ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Llety yng Nghaerdydd

Os ydych yn bwriadu byw oddi cartref tra byddwch yn y brifysgol, mae’n debyg bod llety sydd ar frig eich rhestr o ystyriaethau. Mae poblogaeth enfawr o fyfyrwyr yn byw yng Nghaerdydd, ac felly bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn rhoi digon o ddewis i chi.

Darperir llety yng Nghaerdydd gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich tywys drwy eich opsiynau a chynnig cefnogaeth i chi trwy gydol eich cyfnod fel myfyriwr gyda ni.

Bydd myfyrwyr sy’n aros mewn llety nad yw’n eiddo i’r brifysgol yn dal i allu defnyddio gwasanaethau fel y tîm iechyd meddwl, cyngor ariannol a mwy.

Bydd y swyddfa lety ar gael i gefnogi a rhoi cyngor ynghylch ble mae myfyrwyr PCYDDS yn aros er mwyn i chi allu bod o gwmpas myfyrwyr sy’n astudio gyda ni.

Watch our Cardiff Student Living video

Beth sydd gan Lety Preifat Caerdydd i'w gynnig

Windsor House

Mae Windsor House wedi’i leoli yng nghanol canol dinas Caerdydd – yn agos at y prifysgolion, cysylltiadau trafnidiaeth, siopau’r stryd fawr, bwytai a bywyd nos.

Crown Place 

Mae Crown Place yn ymfalchïo mewn llety myfyrwyr modern o fewn cyrraedd hawdd i bopeth gan gynnwys amwynderau lleol a’r brifysgol.

  • Unwaith y byddwch wedi cael ystafell mewn neuadd, efallai y bydd arnoch eisiau dechrau meddwl am beth i’w ddod gyda chi i’r campws.

    Siop ar-lein yw UniKitOut sy’n cynnig arbedion ENFAWR ar lawer o’r eitemau a ganlyn:

    • Pecynnau Dillad Gwely
    • Pecynnau Cegin
    • Pecynnau Ystafell Ymolchi a Thyweli
    • Pecynnau Cyfun Myfyrwyr
    • Offer Trydanol
    • Ategolion a llawer iawn mwy!

    Unwaith y byddwch yn prynu eitemau, gallwch ofyn iddynt gael eu hanfon yn uniongyrchol i’ch ystafell fel eu bod yn aros yno amdanoch chi pan fyddwch yn cyrraedd.

01
Mae fflatiau stiwdio a fflatiau clwstwr gydag ystafelloedd gwely en-suite ar gael ledled y ddinas, sy'n golygu bod digon o opsiynau i ddewis ohonyn nhw.
02
Mae llawer o ddarparwyr yn cynnig ystafelloedd sinema, bariau, lle i storio beiciau a mannau astudio cymunedol.
03
Mae biliau cyfleustodau a WI-FI wedi’u cynnwys.
04
Diogelwch 24 awr.
05
Hunanarlwyo.
06
Mae rhai darparwyr yn gofyn am flaendal, tra bod eraill ddim.