Academi Chwaraeon
Ymunwch â'r Garfan
Ydych chi’n dwlu ar chwaraeon cystadleuol? Byddwch y gorau y gallwch chi fod gydag Academi Chwaraeon Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wrth i chi astudio ar gyfer eich gradd a chreu’r profiad prifysgol rydych wedi breuddwydio amdano erioed.
Ein Cyfleusterau
Ar y Campws
Ar hyn o bryd mae gwasanaethau’r academi chwaraeon wedi’u lleoli ar ein campysau yn ne-orllewin Cymru. Fodd bynnag, os oes myfyrwyr sy’n athletwyr perfformiad uchel a allai gynrychioli’r Brifysgol ym mhencampwriaethau BUCS, cysylltwch â’r academi. Gallai fod opsiwn i gael mynediad at raglenni hyfforddi, cyngor ar faeth a chefnogaeth ychwanegol o bell, yn dibynnu ar y gamp.
Hyfforddiant Proffesiynol
Cewch hyfforddiant ar lefel broffesiynol mewn camp benodol, hyfforddiant cryfder a chyflyru, ynghyd â chyngor ar faeth, deiet a ffordd o fyw. Byddwch yn hyfforddi mewn cyfleusterau campfa newydd, sydd â set gyflawn o offer sy’n arwain y diwydiant, a gallwch fwynhau cyfleoedd rheolaidd i gystadlu yng nghynghreiriau, digwyddiadau a phencampwriaethau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS). Mae ein staff profiadol a hyfforddwyr proffesiynol wrth law i’ch helpu i ffynnu a llwyddo ym myd chwaraeon.
Beth rydym yn ei gynnig
Mae’r Academi Chwaraeon yn darparu’r llwybr perfformiad hwn ar gyfer y chwaraeon ffocws canlynol; Rygbi - Gwryw a Benyw, Pêl-droed - Gwryw a Benyw, Pêl-rwyd - Benyw a Chwaraeon Unigol - Gwryw a Benyw.
Mae holl fyfyrwyr yr Academi sydd ar y llwybrau hyn yn cael mynediad at; Hyfforddiant, Cryfder a chyflyru, Cyngor maeth a diet, Gwyddor chwaraeon, Therapi chwaraeon, Dadansoddi Perfformiad a Rheoli ffordd o fyw.
Rydym yn cefnogi ac yn gweithio gyda’r clybiau Chwaraeon Undeb Myfyrwyr canlynol; Clwb Rygbi PCYDDS, Clwb Pêl-droed PCYDDS, Clwb Pêl-rwyd PCYDDS a Clwb Chwaraeon Unigolion PCYDDS.
Y clybiau hyn sy’n cystadlu yng nghynghreiriau, cwpanau, digwyddiadau a phencampwriaethau BUCS. Fel arfer, bydd myfyrwyr sy’n rhan o’r clybiau hyn yn cael 2/3 sesiwn chwaraeon, dwy sesiwn cryfder a chyflyru, ac un sesiwn ddadansoddi bob wythnos, a hynny ar wahân i’w hastudiaethau, eu dyletswyddau i’w clwb, a’u cyfleoedd cymdeithasol.