Cymorth a Lles Myfyrwyr
Lles a Chymorth i Fyfyrwyr
Mae gwasanaethau cymorth myfyrwyr mewn prifysgol yn chwarae rhan ganolog wrth sicrhau bod myfyrwyr yn cael profiad academaidd llwyddiannus ac wrth eu bodd. Mae ein Hwb Myfyrwyr wedi’i greu i fod yn bwynt cyswllt cyntaf er mwyn darparu gwasanaeth gwybodaeth cynhwysfawr ar bopeth sy’n ymwneud â myfyrwyr.
Mae ein tîm gwasanaethau myfyrwyr proffesiynol a phrofiadol wrth law i roi’r wybodaeth, y cyngor, yr arweiniad a’r cymorth i chi er mewn eich helpu i wneud y mwyaf o’ch profiad yn y brifysgol – a gwneud eich taith mor esmwyth â phosibl. O gefnogaeth academaidd sy’n rhoi arweiniad ar fodiwlau a sut i gofrestru i wasanaethau myfyrwyr sy’n cynnig cefnogaeth emosiynol ac iechyd meddwl i fyfyrwyr.​
Gwasanaethau Myfyrwyr sydd ar gael
Mae bywyd prifysgol yn gyfle anhygoel i ddysgu pethau newydd a dod i adnabod eich hun, ond gall ddod â rhai heriau yn ei sgil. Mae gwasanaethau ein Hwb Myfyrwyr yn cynnig gwasanaeth cymorth proffesiynol sy’n darparu gwybodaeth, cyngor, arweiniad, cymorth ymarferol ac emosiynol o ansawdd uchel i alluogi pob myfyriwr i gyrraedd ei lawn botensial.​
Mae’r Hwb Myfyrwyr yn gasgliad o wasanaethau proffesiynol ymarferol sydd wedi’u cynllunio i alluogi a chefnogi ein holl fyfyrwyr i gyrraedd eu llawn botensial.​ Trwy ein gwasanaethau, gall myfyrwyr gael gafael ar wybodaeth, cyngor, arweiniad, cyfleoedd a chefnogaeth o ansawdd uchel yn ymwneud â chymorth lles, cymorth ariannol, cymorth dysgu, gyrfaoedd a diogelu.
Everyone has wellbeing and our wellbeing can change over time. There are lots of things you can do to look after your wellbeing.
Rydyn ni’n deall y gall pryderon ariannol fod yn rhan fawr o fywydau ac o addysg myfyrwyr
Mae ein llyfrgelloedd yn cynnig ardaloedd agored, golau gydag amrywiaeth eang o gyfleusterau a mannau astudio, sydd wedi’u creu er mwyn bod yn addas ar gyfer pob ffordd o ddysgu.
Rydym wedi ymrwymo i'ch llwyddiant academaidd ac yn credu bod taith addysgu pob myfyriwr yn unigryw. Mae ein Tîm Cymorth Dysgu wedi'i gynllunio i'ch grymuso â'r offer a'r adnoddau sydd eu hangen arnoch i ragori yn eich astudiaethau.
Rydym wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd addysgol cynhwysol a hygyrch lle gall pob myfyriwr ffynnu. Ein nod yw darparu’r offer i fyfyrwyr sydd angen cymorth i'w galluogi i weithio i’w potensial a dangos gwir lefel eu gallu fel myfyriwr israddedig neu ôl-raddedig.
Mae gwasanaethau cymorth myfyrwyr mewn prifysgol yn chwarae rhan ganolog wrth sicrhau bod myfyrwyr yn cael profiad academaidd llwyddiannus ac wrth eu bodd.​ Mae ein Hwb Myfyrwyr wedi’i greu i fod yn bwynt cyswllt cyntaf er mwyn darparu gwasanaeth gwybodaeth cynhwysfawr ar bopeth sy’n ymwneud â myfyrwyr.
Ydych chi’n barod i fynd amdani er mwyn ceisio cyrraedd eich nod? P’un ai a ydych wedi gosod eich bryd ar astudiaeth bellach, gyrfa lwyddiannus neu sefydlu eich busnes eich hun hyd yn oed, byddwn yn eich cefnogi wrth i chi ddilyn eich breuddwydion.​
Ni yw Undeb y Myfyrwyr, elusen annibynnol ar gyfer pob myfyriwr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant,
Ydych chi eisiau ffordd hyblyg o ennill cyflog wrth astudio? Ymunwch â Thîm Llysgenhadon Myfyrwyr PCYDDS.
Campysau a Lleoliadau
Yn Y Drindod Dewi Sant rydym yn poeni am holl aelodau ein cymuned, ac rydyn ni yma i wrando arnoch chi a'ch cefnogi.