Cyfleusterau Dylunio Modurol a Chludiant
Mae ein Gweithdai Arbenigol yn cynnwys:
Cyfleusterau ‘layup’ a chwistrell gwydrffibr, byrddau ac offer arwynebu clai modurol proffesiynol, offer llaw traddodiadol, castio resin a phlastr, castio gwactod, sgwrio â thywod, ysgythru asid, prosesu gwydr oer, ffurfio gwydr cynnes, enamlo ac electroplatio, weldio, torri, llwybro, melino, troi, offer thermoffurfio, canolfannau peiriannu a llwybru CNC, argraffu 3D (peiriannau ‘Ultimaker’, ‘Object’ a ‘Stratasys’) a thechnolegau digidol a sganio (Artec, Roland).
Mae gan ein gweithfannau Wacom Cintiq y fersiynau diweddaraf o feddalwedd dylunio a delweddu 3D Autodesk Fusion 360, Alias Automotive, SketchBook Pro, Speedform, V-Red, Solidworks ac Adobe Creative Suite.
Oriel
Mynediad a rennir
Trefnir mynediad i ardaloedd eraill y Gyfadran trwy weithdai, fodd bynnag, mae gan Goleg Celf Abertawe bolisi o ganiatáu mynediad a rennir i’n holl gyfleusterau.