Cymuned y Lluoedd Arfog
Pam PCYDDS?
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yw’r Brifysgol ar gyfer De-orllewin Cymru; mae ein campysau yng Nghaerfyrddin, Llambed ac Abertawe yn golygu bod amrywiaeth ehangach fyth o gyfleoedd dysgu ar gael i chi ddewis ohonynt ac yn cael eu cyflwyno yng nghanol Abertawe.
Ni yw’r Brifysgol sector deuol gyntaf o’i math gan ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â Choleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion.
Mae hyn yn golygu y gallwn, gydag ystod mor eang o gyfleoedd, gynnig cwrs a phrofiad dysgu sy’n addas ac sy’n adlewyrchu eich anghenion chi. Mae gennym hanes ardderchog o weithio gyda myfyrwyr aeddfed ar draws ein holl gampysau.
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi’i chofrestru o dan Gynllun Credydau Dysgu Gwell y Weinyddiaeth Amddiffyn felly gallwch gael gwybodaeth am ein cyrsiau ar wefan neu drwy gael golwg ar ein gwefan ni.
Cefnogaeth i chi
Os ydych angen cymorth gydag unrhyw agwedd arall o’ch bywyd, gallwn eich cyfeirio at yr asiantaethau perthnasol gan ein bod yn bartneriaid yn y Cyfamodau. I gael gwybodaeth gyffredinol am y broses ymgeisio ar gyfer ymgeiswyr aeddfed a’r cymorth sydd ar gael, ewch i’n hadran Myfyrwyr Aeddfed.