Caplaniaeth Caerfyrddin
Pwy Ydym Ni?
Mae’r Gaplaniaeth yng Nghaerfyrddin yma i’ch cefnogi drwy gydol eich astudiaethau. Rydym yn gobeithio bydd eich cyfnod yn y brifysgol yn gyffrous ac yn fuddiol, ac yn darparu sylfaen wych ar gyfer y dyfodol.
Caplaniaeth
I gysylltu â ni, cysylltwch â Mones Farah, sef yr unigolyn cyswllt presennol ar gyfer cymorth bugeiliol.
Beth yw’r Gaplaniaeth? Rydym yn cynnig cymorth mewn dwy ffordd benodol:
Mae’r Gaplaniaeth yn Cefnogi Bywyd Ysbrydol y Brifysgol.
Trwy fywyd y Capel mae’n cynnig cyfleoedd rheolaidd i’r myfyrwyr a’r staff:
- Addoli
- Darganfod ffydd am y tro cyntaf
- Archwilio ysbrydolrwydd
- Bod yn rhan o gymuned sy’n tyfu o bobl sy’n gofalu am ei gilydd, lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi
Mae’r Gaplaniaeth yn cynnig gofal bugeiliol i bob aelod o’r Brifysgol
Mae bob un ohonom angen rhywun i wrando arnom a chymorth i’n tywys drwy gyfnodau anodd o bryd i’w gilydd. Mae’r Caplan yn darparu gweinidogaeth gyfrinachol, ddwyieithog sydd ar gael i staff a myfyrwyr o bob cefndir ac ymlyniad crefyddol. Mewn ffordd fwy anffurfiol, mae’r rhai sy’n gysylltiedig â bywyd y Capel yn cefnogi ei gilydd mewn sawl ffordd, ac yn aml yn creu cyfeillgarwch dwfn sy’n parhau.
-
Mae’r Capel yn rhan o adeilad yr Hen Goleg, gyda mynedfa ar y prif goridor gyferbyn â’r Cwad.
- Rydym yn addoli yma’n ddyddiol o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae’r Capel ar agor drwy’r dydd fel man tawel i weddïo, myfyrio neu fod yn llonydd.
- Cedwir y sagrafen fendigedig yma a gall yr eiconau gwreiddiol, o waith y Chwaer Theresa Margaret CHN, fod o gymorth i’n harwain mewn gweddi.
- Yma, gallwch gynnau cannwyll fel arwydd o’ch gweddi dros rywun neu adael cais am weddi ar y bwrdd gweddi, gan wybod y bydd rhywun arall yn parhau i weddïo dros eich pryderon penodol chi.
Lolfa’r Capel
Dyma’r ystafell rydych chi’n mynd drwyddi ar y ffordd i mewn i’r Capel: lle o letygarwch a chymdeithasu, chwerthin a hwyl, bwyta ac yfed, astudio a datblygu. Mae croeso i chi ymlacio yma ar un o’r soffas rhwng eich darlithoedd, cael eich ysgogi i weithio dros heddwch a chyfiawnder neu bori drwy lyfr i’ch ysbrydoli.
-
Gwasanaethau a Digwyddiadau Rheolaidd
Rydym yn awyddus i sicrhau ein bod yn adlewyrchu ieithoedd y campws cymaint â phosibl. Dyma’r patrwm addoli arferol yn y Capel (yn ystod y tymor yn unig):
Hwyrol weddi bob yn ail wythnos â’r Cymun Sanctaidd, dyddiau Llun, 5.15pm
-
Pererindod i Taizé
Pentref bychan yn Nwyrain Ffrainc yw Taizé sydd ers y 1940au yn gartref i gymuned Gristnogol ryfeddol. Heddiw mae pobl ifanc o bedwar ban byd ac o gefndiroedd amrywiol eu ffydd yn ymweld ar gyfer wythnos o weddi, astudio a hwyl mewn lleoliad arbennig.
Rhaid ei brofi er mwyn ei werthfawrogi: mae’n ddigwyddiad all newid eich bywyd! Rydym yn gobeithio trefnu pererindod y Gaplaniaeth yno; cysylltwch â’r Caplan am ragor o fanylion.
-
Mae casgliad o lyfrau gennym yn Lolfa’r Capel sydd ar gael i’w benthyg. Mae’r themâu yn cynnwys astudiaethau Beiblaidd, diwinyddiaeth, ysbrydolrwydd, litwrgi, moeseg a chyfiawnder cymdeithasol.
-
Dydd Gŵyl Dewi
Cynhelir gwasanaeth yn y Capel i ddathlu nawddsant Cymru, Dewi Sant. Croeso cynnes i bawb.