ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Cyflwyniad

Mae Coleg Celf Abertawe YDDS yn cynnig ystod eang o weithgareddau ymgysylltu sy’n darparu cyflwyniad i brofiad Coleg Celf mewn lleoliad Prifysgol modern.

Yn ogystal â Diwrnodau Agored y Brifysgol a Diwrnodau Blasu mewn adrannau unigol, gallwn gynnig:

  • teithiau rhagarweiniol o gwmpas cyfleusterau ac adrannau’r Coleg Celf
     
  • gweithdai yn ystod hanner tymor a ddyluniwyd i ddatblygu eich portffolio a rhoi’r cyfle i chi wneud cais i Goleg Celf hyd yn oed os nad ydych wedi ei astudio tu hwnt i TGAU
     
  • cymorth unigol i’ch helpu i gyrraedd eich potensial creadigol llawn

Cysylltwch â ni i weld sut y gallwn weithio gyda’n gilydd os ydych:

  • Yn paratoi portffolio i wneud cais am le Celf a Dylunio mewn Prifysgol
     
  • Yn mwynhau Celf a Dylunio ac yn hoffi’r opsiwn i astudio Celf a/neu Ddylunio nawr neu yn y dyfodol
     
  • Yn addysgu pynciau seiliedig ar Gelf neu Ddylunio a hoffech ddatblygu cysylltiadau cydweithredol pwrpasol gyda Choleg Celf Abertawe, YDDS

Cysylltu â Ni

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â amanda.roberts@pcydds.ac.uk

Dysgwch ragor am yr amrywiaeth o gyrsiau nos sy gyda ni mewn celf a dylunio. Lleolir pob un o’n cyrsiau yn adeilad yr Alex a Chanolfan Dinefwr yn Abertawe.

Image of ºÚÁϳԹÏÍø Alex building with a glass entrance with ALEX in white letters under at dusk