ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Prentisiaeth mewn Rheoli Pobl (CIPD Level 5 Associate Diploma, Prentisiaeth)

Caerfyrddin
18 Mis Rhan amser

Mae’r cymhwyster Lefel 5 CIPD mewn Rheolaeth Pobl wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion sydd eisiau datblygu sylfaen gref mewn rheolaeth pobl a chymryd eu gyrfa i’r lefel nesaf. Mae’r cwrs hwn yn adeiladu ar y wybodaeth a gafwyd o’r Dystysgrif Sylfaen Lefel 3 CIPD mewn Arfer Pobl, gan eich helpu i dyfu’n rôl uwch fel gweithiwr proffesiynol ym maes pobl.

Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i chi reoli pobl, gwella perfformiad sefydliadol, a datblygu datrysiadau i ystod o heriau yn y gweithle. Byddwch hefyd yn cael dealltwriaeth o sut mae AD (Adnoddau Dynol) a L&D (Dysgu a Datblygu) yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi nodau sefydliad.

Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ddysgu ymarferol, gan ddefnyddio enghreifftiau go iawn i ddatblygu eich ymddygiad a datblygu sgiliau. Byddwch yn ennill dealltwriaeth glir o sut i gymhwyso’ch gwybodaeth i’r gweithle, gan feithrin yr arbenigedd angenrheidiol i lwyddo fel rheolwr pobl. Mae’r cymhwyster yn cynnig cyfle gwerthfawr i drosglwyddo i swydd mewn rôl rheoli pobl, gan roi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i siapio gwerth sefydliadol unrhyw fusnes.

Mae’r cymhwyster hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd newydd ddechrau eu gyrfa ym maes rheolaeth pobl, yn ogystal â’r rhai sydd eisoes yn gweithio mewn rôl arfer pobl ac sydd eisiau datblygu eu gyrfaoedd. Os ydych yn awyddus i gyfrannu at werth sefydliadol a datblygu eich arbenigedd mewn arfer pobl, bydd y cymhwyster hwn yn eich helpu i gyflawni eich nodau.

Mae’r cymhwyster hwn yn gyfwerth ag ail flwyddyn gradd prifysgol yn y DU ac mae’n agored i weithwyr sy’n gweithio mewn rolau AD ar hyn o bryd neu’n ymgymryd Ã¢ dyletswyddau AD ar unrhyw lefel. 

Bydd dysgwyr yn cael eu cofrestru yn y Brentisiaeth Uwch mewn HRM gyda Choleg Sir Gâr a byddant yn ymgymryd â’r cymhwyster trwy Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn rhan o’r rhaglen Brentisiaeth. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
18 Mis Rhan amser

£1700 - mae cyllid ar gael i ymgeiswyr cymwys

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae prentisiaethau’n llwybr dysgu gydol oes heb unrhyw derfyn oedran, felly ar yr amod nad ydych mewn addysg amser llawn a thros 18 oed gallwch wneud cais.
02
Mae prentisiaeth gradd yn dechrau ar Lefel 4, fodd bynnag, bydd profiad/cymwysterau blaenorol perthnasol yn cael eu hystyried. Byddwch yn astudio’n rhan-amser o amgylch eich ymrwymiadau gwaith, a bydd y rhaglen yn para 2-4 blynedd.
03
Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu gan y Llywodraeth a bydd gennych hawl i gyflog, gwyliau statudol ac amser i ffwrdd â thâl i astudio.
04
Rhaid i brentisiaid fod mewn gwaith perthnasol, ond mae gradd-brentisiaeth yn addas ar gyfer pob sector o ddiwydiant a busnesau o bob maint.
05
Rhaid i brentisiaid fod yn gymwys i weithio yn y DU a derbyn isafswm cyflog o £16,770 y flwyddyn o leiaf.
06
Gallwch hefyd wneud cais os ydych yn hunangyflogedig yng Nghymru.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Yn PCYDDS, credwn mewn meithrin amgylchedd dysgu cefnogol ac ymarferol, lle byddwch yn datblygu’r wybodaeth ddamcaniaethol a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym maes rheolaeth pobl. Mae ein hathroniaeth addysgu yn annog meddwl beirniadol, profiad ymarferol, a datblygiad proffesiynol parhaus i sicrhau eich bod yn barod i gael effaith wirioneddol yn eich sefydliad.

Bydd dysgwyr yn mynychu gweithdai dros 18 mis, i gwblhau’r Diploma. Ar ôl cwblhau’r Diploma yn llwyddiannus, bydd ymgeiswyr yn dod yn aelodau Cyswllt o’r CIPD. Mae aelodaeth gyswllt yn cael ei chydnabod yn aelodaeth ar lefel broffesiynol ac mae gan ymgeiswyr llwyddiannus hawl i ddefnyddio’r dynodiad AssocCIPD ar ôl eu henw.

Yn dibynnu ar brofiad a chymwysterau blaenorol, efallai y bydd gofyn i ddysgwyr gwblhau gwaith ychwanegol hefyd, yn rhan o ofynion sgiliau hanfodol y brentisiaeth — esbonnir hyn i chi yn rhan o’r broses ymgeisio.

Yn ystod y cwrs byddwch yn meithrin eich dealltwriaeth o reolaeth pobl trwy fodylau fel Perfformiad a Diwylliant Sefydliadol ar Waith ac Arfer seiliedig ar Dystiolaeth. Byddwch yn datblygu sgiliau allweddol drwy Ymddygiadau Proffesiynol a Gwerthfawrogi Pobl, ac yn dysgu sut i reoli Perthnasoedd Cyflogaeth,Talent a Gwobrwyo ar gyfer Perfformiad. Bydd modylau fel Cyfraith Cyflogaeth Arbenigol yn rhoi i chi’r wybodaeth ymarferol i ymgyfarwyddo Ã¢ fframweithiau cyfreithiol a chefnogi llesiant gweithwyr, gan eich paratoi i gyfrannu at werth sefydliadol.

Perfformiad a Diwylliant Sefydliadol ar Waith

(7 credydau)

Arfer Seiliedig ar Dystiolaeth

(6 credydau)

Ymddygiadau Proffesiynol a Gwerthfawrogi Pobl

(5 credydau)

Rheoli Cysylltiadau Cyflogaeth

(6 credydau)

Rheoli Talent a Chynllunio'r Gweithlu

(6 credydau)

Gwobrwyo am Berfformiad a Chyfraniad

(6 credydau)

Dewisol

Cyfraith Cyflogaeth Arbenigol

(6 credydau)

Lles yn y Gwaith

(6 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Profiad gwaith neu gymhwyster Lefel 2.

  • Mae asesiadau Diploma Cysylltiol mewn Rheoli Pobl CIPD yn cael ei yrru gan gyflogwyr ac wedi’i anelu at senarios go iawn y gall dysgwyr ddod ar eu traws yn eu gyrfa yn y dyfodol. Bydd y CIPD yn gosod aseiniadau ar gyfer pob uned craidd. Ar gyfer unedau eraill, bydd y Brifysgol yn dyfeisio eu hasesiadau eu hun, wedi’u seilio ar ganllawiau a ddarperir gan CIPD. Gallai’r rhain gynnwys astudiaethau achos, sioeau sleidiau, portffolios a dulliau asesu eraill. Ni fydd dim arholiadau.

    Nid oes gradd ar gyfer y cymhwyster hwn. Bydd dysgwyr naill ai’n cael Pas neu Fethu. Rhaid bodloni’r holl feini prawf asesu i gyflawni Pas.

  • Ariennir y cymhwyster hwn ar gyfer myfyrwyr cymwys. Er mwyn cael eu hystyried ar gyfer y cyllid, rhaid i fyfyrwyr wneud cais i Goleg Sir Gâr a chwblhau’r broses ymgeisio am brentisiaeth. Mae manylion llawn ar gael ar gais.

    Gall myfyrwyr ddewis cofrestru ar y cwrs heb gyllid – y ffi gyfredol yw £1700 (2024-2025).

    Mae Aelodaeth Myfyriwr o’r CIPD yn costio £109 y flwyddyn, ynghyd â ffi ymuno o £40. (Chwefror 2024-2025).

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

  • Bydd llwyddo i gyflawni Diploma Cysylltiol mewn Rheoli Pobl Lefel 5 CIPD yn caniatáu dilyniant i’r Diploma Ôl-raddedig/MA lefel 7.

    Bydd y cymhwyster yn galluogi i fyfyrwyr wneud cais am swyddi sy’n gofyn am statws Lefel 5 CIPD.

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau