Evan yn PCYDDS
Enw: Evan Elias
Cwrs: BA (Anrh) Darlunio
Astudiaethau Blaenorol: Safon uwch mewn dylunio graffig, dylunio tecstiliau a Saesneg iaith/llen.
Tref eich cartref: Castell-nedd
Profiad Evan ar BA (Anrh) Darlunio

Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?
Fy hoff beth oedd sut mae’r campws wedi’i integreiddio i ganol y dref. Roeddwn i’n hoffi bod yn rhan o’r ddinas. Roeddech chi’n gallu amsugno’r byd o’ch cwmpas, oedd yn ysbrydoliaeth wych ar gyfer prosiectau creadigol gan fod llawer o ddeunydd cyfeirio at y byd go iawn.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Dewisais PCYDDS oherwydd ei for mor agos at fy nghartref, a hefyd oherwydd ei fod ar lan y môr. Ro’n i hefyd wedi bod i’r brifysgol gyda fy ngholeg ar wahanol deithiau felly roedd yn teimlo’n gyfarwydd iawn.
Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Rydw i wrth fy modd yn gwnïo ac yn brodio, ond dwi ddim yn ei wneud cymaint ag y dylwn i. Dwi hefyd yn gwirfoddoli’n rheolaidd gyda’r Grŵp Ieuenctid LHDTC+ yn YMCA Castell-nedd felly dwi’n brysur bob wythnos gyda hynny.
Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?
Dwi’n gobeithio dal i weithio ar brosiectau creadigol i gadw fy hun yn brysur. Buaswn i wrth fy modd yn gweithio ar brosiectau personol er mwyn ehangu fy mhortffolio. Gweithio ym maes hysbysebu / golygu / marchnata fyddai fy nod yn y pen draw, gan ‘mod i wedi bod yn gweithio tuag at hynny ers dechrau yn y brifysgol.
Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?
Fy hoff beth am y cwrs oedd bod yng nghanol bobl greadigol eraill. Roedd yn fy ysbrydoli yn gyson ac roedd bob amser yn fuddiol clywed ail farn ar yr hyn yr oeddwn yn gweithio arno. Roedd gweld pawb yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau yn creu awyrgylch cyffrous.

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Buaswn i yn ei argymell ar gyfer y lleoliad a’r darlithio. Dwi’n credu mai un o’r agweddau gorau ohono yw bod y darlithwyr yn dod i’ch nabod chi yn wahanol i brifysgol fwy gyda mwy o fyfyrwyr.