ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Ffioedd Israddedig

DU Adref

Cyrsiau Israddedig Llawn Amser

Rydym yn disgwyl i’r ffi flynyddol newid i £9,535 ar gyfer mynediad Medi 2025. Mae hyn yn amodol ar gadarnhad ar draws y sector gan Medr, comisiwn addysg drydyddol ac ymchwil Cymru. Byddai unrhyw newid yn y ffi hon yn gweld newid cyfatebol yn y benthyciadau sydd ar gael gan y sefydliadau Cyllid Myfyrwyr perthnasol.  

Mae hyn yn cynnwys cyrsiau Baglor a chyrsiau rhagarweiniol fel cyrsiau CertHE, DipHE a Sylfaen. 

Bydd ffioedd dysgu ar gyfer israddedigion yn berthnasol i unrhyw fyfyrwyr sy’n gwneud cais o’r DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw ac Iwerddon.  

Dylai myfyrwyr tramor a’r UE ymweld â’n tudalennau ffioedd dysgu rhyngwladol. 

Cyrsiau israddedig rhan-amser 

Codir tâl ar gyrsiau israddedig rhan-amser fesul credyd. Mae gradd Baglor gydag Anrhydedd nodweddiadol yn 360 credyd i gyd.  

Ar gyfer 2025/26 y ffi fesul credyd yw £79. Mae cwrs rhan-amser fel arfer yn 60 credyd y flwyddyn. Y ffi am 60 credyd fyddai £4,740

Os ydych chi’n fyfyriwr sy’n byw yng Nghymru, y ffi fesul credyd yw £39. Y ffi am 60 credyd fyddai £2,340. Y rheswm am hyn yw bod Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid rhannol. 

Cyrsiau Israddedig Eraill

Mae gan gyrsiau eraill fel Meistr Integredig, Rhaglen Sylfaen Ryngwladol a chyrsiau gyda blwyddyn leoliad ffioedd ansafonol.  

Gweler ein Amserlen Ffioedd Dysgu. 

Ariannu eich Astudiaethau

Ariannu eich Astudiaethau

Rydym yn deall bod ariannu eich addysg yn rhan allweddol o’ch taith prifysgol. P’un a ydych chi’n fyfyriwr sy’n byw yng Nghymru, yn dod o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, rydym yma i’ch cefnogi i lywio agweddau ariannol eich astudiaethau. 

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau