ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Cymdeithas Ryngwladol ar gyfer Ymchwil Cyfryngau Ieithoedd Lleiafrifol

Rydym yn gymdeithas o ymchwilwyr mewn sawl rhan o'r byd sy'n ymchwilio i gyfryngau ieithoedd lleiafrifol

Crëwyd y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Ymchwil Cyfryngau Ieithoedd Lleiafrifol (The International Association for Minority Language Media Research - IAMLMR) yng Nghaeredin ym mis Hydref 2019 yn ystod cynhadledd  a gyd-drefnwyd gan Etxepare Basque Institute a Phrifysgol Caeredin.

  • Ers dyddiau cynnar ymchwil cyfryngau ieithoedd lleiafrifol (gweler  am fanylion) bu pwyslais Ewropeaidd neu Orllewinol ar y maes astudio, yn gysyniadol ac yn gyd-destunol. Yn ogystal â grymoedd Gorllewinol sydd yn effeithio ar bob disgyblaeth academaidd - ac rydym yn cydnabod hyn yn glir - mae tair elfen benodol a wnelo’r maes hwn, sef:

    • nifer yr ymchwilwyr sydd wedi’u lleoli mewn prifysgolion a sefydliadau ymchwil yn Ewrop, eu cyfraniad at ddatblygu’r maes a’u dull rhwydweithiol o ymdrin â meysydd y pwnc, a gefnogwyd yn aml gan gyllid yr Undeb Ewropeaidd (e.e. Rhwydwaith Mercator);
    • natur yr ymchwil yng nghyd-destun ieithoedd lleiafrifol yn gyffredinol, sydd yn aml yn pwysleisio ymchwil gymhwysol (yn hytrach nac ymagweddau mwy ‘damcaniaethol’), ymchwil sydd wedi’i wreiddio yn y cymunedau ieithyddol hynny sy’n ganolbwynt iddo, sydd yn ymgysylltu’n agos â chwaraewyr allweddol ynddynt, ac ymchwil sydd am wneud cyfraniad cadarnhaol i’w datblygiad.
    • er bod y maes wedi tyfu yn Ewrop, mae’n dal i fod yn ddisgyblaeth ymylol ac ni all hawlio lefelau uchel o gyllid sy’n ofynnol ar gyfer cyfnewid rhyngwladol ar raddfa uwch, gan gynnwys teithio byd-eang i fynychu cynadleddau, prosiectau cyfnewid, gwaith maes cymharol ac ati.

    Fodd bynnag, nid ddylai hyn ddisystyru’r hyn a ddatblygwyd yn Affrica, (De) America ac Asia. Cyflwynwyd traethodau ymchwil estynedig, traethodau hir a thraethodau ymchwil niferus ar y pwnc. Yn Affrica,  y cam cyntaf sylweddol oedd cyhoeddi  Aeth degawd heibio cyn cyhoeddi Indigenous Language Media, Language Politics and Democracy in Africa a olygwyd gan Abiodun Salawu a Monica Chibita a’r diweddaraf yw 

    Penderfynodd yr ymchwilwyr a oedd yn bresennol yng nghynhadledd Etxepare Caeredin sefydlu’r Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Ymchwil Cyfryngau Ieithoedd Lleiafrifol (IAMLMR) fel cam cadarnhaol i gysylltu ymchwilwyr cyfryngau ieithoedd lleiafrifol ym mhob rhan o’r byd oherwydd:

    • fod ymchwilwyr mewn sawl rhan o’r byd wedi bod yn cynhyrchu astudiaethau pwysig a chyfraniadau beirniadol y dylid eu cylchredeg y tu hwnt i’w gwledydd, gwladwriaethau a’u ‘rhanbarthau’ yn y byd;
    • y gellir cyfoethogi’r ffocws sydd ym maes Ymchwil Cyfryngau Ieithoedd Lleiafrifol ar ymchwil gymhwysol ac ymchwil ymrymusol drwy gynyddu’r cyswllt rhwng ein hymchwilwyr a rhwng ein cymunedau;
    • fod ffactorau fel mudo, cymunedau diaspora a symudedd byd-eang yn gofyn i ni gymryd camau pendant i ddyfnhau’r cydweithrediad rhyngom er mwyn deall ein cyd-destunau ein hunain mewn ffyrdd mwy ystyrlon;
    • fod heriau byd-eang fel newid hinsawdd, mynediad i addysg, dosbarthiad anghyfartal adnoddau economaidd, lefelau isel o lythrennedd, anghydraddoldebau ac amodau andwyol eraill yn bygwth ein hamrywiaeth ieithyddol bresennol. Mae mynediad i’r cyfryngau – a mynediad at ymchwil i’r cyfryngau – yn agweddau pwysig ar ddadansoddi ac ar ddatrys yr heriau hyn.
    • y dylai rhannu a throsglwyddo arfer gorau, rhannu ymchwil ac astudiaethau (cysyniadol a chyd-destunol) ddigwydd drwy gydberthynas o barch ac o chwilfrydedd ymysg ymchwilwyr ym mhob rhan o’r byd.

    Mae diffiniad Y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Ymchwil Cyfryngau Ieithoedd Lleiafrifol (IAMLMR) yn cynnwys yr holl gyfryngau, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, cyfryngau nad ydynt yn broffesiynol (gan wirfoddolwyr neu gan ddefnyddwyr), ffeithiol a newyddiaduraeth, ffuglen glyweledol, digideiddio ac ati, ar draws pob platfform ac ym mhob rhan o’r byd.

    Mae diffiniad y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Ymchwil Cyfryngau Ieithoedd Lleiafrifol yn cynnwys pob cymuned ieithyddol sy’n hunan-ddiffinio fel lleiafrif, lleiafrifoledig, anhegemonaidd, gan gynnwys cymunedau sy’n hunan-ddiffinio eu hieithoedd fel ieithoedd brodorol. Nid yw wedi’i gyfyngu i ieithoedd ysgrifenedig nac i ieithoedd llafar, ac fe gynhwysir ieithoedd llafar (nad ydynt wedi’u hysgrifennu) yn ogystal ag ieithoedd wedi’u arwyddo neu ieithoedd nad ydynt yn rhai llafar.

Background and Rationale:

Wrth i ni ddatblygu ein haelodaeth, ein strwythur a’n gweithgareddau rydym yn croesawu gohebiaeth, syniadau a chyfraniadau gan ymchwilwyr ym mhob rhan o’r byd.

Contact: Professor Elin Haf Gruffydd JonesDr Miren Manías-Muñoz  or Craig Willis.

Cynhelir  y Cymdeithas Ryngwladol ar gyfer Ymchwil Cyfryngau Ieithoedd Lleiafrifol bob dwy flynedd, gyda’r nesaf gan uned ymchwil Indigenous Language Media in Africa () ym Mhrifysgol North-West University, Mafikeng, De Affrica rhwng 8 – 11, Gorffennaf 2024.

Cyflwynodd aelodau’r Gymdeithas bapurau a phaneli yn ystod y XIX Cynhadledd Ryngwladol ar Ieithoedd Lleiafrifol yng Nghaerfyrddin ym Mehefin 2023. Cynhaliwyd cyfarfod wyneb yn wyneb o’r Gweithgor yn ystod y gynhadledd hefyd. 

Cynhaliwyd cynhadledd ryngwladol  gan IAMLMR ac ECMI yn Europa Universität Flensburg 31 Mawrth - 1 Ebrill 2022. 

Cynhaliwyd Fforwm Ddoethurol Gyntaf IAMLMR PhD ar 27 Ionawr 2022 am 12pm CET (11am GMT) ar Zoom. Yn cyflwyno y tro hwn oedd:

  • Libe Mimenza Castillo (Prifysgol Gwlad y Basg) Basque media outlets and their digital audience measurement;
  • Nureni Aremu Bakenne (North-West University, Campws Mafikeng) Examining the impact of BBC News Yoruba on the Revitalisation of the Yoruba Language of South-West Nigeria; 
  • Catrin Llwyd (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant) â€˜Deall ein cymunedau Cymraeg: Y Gymraeg, pobl ifanc a’r cyfryngau digidol yng Ngorllewin Cymru’.

Ddydd Mercher 3ydd Tachwedd am 15h CET (2pm Cymru) cynhaliwyd Sgwrs Ar-lein ECMI ‘ Minority languages and media landscapes in Africa, Europe and Latin America: Between global and regional dynamics’. Cadeiriwyd y sesiwn gan Sergiusz Bober a’r panelwyr oedd Abiodun Salawu, Claudia Soria ac Enrique Uribe-Jongbloed.

Ddydd Mercher 22 Medi 2021 am 16h CEST – cafwyd cyfarfod IAMLMR i groesawu aelodau mnewydd a thrafod rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn academaidd 2021-22.

Ddydd Gwener 27 Awst 2021 - IAMLMR ac ECMI ar y cyd. Modiwl ar ddigideiddio a chyfryngau ieithoedd lleiafrifol / brodorol yn ystod 11th Annual ECMI Summer School on National Minorities in Border Regions – National Minorities and the New Digital Paradigm.


Darlith arlein â€œMedia Landscapes and Minority Languages: ‘How Media Can Make or Break Linguistic Vitality’ gan Elin Haf Gruffydd Jones,  Darlith/Gweithdy â€˜The Debate around the ‘Indigenous’ for Indigenous Language Media and the Limits of a Cybertarian Utopia’ gan Enrique Uribe-Jongbloed a Chyflwyniad gan Hauke Heyen ar ei waith ar gyfryngau cymdeithasol Ffriseg Gogleddol.

Ddydd Mercher 24 Mai 2021 - 10am EST Lansiwyd llyfr a chafwyd thrafodaeth ar amcanion a heriau creu cyhoeddiadau ‘carreg filltir’ ym maes ymchwil cyfryngau ieithoedd lleiafrifol i nodi cyhoeddi   (goln Dafydd Sills-Jones ac Elin Haf Gruffydd Jones) fel rhan o gyfres y cyhoeddwr Peter Lang .

Ddydd Mercher 24 i Ddydd Gwener 26 Mawrth 2021 – cyflwynwyd 

Ddydd Mercher 24 Chwefror 2021 (16:00-18:00 CET) – Gweithdy ‘Indigenous MLM and indigeneity’.

Ddydd Iau 28 Ionawr 2021 (16:00-18:00 CET) – Gweithdy  ar Zoom.

Rydym yn cyfarfod yn gyson fel Gweithgor i ddatblygu’r gymdeithas ac i gynllunio digwyddiadau a gweithgareddau.

  • Abiodun Justin Adelodun – University of the Witwatersrand, De Affrica (myfyriwr PhD)
  • Yr Athro Josu Amezaga – Prifysgol Gwlad y Basg
  • Dr Edorta Arana – Prifysgol Gwlad y Basg
  • Dr Bakenne Nureni Aremu – Prifysgol Ghent, Gwlad Belg
  • Nici Beech – Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (myfyrwraig PhD)
  • Dr Sergiusz Bober – European Centre for Minority Issues (ECMI)
  • Israel Fadipe – Augustine University, Ilara-Epe, Nigeria
  • Hauke Heyen – Europa Universität Flensburg
  • Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones – Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
  • Catrin Llwyd — Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (myfyrwraig PhD)
  • Dr Libe Mimenza â€” Prifysgol Gwlad y Basg                          
  • Dr Miren Manias-Muñoz — Prifysgol Gwlad y Basg
  • Dr Tshepang B. Molale — University of the Witwatersrand, De Affrica
  • Olanrewaju John Ogundeyi  â€”  Indigenous Language Media in Africa (ILMA), North-West University, De Affrica (myfyriwr PhD)
  • Facundo Reyna-Muniain — Instituto da Lingua Galega
  • Marc Röggla — MIDAS / Eurac Research, Bozen/Bolzano
  • Yr Athro Abiodun Salawu – North-West University, De Affrica
  • Frederike Schram — University of Turku, Y Ffindir  
  • Dr Dafydd Sills-Jones — Auckland University of Technology
  • Dr Jenny Stenberg-Sirén — Prifysgol Helsinki
  • Dr Enrique Uribe Jongbloed – Universidad Externado de Colombia, Bogotá & Prifysgol Caerdydd
  • Jakob Volgger  — MIDAS / Eurac Research, Bozen/Bolzano
  • Craig Willis — European Centre for Minority Issues (ECMI) / Europa Universität Flensburg (myfyriwr PhD)

Cysylltwch&²Ô²ú²õ±è;â’°ù&²Ô²ú²õ±è;Athro Elin Haf Gruffydd Jones neu â Craig Willis am ragor o fanylion ar sut i ymuno.