadau dewisol dros nos yn y DU neu dramor ar ryw adeg yn ystod eu rhaglen astudio, gydag amcangyfrif o £600-£1000. Unwaith eto, nid yw presenoldeb ar ymweliadau maes dros nos ychwanegol yn orfodol ac ni fyddant yn effeithio ar y radd derfynol. Mae costau ar gyfer ymweliadau maes sy’n rhan o’r modylau wedi eu cynnwys yn ffioedd y cwrs.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • BA Business and Management students have the opportunity to apply for our study abroad programme. If accepted, students will study overseas in one of our US or Canadian partner institutions for the second semester of level 5.

  • Noda adroddiad gan Fforwm Economaidd y Byd, erbyn 2020 y bydd 55% o’r sgiliau a ystyrir yn bwysig i gael swydd heddiw wedi newid; yn ôl yr adroddiad, y tri uchaf y bydd galw amdanynt gan y gweithlu fydd datrys problemau, meddwl yn feirniadol a chreadigrwydd. Trwy astudio Busnes a Rheolaeth gyda ni, byddwch yn dysgu’r sgiliau a’r galluoedd i ddatrys problemau’r dyfodol yn greadigol trwy fynd ati i gyflawni dysgu sy’n seiliedig ar broblemau ac sy’n anelu at drawsnewid eich meddwl am fusnes a rheolaeth.  Oddi mewn i’r rhaglen, byddwch yn gweithio ar brosiectau byw ar gyfer amrywiaeth o sefydliadau a byddwch hefyd yn cyflawni interniaeth orfodol yn y sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol.

    Mae ein graddedigion yn symud ymlaen i amrywiaeth o feysydd yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol mewn meysydd megis arweinyddiaeth cynaliadwyedd, rheolaeth ariannol, marchnata, rheolaeth adnoddau dynol, rheolaeth prosiectau, datblygu cymunedol ac adfywio.

    Mae pwyslais ar entrepreneuriaeth ac arloesi yn y rhaglen hefyd wedi golygu bod nifer o’n graddedigion diweddar wedi gadael i sefydlu eu busnesau llwyddiannus eu hunain ac mae Ysgol Fusnes Caerfyrddin yn mynd ati’n rhagweithiol i gyfeirio myfyrwyr at gymorth mewnol ac allanol ar gyfer datblygiad busnes.

    Mae nifer o’n graddedigion yn dewis symud ymlaen i astudio pellach ar lefel Meistr neu Ddoethuriaeth naill ai yn Y Drindod Dewi Sant neu mewn prifysgolion eraill.  Yn Ysgol Fusnes Caerfyrddin, rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni ac mae gennym nifer o fyfyrwyr Doethuriaeth gweithredol.

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau