Llyfrgell Caerfyrddin
Mae’r Llyfrgell wedi’i lleoli gyferbyn â Bloc Parry ac Undeb y Myfyrwyr ar Gampws Caerfyrddin, ac mae modd ei chyrraedd o’r Cwad ac adeilad Carwyn James hefyd. Cafodd ei hadnewyddu’n ddiweddar er mwyn darparu amgylchedd dysgu mwy deniadol a modern i fyfyrwyr a staff ar y campws.​
Cyfleusterau Llyfrgell Caerfyrddin
Mae gan Lyfrgell Caerfyrddin ystod o fannau dysgu hyblyg ar gyfer ein holl fyfyrwyr. Mae enghreifftiau o’r mathau o ofod astudio sydd ar gael yn Llyfrgell Caerfyrddin a ble y gellir dod o hyd iddyn nhw, isod.
-
P’un ai eich bod yn chwilio am lyfr ar bwnc penodol, neu ryw fan penodol yn y llyfrgell (h.y. ystafell astudio neu ble i ddod o hyd i argraffwyr).
Mae Stackmap ar gyfer Llyfrgell Caerfyrddin isod
-
- Mae modd cyrraedd y brif fynedfa drwy ddefnyddio ramp.
- Mynediad drwy lifft i’r llawr cyntaf.
-
- Mae ein casgliad o lyfrau wedi’i leoli ar y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf.
- Mae ein casgliad o gyfnodolion wedi’i leoli ar y llawr gwaelod.
- Mae desg ymholiadau’r llyfrgell a’r peiriant hunanwasanaeth wedi’u lleoli ar y llawr gwaelod.
- Mae blwch ar gyfer dychwelyd llyfrau wedi’i leoli y tu allan i’r fynedfa i gyntedd y llyfrgell.
- Mae gofod arddangos yng nghyntedd y llyfrgell ar gyfer dangos gwaith myfyrwyr, arddangoswyr allanol, ac eitemau o’n casgliadau arbennig a’n harchifau.
Ymwelwyr: Mynediad i adnoddau ar-lein trwy alw i mewn
-
Gall staff a myfyrwyr o brifysgolion eraill neu aelodau o’r cyhoedd ddefnyddio detholiad cyfyngedig o’n hadnoddau ar-lein.
-
Mae teithiau o gwmpas ein llyfrgell yng Nghaerfyrddin ar gael trwy gydol y flwyddyn i ddefnyddwyr unigol a grwpiau o hyd at 15. Mae rhagor o wybodaeth am deithiau a sut i archebu lle ar gael isod.
- Dylid archebu lle ar daith o leiaf dri diwrnod ymlaen llaw gan ddefnyddio’r ffurflen archebu lle ar deithiau llyfrgell.
- Dim mwy na 15 o fyfyrwyr fesul taith.
- Bydd pob taith yn cymryd tua 30 munud.
- Mae teithiau llyfrgell yn ymdrin ag agweddau hanfodol o ddefnyddio’r llyfrgell, a benthyca eitemau corfforol.