Prentisiaethau
Ennill profiad gwaith yn y byd go iawn tra byddwch yn astudio.
Ennill profiad gwaith yn y byd go iawn tra byddwch yn astudio.
Mae gradd-brentisiaethau’n ddewis amgen yn lle astudiaeth draddodiadol mewn prifysgol ac yn dod yn fwyfwy poblogaidd. Cynlluniau hyfforddi seiliedig ar waith ydynt. Byddwch yn cael profiad gwaith yn y byd go iawn ac yn ennill cyflog, gan weithio ar yr un pryd tuag at gymhwyster gradd wedi i chi gwblhau’r brentisiaeth yn llwyddiannus.
Ffeithiau am radd-brentisiaethau
A yw'ch Busnes yn "Barod ar Gyfer y Dyfodol"?
Gwnewch fuddsoddiad yn natblygiad eich gweithwyr gyda Phrentisiaethau Uwch a Gradd-brentisiaethau a arweinir gan ddiwydiant a thrawsnewid eich busnes.
Rydym yn deall yr heriau bob-dydd mae eich busnes yn wynebu ac o ganlyniad, mewn partneriaeth gyda chyflogwyr, gwnaethom greu Rhaglen Brentisiaeth dan arweiniad Diwydiant. Pan gaiff hon ei chyfuno gyda chymorth profiad ymarferol bydd myfyrwyr yn cymhwyso’r wybodaeth a geir yn uniongyrchol i’r gweithle.
Pam dewis PCYDDS i wneud eich Gradd-brentisiaeth?
Mae’r Drindod Dewi Sant yn un o brif ddarparwyr Gradd-brentisiaethau prifysgol.
Ar hyn o bryd rydym yn darparu gradd-brentisiaethau i dros 100 o gyflogwyr yng Nghymru a Lloegr. Rydym wedi sefydlu perthnasoedd cryf gyda sefydliadau sector preifat a chyhoeddus gan gynnwys Busnesau Bach a Chanolig (BBaChau), Awdurdodau Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG.
Mae ein Gradd-brentisiaethau’n cynnig cyfle i gyflogwyr feithrin eu talent eu hunain. Gall cyflogwyr ddewis uwchsgilio neu ailsgilio gweithwyr cyfredol, neu recriwtio a hyfforddi gweithwyr newydd trwy ein Prentisiaethau at lefel gradd.
Gwybodaeth i Ymgeiswyr Prentisiaethau
Mae gradd-brentisiaethau yn ddewis arall yn lle astudiaeth draddodiadol mewn prifysgol, ac maent yn dod yn fwyfwy poblogaidd.
Gyda rhaglenni Prentisiaeth PCYDDS cewch barhau i weithio tra byddwch yn astudio, gan ddatblygu eich cymhwysedd yn y gweithle yn ogystal ag ennill cymhwyster cydnabyddedig (fel HNC, HND, gradd, neu Radd Meistr).
Gall gradd-brentisiaethau gynnig gwerth arbennig o dda am arian. Er y bydd cost prentisiaeth yn amrywio, lluniwyd y cynllun ariannu i’w gwneud yn hawdd ac yn fforddiadwy i gyflogwyr ei ddefnyddio.