Profiad Ilias yn PCYDDS
Enw: Ilias Iatrakis
Cwrs: MSc Peirianneg Beiciau Modur
Astudiaethau Blaenorol: BEng Peirianneg Beiciau Modur; Addysg Uwchradd Dechnegol yn y Gwyddorau Diwydiannol. (Neu Safon Uwch lawn mewn STEM)
Tref eich cartref: Genk, Gwlad Belg
Profiad Ilias ar MSc Peirianneg Beiciau Modur
Beth yw eich hoff beth am gampws Abertawe?
Y gweithdai, a’u cyfleusterau technegol modern, sydd ar gael i fyfyrwyr weithio ar brosiectau sy’n eu diddori, y cyfle i ddefnyddio’r wybodaeth ddamcaniaethol rydyn ni’n ddysgu yn yr ystafell ddosbarth, a gallu mynd i’r gweithdy i gynnal y profion a’r mesuriadau sy’n gysylltiedig â’r pynciau hyn.
Rydw i wedi cael y fraint o arwain a rasio ym mhrosiect Rasio Beiciau Modur y Brifysgol am ddwy flynedd. Mae’r timau rasio presennol yn cynnig cyfleoedd gwych sy’n gysylltiedig â datblygu a chystadlu, ac maen nhw’n rhoi profiad uniongyrchol i fyfyrwyr o weithio mewn padogau go iawn, ar brosiectau go iawn. O waith peiriannu neu waith injan, o ddynamometreg i waith ar y crogiant, mae’r cyfleoedd yna i chi os ydych chi eu heisiau.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Y 2018, pan ro’n i’n 15 oed, roedd fy nhad a minnau’n ceisio dewis a ddylwn fynd i PCYDDS neu i brifysgol yn yr Almaen i gael fy addysg uwch. Aethom i ymweld â PCYDDS ar ddiwrnod agored, ac fe wnaeth y dechnoleg a’r offer modern argraff arna i’n syth.
Uchafbwynt ein hymweliad oedd cwrdd â Dr. Owen Williams, a bu ei arbenigedd a’i ddull addysgu yn ddylanwad mawr ar ein penderfyniad. Roedd ymroddiad y staff ac awyrgylch gyfeillgar y brifysgol hefyd yn allweddol. Roedd ymroddiad Dr Owen yn rhoi sicrhad i ni o ansawdd yr addysg y byddwn yn ei derbyn. Gwnes benderfyniad i geisio am le gyda PCYDDS, a dechrau’r daith o droi fy angerdd yn wybodaeth. Yn 2020, ychydig ar Ă´l troi’n 17 oed, dechreuais y cwrs.
Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Rydw i wrth fy modd yn cadw’n heini; rydw i bob amser yn symud, naill ai’n cadw’n heini, yn crwydro yn yr awyr agored, neu’n beicio mynydd. Rydw i wedi dechrau syrffio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf—͏mae’n gamp rydw i’n ei mwynhau yn arw yn harddwch naturiol Penrhyn Gŵyr, a dyma fy hoff weithgaredd bellach. Ond mae fy niddordeb mewn beiciau modur yn cymryd llawer iawn o fy amser y tu allan i’m hastudiaethau hefyd. Rwy’n rasio, yn gweithio ar brosiectau amrywiol, neu’n arbrofi â syniadau a chysyniadau newydd trwy’r adeg, a hynny er mwynhad.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?
Ar wahân i fy nghwrs Meistr mewn Peirianneg Beiciau Modur yma yn PCYDDS, ar hyn o bryd rwy’n gweithio fel Peiriannydd Ras / Pennaeth Criw ar gyfer MRP Racing yn y tĂ®m BMW Motorrad IDM Superbike. Pan fydda i’n graddio, rwy’n bwriadu parhau i weithio yn y padog rasio, ac rydw i hefyd eisiau gweithio mewn adran ddatblygu yn y diwydiant modurol, gyda’r nod o ddod yn gyfarwyddwr technegol o ryw fath yn y pen draw. Mae gen i ddiddordeb hefyd mewn agor fy musnes fy hun, yn adeiladu ac yn peiriannu beiciau rasio.
Ar wahân i gefnogaeth fy rhieni, y prif bethau sy’n fy nghymell yw angerdd a gweithio di-baid i gyflawni fy nodau. Mae’r wybodaeth rydyn ni’n ei dysgu yma, a’r ffyrdd y mae’n cael ei addysgu, yn amhrisiadwy ac yn cael ei werthfawrogi’n fawr yn y diwydiant.
Beth oedd eich hoff beth am BEng Peirianneg Fodurol?
Un o’r uchafbwyntiau i mi oedd yr holl gyfleoedd i wneud gwaith ymarferol, ynghyd â’r cyfoeth o wybodaeth arbenigol roedd y staff yn ei rannu gyda ni. Mae’r profiadau hyn wedi caniatáu i mi, fel myfyriwr, gymryd rhan mewn amryw o weithgareddau proffesiynol sy’n gysylltiedig â beiciau modur a rasio. Yn benodol, roedd y cyfle i ddatblygu ac i rasio yn nhĂ®m rasio’r brifysgol yn brofiad eithriadol. Hefyd, ces i’r fraint o arwain y tĂ®m yn y pen draw, sydd, heb os, wedi bod yn un o brofiadau mwyaf cofiadwy a gwerth chweil fy mywyd.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Byddwn yn argymell y cwrs hwn yn fawr i unrhyw un sydd â diddordeb mewn beiciau modur / chwaraeon moduro; rwy’n teimlo, ac wedi sylwi gan weithwyr proffesiynol profiadol, nad oes unman arall yn cynnig y wybodaeth a’r cyfleoedd sydd i’w cael ar y cwrs unigryw hwn.
Mae’r cyfuniad o wybodaeth arbenigol, y dull o addysgu, y cyfleoedd ymarferol, a chefnogaeth y brifysgol yn gwneud y cwrs hwn yn eithriadol. Rwy’n credu y byddai dilyn y cwrs hwn yn rhoi mantais bendant i unigolion angerddol, ac yn rhoi rhoi sylfaen gadarn iddyn nhw ar gyfer eu hymdrechion yn y maes hwn yn y dyfodol.