Profiad Rebecca yn PCYDDS
Gan fod gen i lawer o hobïau awyr agored, fel canicross, dringo, ac ogofa, dewisais astudio BSc Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd yn PCYDDS Abertawe.
Enw: Rebecca Macfarlane
Cwrs: BSc Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd
Astudiaethau Blaenorol: BA Astudiaethau Athronyddol yn PCYDDS (er mai Prifysgol Cymru, Llambed oedd hi ar y pryd)
Tref eich cartref: Llanelli
Profiad Rebecca ar y BSc Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd
Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?
Y lleoliad – roedd y ffaith ei fod yn union wrth y môr yn ei wneud yn hawdd cael awyr iach rhwng dosbarthiadau, ond roedd yn agos iawn i ganol y ddinas hefyd pe bai angen unrhyw beth arna’i. Hefyd, roedd yn rhwydd mynd yno mewn car, oedd yn arbennig o gyfleus i mi gan fy mod yn gweithio’n llawn amser a byddai angen i mi yrru ar draws y ddinas i gyrraedd y swyddfa rhai diwrnodau.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Roedd cynnwys y cwrs yn cwmpasu mwy o fy niddordebau gan hefyd gadw ffocws ar addysgu sgiliau cyflogadwy. Roeddwn yn gobeithio gallu newid gyrfa felly roedd yn bwysig i mi i allu ffeindio cwrs oedd â chydbwysedd da o ddarparu dysgu perthnasol heb gyfaddawdu ar ansawdd.
Hefyd, roedd yn ddigon hyblyg fel fy mod yn gallu parhau i weithio’n llawn amser ar ôl ymgynghori gyda fy nghyflogwr.
Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Ochr yn ochr â canicross, ogofa a dringo, rwy’n ymarfer llawer o grefftau ymladd, fel lau gar, kendo a tai chi. Rwy’n cyfaddef bod fy ffocws arnynt wedi pylu rhywfaint wrth i mi fynd drwy fy mlwyddyn olaf, ond rwy’n edrych ymlaen at fwrw iddi o ddifri eto.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?
Rwyf yn y broses o gwblhau fy nghynllun i newid gyrfa, ac yn ddiweddar derbyniais swydd gwyddonydd amgylcheddol graddedig gyda Dŵr Cymru. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb y cwrs, felly rwy’n eithriadol o ddiolchgar am y cyfle.
Yn ogystal, rwy’n gobeithio dal ati i astudio trwy ddilyn PhD sy’n parhau gyda’r ymchwil a wnes i ar gyfer fy nhraethawd hir.
Beth oedd eich hoff beth am BSc Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid yn yr Hinsawdd?
Rhoddodd y gymysgedd o waith maes a sesiynau labordy drosolwg da i mi o’r math o brofiad byddai dilyn amrywiaeth o yrfaoedd, a chynigiwyd cyfleoedd i ddysgu neu fireinio sgiliau ymarferol o hyd. 
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Yn bendant – mae pawb yn mynd tu hwnt i’r gofyn i’ch cefnogi chi trwy eich astudiaethau, a chewch eich gwahodd bob tro i gyflwyno eich barn, neu gael sgwrs.