Anastasiia yn PCYDDS
Profiad Anastasiia ar BA (Anrh) Dylunio Graffig

Beth yw eich hoff beth am gampws Abertawe?
Dwi’n falch o allu defnyddio’r ystafell Mac ar unrhyw adeg, mae’n rhoi cyfle i mi weithio mewn heddwch. Dwi hefyd yn mwynhau gweithdai.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Es i ar y cwrs ‘Celf Liw Nos’ ac ro’n wir yn hoffi’r Brifysgol a’r dull ymarferol o ddysgu.
Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Dwi’n mynd i’r gampfa ac yn paentio yn fy amser rhydd.
Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?
Dwi’n gobeithio cael swydd mewn cwmni gyda gweithwyr ifanc a chreadigol. Mae addysg yn rhoi llawer iawn o ysbrydoliaeth ac egni i mi, a dwi eisiau bod yn ei chanol hi.
Beth yw eich hoff beth am y cwrs?
Y cyfle i fynd i weithdai, ymweld ag arddangosfeydd modern a siopau argraffu, cyfathrebu’n agored gydag athrawon, a’r posibilrwydd o deithio a chyfnewid profiadau.

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Yn bendant, baswn i’n argymell PCYDDS yn fawr. Mae’r rhaglen yn ddiddorol ac yn gynhwysfawr, mae’n rhoi llawer o brofiad a sgiliau ymarferol sy’n uniongyrchol berthnasol i senarios y byd go iawn.