ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Cyngor y Brifysgol

Corff llywodraethu’r Brifysgol yw Cyngor y Brifysgol. O dan y Siarter a’r Ystatudau, mae’r Cyngor yn gyfrifol am benderfynu cymeriad addysgol a chenhadaeth y Brifysgol, gan oruchwylio ei gweithgareddau, sicrhau ei hydaledd a diogelu asedau.

Mae’r Cyngor yn gweithio’n agos gyda’r Is-Ganghellor a’r uwch aelodau Gweithredol eraill i osod cyfeiriad strategol y Brifysgol. Hefyd, mae’n gyfrifol am sicrhau bod systemau effeithiol o reolaeth a rheoli risg ar waith.

O dan drefniadau integreiddio y cytunwyd arnynt yn 2017, mae Cyngor y Brifysgol yn gweithio’n agos gyda Chyngor Prifysgol Cymru ac yn rhannu strwythur pwyllgor sefydlog. Mae cnewyllyn cyffredin o lywodraethwyr yn aelodau o’r ddau Gyngor.

Dod yn Aelod o'r Cyngor

Manylion Cyswllt

Ysgrifenydd y Brifysgol a Clerc Cynghorau PCYDDS a Phrifysgol Cymru yw:

E-bost: llywodraethu@pcydds.ac.uk

Rhennir y cyfrif e-bost hwn er mwyn sicrhau ymateb amserol.

Cefnogir y clerc o ddydd i ddydd gan y Tîm Llywodraethu, sy’n cynnwys y canlynol:

Swyddog Prif Ddyletswyddau Llywodraethu
Mrs Margaret Williams
Prif Swyddog Llywodraethu
E-bost: llywodraethu@pcydds.ac.uk
  • Gwasanaethu cyfarfodydd pwyllgorau’r Cyngor
  • Cynorthwyo gyda pharatoi papurau 
Ms Caryl Bond
Prif Swyddog Gweinyddol - Llywodraethu Corfforaethol
E-bost: llywodraethu@pcydds.ac.uk
  • Paratoi papurau ar gyfer pwyllgorau Cyngor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Cymru
  • Cefnogaeth weinyddol i Ysgrifenydd y Brifysgol 
  • Prif bwynt cyswllt ar gyfer Llywodraethwyr

Dogfennau llywodraethu

Aerial shot of Lampeter campus