ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Arweinyddiaeth a Rheolaeth Gymhwysol yn y Gweithle (Yn y Gymuned) (DipAU)

Yn y Gymuned
2 Blynedd Llawn Amser

Dysgu a datblygu strategaethau arwain a rheoli yn y gweithle gyda’n rhaglen Arwain a Rheoli Cymhwysol DipHE yn y Gweithle.

Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio’n benodol ar gyflogadwyedd a dilyniant gyrfa yn y dyfodol trwy eich cyflwyno i’r dulliau, y strategaethau a’r sgiliau a ystyrir yn hanfodol ar gyfer cyflogaeth. Mae rôl trafodaeth a dadl wrth ddatrys problemau, datblygu eich deallusrwydd emosiynol a’ch gallu i weithio’n effeithiol, yn annibynnol ac mewn tîm, ac ymarfer myfyriol, yn rhai o’r meysydd a drafodir.

Mae’r rhaglen hon yn cynnig cyfleoedd i gael eich addysgu mewn amrywiaeth o ganolfannau cymunedol. Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno gyda’r nos yn ystod yr wythnos a dyddiau’r penwythnos er mwyn caniatáu cyflogaeth amser llawn ochr yn ochr ag astudiaethau.

Mae myfyrwyr yn graddio gyda DipHE a Thystysgrif ILM Lefel 4 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth. Yna gall myfyrwyr llwyddiannus symud ymlaen i’r rhaglen BA atodol.

Sylwch, cyflwynir y rhaglen hon hefyd yn ein lleoliadau campws eraill, sy’n cynnwys Caerfyrddin ac Abertawe.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Yn y Gymuned
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
2 Blynedd Llawn Amser

Ffioedd Dysgu 25/26
Cartref (Llawn-amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Gall myfyrwyr adeiladu eu gwybodaeth am fusnes, rheolaeth ac arweinyddiaeth, gan arwain at ddatblygu strategaethau, cynlluniau a beirniadaeth wybodus.
02
Cyfle a’r hyblygrwydd i fyfyrwyr gael eu haddysgu mewn lleoliad allgymorth yn y gymuned yn agos at ble maen nhw’n byw/gweithio, ynghyd ag astudio ar-lein. Targedir y rhai sydd eisoes yn gweithio yn ogystal â’r rhai sy’n chwilio am gyfleoedd gwaith newydd.
03
Mae pob modwl wedi’i fapio naill ai i gyrff proffesiynol neu ddyfarnu yn y maes hwn.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Nodau’r rhaglen yw:

  • Rhoi cyfle i ddysgwyr astudio am ddyfarniad sy’n canolbwyntio’n benodol ar gyflogadwyedd a dilyniant gyrfa yn y dyfodol
  • Cyflwyno myfyrwyr i ddulliau, strategaethau a sgiliau a ystyrir yn hanfodol ar gyfer cyflogaeth mewn cyd-destun cyffredinol
  • Gwneud myfyrwyr yn gyfarwydd â thrafod a dadlau wrth brosesu a datrys problemau
  • Datblygu meddwl beirniadol myfyrwyr i gefnogi gwneud penderfyniadau mwy effeithiol ac effeithlon
  • Rhoi amrywiaeth o brofiadau dysgu i fyfyrwyr a luniwyd i’w cynorthwyo i gaffael a chymhwyso gwybodaeth
  • Galluogi dysgwyr i ddod yn rheolwyr adfyfyriol, sy’n gallu diffinio targedau personol a phroffesiynol a’u cyflawni, gan gynnwys cyfrifoldeb am ddysgu a datblygiad proffesiynol yn y dyfodol.
Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth

(20 credydau)

Datblygiad Proffesiynol Parhaus

(20 credydau)

Menter ac Entrepreneuriaeth

(20 credydau)

Cyfathrebu Rheoli

(20 credydau)

Datrys Problemau a Gwneud Penderfyniadau

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy

(20 credydau)

Datblygu'r Sefydliad Dysgu

(20 credydau)

Datblygu Meddwl Beirniadol yn y Gweithle

(20 credydau)

Deall ac Ymgysylltu â Phrofiad y Cwsmer

(20 credydau)

Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

    I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu cwrs dewisol byddwn fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.

  • Mae asesiadau wedi’u llunio i wneud yn fawr o’r cyswllt rhwng theori ac arfer a chaniatáu i fyfyrwyr ddangos trylwyredd deallusol ac adfyfyrio’n feirniadol ar eu profiadau eu hunain yn y gweithle.

    Defnyddir dulliau asesu gwahanol i alluogi myfyrwyr i ddangos yr hyn maent wedi’i ddysgu mewn amrywiol ffyrdd, megis adroddiadau, gwaith adfyfyriol, cyflwyniadau, gwaith unigol a pheth gwaith grŵp, er bod asesiad unigol bob tro. Defnyddir asesiadau ffurfiannol i gyfoethogi dealltwriaeth dysgwyr ac i fagu hyder dysgwyr, yn ogystal â nodi ymhle y gallai fod angen cymorth tiwtorial ychwanegol. Ar gyfer asesiadau ffurfiannol, gall cwisiau fod yn ddifyr a gweithio’n dda. Anogir myfyrwyr i ddod â’u hymchwil eu hunain i’r dosbarth i’w rannu ag eraill sy’n cyfrannu.

    Yn gyffredinol, darperir adborth trwy’r platfform ar-lein, Moodle. Mae tîm y rhaglen hefyd yn darparu adborth wyneb yn wyneb er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn gwerthfawrogi ac yn dysgu o’r adborth a ddarperir ac yn gallu trafod pob agwedd ar eu perfformiad a’r gwersi y gellid eu cymhwyso yn y dyfodol.

    I grynhoi, er mwyn creu ymarferwyr adfyfyriol cymwys, bydd y rhaglen yn:

    • Annog myfyrwyr i ymgymryd â darllen ac ymchwil annibynnol i ehangu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth unigol o’r pwnc
    • Defnyddio dulliau asesu sy’n rhoi pwyslais ar ddadansoddi beirniadol, gwerthuso ac arfer adfyfyriol
    • Profi gwybodaeth a sylfaen sgiliau drwy waith cwrs ac ymarferion ymarferol a asesir.
  • Fel sefydliad, ymdrechwn yn barhaus i gyfoethogi profiadau myfyrwyr ac o ganlyniad, mae’n bosibl y daw costau ychwanegol i ran y myfyrwyr sy’n gysylltiedig â gweithgareddau a fydd yn ychwanegu gwerth at eu haddysg.

    Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio heb gostau ychwanegol. Efallai bydd myfyrwyr yn dymuno cofrestru am dystysgrif L5 mewn Hyfforddi a Mentora gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth am gost ychwanegol o Â£160.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau arwain a rheoli sydd gan y myfyrwyr aeddfed a’u defnyddio yn gweithle.

    Ar ôl cwblhau’r rhaglen lefel 4 sy’n sefyll ar ei phen ei hun, gall myfyrwyr adael y Brifysgol â ThystAU lefel 4 a Thystysgrif lefel 4 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth gan yr ILM. Mae’r rhan fwyaf o’r myfyrwyr llwyddiannus yn dewis symud ymlaen a pharhau â’u hastudiaethau amser llawn drwy ymgymryd â rhaglen BA atodol am 2 flynedd. Mae’r BA 2 flynedd mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth hefyd yn cynnig cydnabyddiaeth broffesiynol gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth i’r myfyrwyr sy’n parhau â’u hastudiaethau. Cenhadaeth y Sefydliad yw “Ysbrydoli Arweinyddiaeth Ardderchogâ€.

    Mae ymgysylltu â chyflogwyr yn rhoi cyfleoedd i rwydweithio a chael gwell dealltwriaeth o’r maes astudio, ac yn helpu’r brifysgol i ragweld anghenion posibl cyflogwyr yn y dyfodol. Ymgynghorir â chyflogwyr a chyrff dyfarnu wrth ddylunio’r deunydd a chynnwys y modylau ac maent yn rhoi mewnbwn ar y rhaglen ar ffurf siaradwyr o fyd diwydiant.

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau