Connor Davies yn PCYDDS
Enw: Connor Davies
Cwrs: BA Dylunio Graffig a Chyfathrebu Gweledol
Astudiaethau Blaenorol: Safon Uwch mewn Dylunio Graffig, Celfyddydau Perfformio a Bagloriaeth Cymru
Tref eich cartref: Aberdâr, Cwm Cynon, de Cymru
Profiad Connor ar BA Dylunio Graffig a Chyfathrebu Gweledol
Beth yw eich hoff beth am gampws Abertawe?
Cael fy amgylchynu gan gymaint o bobl greadigol o’r un anian a’r holl wahanol arddulliau celf sy’n cael eu harddangos ar draws y campws.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Ces i gynnig lle diamod gan PCYDDS yn fy nghyfweliad, ac fe wnaeth hynny ddylanwadu ar fy newis, roeddwn i’n teimlo ein bod ar yr un donfedd â nhw ac yn meddwl y gallwn i ddysgu cymaint gan yr holl wahanol ddarlithwyr.
Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Rwy’n ddawnsiwr ar gyfer gwahanol gwmnïau ac ysgolion ledled y DU sy’n rhoi cyfle i mi deithio’r byd, o’r Almaen i America, naill ai i berfformio neu ddysgu, does dim llawer sy’n well gen i na dawnsio.
Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?
Fy mreuddwyd, mewn gwirionedd, yw parhau i wneud yr hyn rwy’n ei wneud nawr - gwneud bywoliaeth o fod yn greadigol.
O graffeg i ddawns, rydw i wir yn credu mai celf sy’n gwneud i’r byd droi.
Byddwn i wrth fy modd yn adeiladu fy stiwdio greadigol fy hun, gydag adrannau gwahanol ar gyfer dawns, graffeg, ffotograffiaeth a chymaint mwy.
Beth yw eich hoff beth am y cwrs?
Ar hyn o bryd, fy hoff beth am y cwrs yw pa mor ystyriol yw’r darlithwyr o bynciau sensitif, maen nhw mor gefnogol pan fo angen.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
 Yn bendant, byddwn i’n argymell PCYDDS, mae gan y staff gymaint o brofiad o fewn eu harbenigeddau ac mae ganddyn nhw gymaint i’w rannu â’r myfyrwyr.