ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Graduation gyda PCYDDS

Y Seremonïau Graddio yw uchafbwynt y calendr academaidd. Maent yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ddathlu eu llwyddiannau gyda theulu a ffrindiau.

Yn yr adran hon

Seremonïau Graddio’r Haf 2024 (Fideos)

FAQs

  • Ebostiwch graddio@ydds.ac.uk ar unwaith. Bydd y tîm yn gwirio’ch cofnod ac yn ailargraffu’r gwahoddiad os yw’n briodol.

  • Ewch i a theipio eich rhif myfyriwr a’ch cyfrinair. Ewch i ‘Graddio Myfyrwyr’ ar y dudalen Gartref a dilyn y cyfarwyddiadau. 

  • Caerdydd

    Mae sawl maes parcio wedi’u lleoli yn agos at leoliad y seremoni – gweler y map wed’i atodi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn 

    Abertawe

    Mae sawl maes parcio wedi’u lleoli yn agos at yr Arena. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn 

  • Bydd angen i chi gyrraedd oddeutu ddwy awr cyn i’r seremoni ddechrau er mwyn rhoi amser i chi gasglu eich gwisg, rhif sedd a thocynnau gwestai. Fe fyddwn yn anfon gwybodaeth bellach ynghyd ag amserlen o ddigwyddiadau atoch wythnos cyn y seremoni.

    Bydd angen i chi fod yn eich sedd 45 munud cyn amser dechrau’r seremoni ac yn ystod yr amser hwn byddwch yn eistedd yn y sedd a ddyrannwyd i chi a bydd y Prif Dywysydd yn eich briffio.

  • Os oes gennych chi neu eich gwesteion anabledd / ofynion mynediad penodol neu nam ar y clyw, mae angen i ni wybod amdanyn nhw. Rhowch fanylion ym mlwch ‘Manylion pellach’ ar  a byddwn yn ymdrechu i ddiwallu eich anghenion.

    Rhowch wybod i’r staff ar y dydd hefyd fel y gellir cynnig cymorth.

  • Byddwch yn gallu casglu tocynnau eich gwestai o’r ddesg Gofrestru pan fyddwch yn cyrraedd yr Arena. Ni neilltuir seddi penodol i westeion a gall gwesteion eistedd unrhyw le yn yr awditoriwm ac eithrio’r seddi sydd wedi’u cadw ar gyfer Darpar Raddedigion, gwesteion yr Is-Ganghellor neu ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Bydd seddi a gadwyd wedi eu marcio’n glir. Ceir mynediad trwy docynnau yn unig a rhaid rhoi tocynnau i’r stiwardiaid wrth y drysau. Bydd y drysau i’r awditoriwm yn agor 45 munud cyn dechrau’r seremoni.  Bydd staff yr Arena wrth law i helpu eich gwestai i ddod o hyd i’w seddi.

  • Rhaid i Ddarpar Raddedigion wisgo gwisg academaidd ar gyfer cael eu cyflwyno yn y seremoni. Rhaid hefyd wisgo’n eithaf ffurfiol. Mae angen i’r cwfl (hood) gael ei ddal yn ddiogel yn ei le wrth siaced, crys neu flows.

  • Ar ddechrau’r seremoni, bydd y graddedigion a’r gwesteion yn sefyll wrth i’r staff academaidd ymdeithio i mewn i’r awditoriwm. Yn dilyn gair o groeso, bydd yr Is-Ganghellor a/neu uwch swyddogion eraill y Brifysgol yn eich annerch.

    Wedi darlleniad o’r Proclamasiwn, cyflwynir y graddedigion i’r Is-Ganghellor (neu’r sawl a enwebwyd ganddi). Cewch eich annog gan dywyswyr i godi o’ch sedd ac aros mewn rhes yn barod i gael eich cyflwyno ar yr amser priodol.

    Bydd eich enw yn cael ei ddarllen ac ar y pwynt hwnnw byddwch chi’n esgyn i’r llwyfan, yn cerdded at yr Is-Ganghellor ac yn codi eich cap. Wedyn byddwch yn gadael y llwyfan a bydd aelod o staff yn eich tywys yn ôl i’ch sedd.

    Wedyn bydd yr Is-Ganghellor yn gofyn i’r holl fyfyrwyr sy’n derbyn yr un dyfarniad i sefyll a bydd yn eich cyflwyno’n ffurfiol i’ch dyfarniad. Dylech godi eich cap mewn ymateb a pharhau i sefyll er mwyn derbyn Cyfarchion y Brifysgol.

  • Gan edrych ar yr Is-Ganghellor, plygwch eich pen ychydig a naill ai cydiwch ym mhigyn blaen eich cap neu codwch eich cap ychydig. 

  • Mae hyd y seremoni yn ddibynnol ar y nifer sy’n mynychu, cysylltwch â graddio@pcydds.ac.uk am wybodaeth bellach. Heblaw pan fyddwch yn cael eich cyflwyno, mae’n ofynnol i chi aros yn eich sedd gydol y seremoni. 

  • ²Ñ²¹±ð‵µ&²Ô²ú²õ±è;RHAID i chi sicrhau eich bod chi wedi talu unrhyw ddyledion academaidd i’r Brifysgol. Cysylltwch â’r Swyddfa Gyllid ar unwaith i drafod eich opsiynau. Os oes gennych unrhyw ddyledion academaidd heb eu talu ac os nad ydych wedi gwneud unrhyw drefniadau gyda’r Swyddfa Gyllid i’w clirio, gallech chi gael eich eithrio o’r seremonïau graddio.

  • Cymuned o’n graddedigion yw’r Rhwydwaith Cyn-fyfyrwyr a byddwch yn ymuno’n awtomatig ar ôl i chi gwblhau’ch astudiaethau.

    Byddwch yn derbyn e-bost yn eich croesawi i’r rhwydwaith yn fuan ar ôl graddio felly gwnewch yn siŵr bod eich manylion cyswllt wedi’u diweddaru ar . Gall y rheiny sydd heb fynediad bellach i MyTsd lenwi ein ffurflen Diweddaru eich manylion.

    Am ragor o wybodaeth ar y Rhwydwaith Cyn-fyfyrwyr, ewch i: Cyn-fyfyrwyr | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (uwtsd.ac.uk)

  • Bydd tystysgrifau’n cael eu hanfon drwy’r post at fyfyrwyr y cafodd eu dyfarniad ei gadarnhau mewn Bwrdd Dyfarnu’r Haf, ymhen rhyw wyth wythnos i’r seremonïau graddio.

    Bydd myfyrwyr y cafodd eu dyfarniad ei gadarnhau mewn Byrddau Dyfarnu a gynhelir ar adegau eraill o’r flwyddyn, yn derbyn eu tystysgrifau ryw wyth wythnos ar ôl y Bwrdd. Cewch wahoddiad i ddathlu eich cyflawniad mewn seremoni raddio er gwaethaf y ffaith efallai eich bod wedi derbyn eich tystysgrif eisoes.

    Wedi i’r cyfnod hwn ddirwyn i ben, os bydd gennych unrhyw ymholiad ynglŷn â’ch tystysgrif, cysylltwch â’r Gofrestrfa at cofrestrfa@pcydds.ac.uk.

    Ni fydd tystysgrifau yn cael eu rhyddhau i fyfyrwyr nad ydynt wedi gwneud trefniadau gyda’r Swyddfa Gyllid i dalu eu dyledion.

  • O hwdis i deis, tedis a matiau diod, gallwch brynu amrywiaeth o nwyddau Y Drindod Dewi Sant yn y Siop Raddio ar wefan neu ymwelwch â’r stondin nwyddau ar Ddiwrnod Graddio.

Dewch yn rhan o’n teulu o gyn-fyfyrwyr

ºÚÁϳԹÏÍø badge on the back of a robe

Dewch yn rhan o’n teulu o gyn-fyfyrwyr

Rydym yma i’ch cefnogi a darparu gwasanaeth ar eich cyfer ymhell ar ôl i chi raddio. Beth am fanteisio ar y buddion niferus sydd ar gael i chi fel cyn-fyfyrwyr.