Ceisio am Brentisiaethau
Ceisio am Brentisiaethau
Gyda rhaglenni Prentisiaeth PCYDDS cewch barhau i weithio tra byddwch yn astudio, gan ddatblygu eich cymhwysedd yn y gweithle yn ogystal ag ennill cymhwyster cydnabyddedig (fel HNC, HND, gradd, neu Radd Meistr).
Mae prentisiaeth yn fater sydd wedi’i ddatganoli a bydd y cyrsiau sydd ar gael yn dibynnu ar ble rydych wedi’ch cyflogi.
Gweld y Prentisiaethau Rydyn ni’n eu Cynnig Yma
Rhai bodloni’r gofynion hyn os ydych eisiau gwneud cais:
- Eich bod yn gymwys i weithio yn y Deyrnas Unedig.
- Eich bod yn cael eich cyflogi mewn swydd addas o fewn y sector perthnasol.
- Eich bod â chefnogaeth eich cyflogwr i wneud hyn.
Os ydych chi’n barod i ymgeisio, defnyddiwch y botwm Mynegi eich diddordeb. Byddwn angen eich enw, eich cod post, enw eich cyflogwr, a’r rhaglen dan sylw. Byddwn yn adolygu eich gwybodaeth ac yn danfon dolen ymgeisio i chi.
Ar ôl mynegi diddordeb, bydd aelod o’r Tîm Uned Brentisiaethau yn cysylltu â’r ymgeiswyr posibl er mwyn gwirio eu cymhwysedd ac i roi cynghori ar y ffordd orau o gael mynediad at y rhaglen o ystyried eu cymwysterau a’u profiad presennol. Yna, bydd modd darparu dolen i’r ffurflen gais. Rhaid i brentisiaid nodi eu cyflogwr presennol fel canolwr ar eu ffurflen gais.
Os nad ydych yn gymwys i ymgeisio, bydd angen i chi ganfod swydd wag berthnasol, edrychwch isod i gael rhagor o fanylion.
Swyddi i Brentisiaid
I sicrhau Gradd-brentisiaeth gyda’r PCYDDS mae’n rhaid eich bod eisoes mewn swydd neu mae angen i chi ymgeisio am swydd gydag un o’r cyflogwyr sy’n bartneriaid gyda ni. Rhestrir swyddi gwag ar y dudalen hon cyn gynted ag y byddant ar gael, felly cofiwch ddod i edrych yn rheolaidd.
Arbenigwr Archaeolog
– Gwasanaeth Gwybodaeth Swydd, Sefydliad Siartredig yr Archeolegwyr (CIFA) [Saesneg]
Cyfrifiadura
– Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC), Caerdydd, Y Wyddgrug, Pencoed, Pontypool ac Abertawe
Peirianneg
– Tata Steel, Port Talbot [Saesneg]
Gwydr Lliw
Gwarchodwr, Paentiwr a Gwydrwr Gwydr Lliw dan Hyfforddiant ar Brentisiaeth – , Wells Gwlad yr Haf.
Prentis Cadwraethwr/Crefftwr Gwydr Lliw - , Glastonbury, Gwlad yr Haf
Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Safleoedd y Llywodraeth i ddod o hyd i brentisiaeth
Yng Nghymru, defnyddiwch gyfleuster i chwilio am ddolenni allanol.
Yn Lloegr defnyddiwch y rhestr o swyddi gwag ar dudalen , neu (gallwch hidlo’r canlyniadau i lefel 6 ar gyfer Gradd-brentisiaethau).