Gofynion Iaith Saesneg
Gofynion Saesneg
Mae’n rhaid i bob Myfyriwr Rhyngwladol sy’n ceisio mynediad i’r Brifysgol ddangos eu bod yn rhugl yn y Saesneg i’r lefel a nodir yng ngofynion mynediad a pholisi Saesneg y Brifysgol.
Hefyd, mae’n rhaid i’r Brifysgol gynnal asesiad ffurfiol o allu Saesneg pob myfyriwr y maen nhw’n bwriadu ei noddi dan y llwybr Fisa Myfyriwr. Bydd rhaid i ymgeiswyr sydd angen nawdd fodloni gofynion Saesneg y Brifysgol ei hun yn ogystal â rhai UKVI.
Bydd pob cwrs a gynigir gan y Brifysgol yn nodi lefel y Saesneg sy’n ofynnol i gael mynediad i’r cwrs. Ar y cyfan, byddant yn uwch na’r hyn y mae UKVI yn ei ofyn at ddibenion mewnfudo.
Sylwch fod y Brifysgol yn cadw’r hawl i ofyn i unrhyw ymgeisydd gwblhau asesiad Saesneg gydag un o’i aseswyr Saesneg ei hun, ni waeth pa dystiolaeth o hyfedredd Saesneg a ddarperir. Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i beidio â chaniatáu mynediad ar sail yr asesiad hwn, pan fo rheswm i amau a yw hyfedredd Saesneg yr ymgeisydd yn ddigonol.
Mae'r gofynion Saesneg ar gyfer mynediad fel a ganlyn:
-
Lefel Saesneg gyffredinol sy’n cyfateb i sgôr IELTS o 5.0, gyda dim llai na 4.5 mewn darllen, siarad, a gwrando, a sgôr o 5.0 mewn ysgrifennu.
-
Lefel Saesneg gyffredinol sy’n cyfateb i sgôr IELTS o 6.0 (neu gyfwerth) heb unrhyw sgôr is na 5.5 mewn darllen, ysgrifennu, gwrando, a siarad.
-
Lefel Saesneg gyffredinol sy’n cyfateb i sgôr IELTS o 6.5 (neu gyfwerth) heb unrhyw sgôr is na 6.5 mewn darllen ac ysgrifennu, a dim is na 5.5 mewn gwrando neu siarad.
-
Gall ymgeiswyr fodloni gofynion mynediad Saesneg y Brifysgol yn awtomatig ar gyfer pob cwrs academaidd os ystyrir eu bod yn siaradwyr Saesneg brodorol o ganlyniad i fod yn ddinesydd gwlad ble mae’r mwyafrif yn siarad Saesneg:
- Antigua a Barbuda
- Awstralia
- Y Bahamas
- Barbados
- Belize
- Canada
- Dominica
- Grenada
- Guyana
- Iwerddon
- Jamaica
- Malta
- Seland Newydd
- St Kitts a Nevis
- St Lucia
- St Vincent a’r Grenadines
- Trinidad a Tobago
- Y Deyrnas Unedig
- Unol Daleithiau America
-
Yn ogystal â’r uchod, gall ymgeiswyr ddarparu’r dystiolaeth ganlynol er mwyn bodloni gofynion Saesneg eu cwrs:
- Cyrsiau Rhaglen Sylfaen Ryngwladol, Tystysgrif Addysg Uwch a HND
- Prawf Saesneg Diogel (SELT) a gydnabyddir gan UKVI.
-
Os yw’r ymgeisydd:
- Wedi cwblhau cymhwyster israddedig neu ôl-raddedig cydnabyddedig mewn sefydliad cydnabyddedig sydd wedi’i leoli yn un o’r gwledydd uchod ble mae’r mwyafrif yn siarad Saesneg (efallai y bydd y Brifysgol eisiau gweld tystysgrifau, trawsgrifiadau a/neu ddogfennau eraill sy’n nodi ym mha iaith y cyflwynwyd ac yr aseswyd y cwrs cyn gwneud cynnig).
- Wedi ennill cymhwyster israddedig neu ôl-raddedig cydnabyddedig o fewn y deg mis ar hugain diwethaf mewn sefydliad cydnabyddedig sydd wedi’i leoli yn un o’r gwledydd uchod ble mae’r mwyafrif yn siarad Saesneg (efallai y bydd y Brifysgol eisiau gweld tystysgrifau, trawsgrifiadau a/neu ddogfennau eraill sy’n nodi ym mha iaith y cyflwynwyd ac yr aseswyd y cwrs cyn gwneud cynnig).
- Wedi cael dyfarniad Prawf Saesneg Diogel (SELT) a gydnabyddir gan UKVI o fewn 30 mis i wneud cais am fynediad i’r Brifysgol.
- Ag un o’r dogfennau Prawf Saesneg canlynol sydd wedi’i dyfarnu o fewn 30 mis i wneud cais am fynediad i’r Brifysgol:
Enw’r Cymhwyster
³§²µÃ´°ù&²Ô²ú²õ±è;°¿´Ú²â²Ô²Ô´Ç±ô
IELTS (Academaidd) ar gyfer UKVI
Sgôr gyffredinol o 6.0, heb sgôr is na 5.5 mewn Darllen, Ysgrifennu, Gwrando neu Siarad.
Cambridge English: C1 Advanced.
Isafswm sgôr o 169 yn gyffredinol gydag o leiaf 162 ym mhob cydran.
Cambridge English: B2 Business Vantage
(BEC Vantage)
– ar gyfer cyrsiau Busnes yn unig.
Isafswm sgôr o 169 yn gyffredinol gydag o leiaf 162 ym mhob cydran.
Cambridge English: C1 Business Higher
(BEC Higher)
– ar gyfer cyrsiau Busnes yn unig
Isafswm sgôr o 169 yn gyffredinol gydag o leiaf 162 ym mhob cydran.
Language Cert International ESOL SELT B2 neu C1. Wedi’i sefyll mewn canolfan brawf a gydnabyddir gan UKVI
Bydd angen isafswm sgôr o 33/50 ym mhob un o’r pedair elfen.
TOEFL iBT wedi’i sefyll mewn canolfan brawf awdurdodedig
Darllen, isafswm 18; Gwrando, isafswm 17; Ysgrifennu, isafswm 17; Siarad, isafswm 20; ni dderbynnir sgoriau TOEFL MyBest.
Cambridge English: C2 Proficiency
Mae pas yn dderbyniol ar bob lefel mynediad.
Prawf Saesneg Pearson (PTE Academic) wedi’i sefyll mewn canolfan brofi UKVI.
Bydd angen isafswm sgôr o 59 ym mhob un o’r pedair cydran.
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: Prawf Iaith Academaidd Cymru
Isafswm sgôr gyffredinol o 6.0 gyda dim sgôr is na 5.5 mewn Darllen, Ysgrifennu, Gwrando a Siarad.
Prawf Sgiliau Saesneg Integredig (ISE) Trinity II neu III wedi’i sefyll yn y DU mewn canolfan brawf a gymeradwywyd gan UKVI
Pas
Bagloriaeth Ryngwladol
Lefel 5 Uwch neu Lefel 5 Safonol Iaith A neu Lefel 5 Uwch neu Lefel 5 Safonol Iaith B
IGCSE Caergrawnt
Bydd gradd C (gradd 4) neu uwch mewn IGCSE Saesneg Ail Iaith yn bodloni’r gofynion hyfedredd Saesneg ar gyfer astudiaeth israddedig.
-
Os yw’r ymgeisydd:
- Ag un o’r cymwysterau canlynol wedi’i ddyfarnu o fewn dwy flynedd i wneud cais i’r Brifysgol:
Enw’r Cymhwyster
³§²µÃ´°ù&²Ô²ú²õ±è;°¿´Ú²â²Ô²Ô´Ç±ô
SQA HND mewn Busnes
Pàs ynghyd â phasio cyfweliad gydag Asesydd Saesneg PCYDDS
Diploma Addysg Uwchradd Hong Kong (HKDSE)
Lefel 4 mewn Saesneg Iaith (gydag o leiaf lefel 3 ym mhob sgil) yn ogystal â phasio cyfweliad gydag Asesydd Saesneg PCYDDS.
Safon XII India, Saesneg Iaith ac eithrio byrddau Punjab a Haryana
70% neu’n uwch yn yr elfen Saesneg
Maes llafur 1119 Malaysia (UCLES)
Ar gyfer cyrsiau sydd â gofyniad cyfwerth â sgôr IELTS cyffredinol o 6.0 neu is: Gradd C neu uwch. Ar gyfer cyrsiau sydd angen sgôr IELTS cyffredinol o 6.5: Gradd B neu uwch.
Tystysgrif Addysg Wganda (UCE)
Gradd 6 neu uwch
WAEC Nigeria a Ghana
Gradd C6 Saesneg neu uwch
Vitnemal Norwy
Gradd 4 mewn Saesneg
BGCSE Botswana Gradd C neu uwch -
Cyrsiau Ymchwil i Raddedigion
Os yw’r ymgeisydd:
- Wedi ennill cymhwyster israddedig neu ôl-raddedig cydnabyddedig o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf mewn sefydliad cydnabyddedig sydd wedi’i leoli yn un o’r gwledydd uchod ble mae’r mwyafrif yn siarad Saesneg (efallai y bydd y Brifysgol eisiau gweld tystysgrifau, trawsgrifiadau a/neu ddogfennau eraill sy’n nodi ym mha iaith y cyflwynwyd ac yr aseswyd y cwrs cyn gwneud cynnig).
- Wedi pasio Prawf Saesneg Diogel (SELT) a gydnabyddir gan UKVI o fewn 2 flynedd i wneud cais i’r Brifysgol.
- Ag un o’r dogfennau Prawf Saesneg canlynol sydd wedi’i dyfarnu o fewn 2 flynedd i wneud cais am fynediad i’r Brifysgol::
Enw’r Cymhwyster
³§²µÃ´°ù&²Ô²ú²õ±è;°¿´Ú²â²Ô²Ô´Ç±ô
IELTS (Academaidd) ar gyfer UKVI
Sgôr gyffredinol o 6.5 neu uwch gyda dim is na 6.5 mewn Darllen ac Ysgrifennu, a dim is na 5.5 mewn Gwrando neu Siarad.
Cambridge English: C1 Advanced
Sgôr o 176 neu uwch, heb sgôr is na 162 mewn Darllen, Ysgrifennu, Gwrando a Siarad.
Cambridge English: C2 Proficiency
Sgôr o 176 neu uwch, heb sgôr is na 162 mewn Darllen, Ysgrifennu, Gwrando a Siarad.
Prawf Saesneg Pearson (PTE Academic) wedi’i sefyll mewn canolfan brofi UKVI
Sgôr o 62 neu uwch ym mhob un o’r pedwar cydran.
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: Prawf Iaith Academaidd Cymru
Sgôr cyffredinol o 6.5 neu uwch a dim sgôr is na 6.5 mewn Darllen ac Ysgrifennu, a dim is na 5.5 mewn Gwrando a Siarad.
Sgiliau Saesneg Integredig Trinity (ISE)
Rhagoriaeth ym mhob cydran
Sgiliau Saesneg Integredig Trinity (ISE) II
Pas neu uwch yn gyffredinol, gyda phas neu uwch ym mhob cydran
Cyrsiau Iaith Saesneg Cyn-sesiynol
Mae Cyrsiau Iaith Saesneg Cyn-sesiynol ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd wedi cael cynnig o le ar raglen radd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ond sydd angen gwella eu hyfedredd yn y Saesneg a/neu Sgiliau Astudio cyn astudio eu dewis bwnc.
Bydd holl gyrsiau cyn-sesiynol 2024 yn cael eu cynnal ar y campws.
- Mae ein holl gyrsiau cyn-sesiynol yn ddwys, gan gynnwys o leiaf 16 awr o amser cyswllt yr wythnos a chyfnodau rheolaidd o hunanastudio, cyfarfodydd wythnosol gyda thiwtor personol a mynediad i raglen gymorth ddigidol.
- Cyflwynir ein holl gyrsiau gan dîm o Athrawon Saesneg at Ddibenion Academaidd (EAP) tra chymwys.
- Mae holl ddeunyddiau’r cwrs wedi’u cynnwys yn y gost.
- Caiff eich cynnydd ar gyrsiau cyn-sesiynol ei fonitro’n agos a bydd yr asesiadau’n ffurfiannol a chrynodol.
Bydd angen i chi ddangos tystiolaeth eich bod yn bodloni’r gofynion mynediad o ran y Saesneg trwy dystysgrif Prawf Iaith Saesneg Diogel (SELT) adeg gwneud eich cais.
2 Awst 2024 i 13 Medi 2024
Ffi Dysgu:&²Ô²ú²õ±è;£2,200
Gofynion mynediad lleiaf:
SELT 5.5 neu’n uwch gyda sgoriau Siarad, Gwrando a Darllen o 5.0 neu’n uwch a sgôr Ysgrifennu o 5.5. neu’n uwch.
Dyddiad cau ceisiadau: 5 Gorffennaf 2024
8 Gorffennaf 2024 i 13 Medi 2024
Ffi Dysgu:&²Ô²ú²õ±è;£3,900
Gofynion mynediad lleiaf:
SELT 5.0 neu’n uwch gyda sgoriau Siarad, Gwrando a Darllen o 4.5 neu’n uwch a sgôr Ysgrifennu o 5.0 neu’n uwch.
Dyddiad cau ceisiadau: 7 Mehefin 2024