Astudio
Ydych chi’n barod i ddewis eich stori?
Mae deall yr opsiynau sydd ar gael i chi yn gallu bod yn ddryslyd. Rydym yma i’ch helpu i wneud y dewis iawn i chi, p’un a ydych wastad wedi gwybod beth rydych chi eisiau ein astudio neu os ydych yn dychwelyd i addysg ac eisiau cymryd pethau’n raddol.
Dewch i ddysgu rhagor am astudio yn PCYDDS ac archwilio ein rhestrau cyrsiau i ddod o hyd i’r dull astudio sy’n gweithio i chi. Cewch wybod am lwybrau astudio amgen fel rhaglenni sylfaen neu radd-brentisiaethau a chael cyngor gan yr arbenigwyr am bob cam o’r broses ymgeisio.
Mathau o Gyrsiau
Pynciau
Edrychwch ar ein clystyrau pwnc ac archwiliwch beth a gewch gyda ein meysydd pwnc yn PCYDDS. Rydyn ni wedi trefnu ein cyrsiau’n glystyrau pwnc i’ch helpu i adnabod rhaglenni cysylltiedig a allai hefyd fod o ddiddordeb i chi.
Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored
Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni.
Bellach, mae llawer o ffyrdd amgen i’r llwybrau traddodiadol i mewn i’r brifysgol. Mae dau fath o gymhwyster israddedig, y Radd Sylfaen a’r Dystysgrif Addysg Uwch, yn fwyfwy poblogaidd ac yn denu myfyrwyr am amrywiaeth o resymau.
Mae gradd-brentisiaethau’n ddewis amgen yn lle astudiaeth draddodiadol mewn prifysgol ac yn dod yn fwyfwy poblogaidd. Cynlluniau hyfforddi seiliedig ar waith ydynt. Byddwch yn cael profiad gwaith yn y byd go iawn ac yn ennill cyflog, gan weithio ar yr un pryd tuag at gymhwyster gradd wedi i chi gwblhau’r brentisiaeth yn llwyddiannus.
Mathau o Gyrsiau
Baglor yn y Celfyddydau (BA) / Baglor Gwyddoniaeth (BSc) / Baglor Peirianneg (BEng) / Baglor Cerddoriaeth (BMus) / Baglor yn y Gyfraith (LLB)
Cymhwyster Lefel 6 lle byddwch fel arfer yn astudio yn llawn-amser am dair blynedd*.
*Mae rhai graddau dwy flynedd ar gael.
Diploma Addysg Uwch (DipHE)
Cymhwyster Lefel 5 sy’n cyfateb i ddwy flynedd gyntaf rhaglen lawn-amser.
Tystysgrif Addysg Uwch (CertHE)
Cymhwyster Lefel 4 sy’n cyfateb i flwyddyn gyntaf rhaglen lawn-amser.
Diploma Cenedlaethol Uwch (HND)
Cymhwyster Lefel 5 sydd wedi’i gynllunio i fod yn gysylltiedig â gwaith ac yn alwedigaethol ei natur; mae’n gyfwerth â dwy flynedd gyntaf rhaglen radd llawn-amser.
Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC)
Cymhwyster Lefel 4 sydd wedi’i gynllunio i fod yn gysylltiedig â gwaith ac yn alwedigaethol ei natur; mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf rhaglen radd lawn-amser.
Meistr Dylunio (MDes)
Mae Gradd Meistr Integredig yn gymhwyster Lefel 7 sydd fel arfer yn gofyn am bedair blynedd o astudio llawn-amser.
Meistr yn y Celfyddydau (MA), Meistr Gwyddoniaeth (MSc) / Meistr Diwinyddiaeth (MTh) / Meistr Gweinyddu Busnes (MBA)
Cymhwyster Lefel 7 ar ôl cwblhau 180 credyd.
Tystysgrif Addysg Uwchradd i Raddedigion (TAR Uwchradd) / Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PCET) / Addysg Ôl-orfodol (PCE)
Cymhwyster sy’n cynnwys 60 credyd ar lefel 7, a 60 credyd ar lefel 6.
Diploma i Raddedigion (PGDip)
Cymhwyster Lefel 7 ar ôl cwblhau 120 credyd.
Tystysgrif i Raddedigion (PGCert) / Tystysgrif Prifysgol (UniCert)
Cymhwyster Lefel 7 ar ôl cwblhau 60 credyd.
Doethur mewn Athroniaeth (PhD)
Cymhwyster lefel 8, prosiect ymchwil a gaiff ei gwblhau fel arfer dros 3-4 blynedd os ydy’n amser llawn neu 6-8 blynedd yn rhan-amser.
Doethuriaethau Proffesiynol (DProf/ProfDoc) / Doethur mewn Gweinyddu Busnes (DBA) / Doethur mewn Addysg (EdD)
Cymhwyster lefel 8, fel arfer gyda blwyddyn o fodylau a addysgir a 2-3 blynedd am brosiect ymchwil os ydy’n amser llawn, neu 2 flynedd (a addysgir) a 4-6 blynedd (prosiect) yn rhan-amser.
Doethur mewn Athroniaeth drwy Weithiau Cyhoeddedig (PhD)
Cymhwyster lefel 8 sy’n cynnwys dadansoddiad adfyfyriol a detholiad o weithiau cyhoeddedig a adolygwyd gan gymheiriaid rhyngwladol yn flaenorol, a gaiff ei gwblhau fel arfer mewn blwyddyn yn amser llawn neu 2 flynedd yn rhan-amser.
Meistr mewn Athroniaeth (MPhil)
Cymhwyster lefel 7, sy’n gyfwerth â’r 2 flynedd astudio gyntaf ar gyfer PhD, a gaiff ei gwblhau fel arfer mewn 2-3 blynedd yn amser llawn neu 4-6 blynedd yn rhan-amser.
Meistr mewn Ymchwil (MRes)
Cymhwyster lefel 7, â 60 credyd o fodylau a addysgir a phrosiect ymchwil, a gaiff ei gwblhau fel arfer mewn 2 flynedd yn amser llawn neu 4 blynedd yn rhan-amser.
Meistr yn y Gwyddorau drwy Ymchwil (MScRes)
Cymhwyster lefel 7 heb unrhyw fodylau a addysgir, a gaiff ei gwblhau fel arfer dros 1-2 flynedd yn amser llawn neu 2-4 blynedd yn rhan-amser.
Ar y Campws
Rhaglenni lle mae myfyrwyr yn dysgu ar y campws drwy gydol y cwrs, ac eithrio elfennau ar-lein cefnogol, a fydd yn llai na 25% o gynnwys y cwrs.
Cyfunol
Rhaglenni lle mae myfyrwyr yn bresennol am fwy na 50% o gyfanswm eu horiau cyswllt.
O Bell
Rhaglenni lle nad yw myfyrwyr yn bresennol yn gorfforol yn ystod y cwrs.
Amser Llawn
Mae myfyrwyr fel arfer yn astudio 120 o gredydau bob blwyddyn academaidd
Rhan-amser
Mae myfyrwyr fel arfer yn astudio llai na 120 o gredydau bob blwyddyn academaidd, ond gall union nifer y credydau bob blwyddyn amrywio.