Newyddion a Digwyddiadau
Gweler isod astudiaethau achos ac eitemau newyddion diweddar yn cynnwys gwybodaeth am weithdai.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cael gwybodaeth bellach am ein newyddion a digwyddiadau, cysylltwch â’r tîm. Gallwn eich ychwanegu at ein rhestr bostio.
Newyddion Diweddaraf
Dosbarthiadau Meistr Peintio Gwydr Hydref 2024 yng Ngholeg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant.
Mae’r Ganolfan Gwydr Pensaernïol yng Ngholeg Celf Abertawe yn falch o gyhoeddi sesiwn yr hydref o ddosbarthiadau meistr peintio gwydr arbenigol gan Jonathan Cooke.
Mae’r dosbarth meistr peintio gwydr yn addas i ddechreuwyr a’r rhai sydd â phrofiad blaenorol o beintio gwydr. Bydd Jonathan yn arddangos ac yn addysgu ei dechnegau, ac yn trafod deunyddiau, offer ac amseroedd tanio. Fe fydd digon o amser i gyfranogwyr ymarfer, cynhyrchu samplau a chreu darnau gorffenedig ar eu dyluniadau eu hunain.
Bydd dosbarth meistr ychwanegol ar gael sy’n canolbwyntio’n benodol ar ddefnyddio enamel a staeniau arian: archwilio deunyddiau a thechnegau i’w defnyddio’n bennaf mewn peintio gwydr traddodiadol, gan ddefnyddio casgliad o staeniau, enamelau tryloyw ac anhryloyw, amrywiaeth o gyfryngau a thechnegau cymysgu, systemau cymhwyso a thanio i gyflawni effeithiau a chanlyniadau gwahanol.
- Dosbarth Meistr Peintio Gwydr: 16eg – 19eg Medi £310.00
- Dosbarth Meistr Staen Arian ac Enamel: 20fed – 22ain Medi £330.00
I archebu lle, cysylltwch ag: agc@uwtsd.ac.uk.
Ffôn: 07769 210127
I weld enghreifftiau o waith Jonathan ei hun, ewch .
I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau gwydr yng Ngholeg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant, chwiliwch ar y wefan.