Astudiaethau Achos
Ein Hastudiaethau Achos
Adeilad Alex – Abertawe
Yn ganolbwynt i waith ailwampio adeilad Alex, mae’r Goleufa Gwydr wedi’i leoli yn nhŵr canolog Hen Lyfrgell Ganolog Abertawe, sy’n gartref i ganolfan addysg wydr enwog Coleg Celf Abertawe ers 1935.
Wedi’i ddylunio ar y cyd gan staff a myfyrwyr, mae’r Goleudy Gwydr yn ymgorffori sbectrwm o wydrau cyfoes, o lenni wedi’u torri â llaw a’u chwythu â’r geg i elfennau a dorrir gyda chwistrell ddŵr yn arbrofol.
CGP wnaeth weithgynhyrchu’r prosiect, gan fondio’r cynllun cyfan dros 12 llen bacio wedi’u lamineiddio. Ar ôl ei osod, cafodd nodau gwneuthurwyr wedi’u hysgythru â thywod a’u llathru â thân a ddyluniwyd gan fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr eu hôl-osod gyda thâp VHB.
Merthyr Tudful – Y Redhouse
Mae Redhouse Cymru yn ganolfan ar gyfer y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol yng nghanol Merthyr Tudful.
Gynt yn Hen Neuadd y Dref, ac yn adeilad rhestredig Gradd II mawreddog Fictoraidd, Redhouse Cymru yw penllanw rhaglen ailddatblygu eang.
Y Ganolfan Gwydr Pensaernïol a ymgymerodd ag adfer a gwydro dros 100 o oleuadau plwm Fictoraidd, yr oedd llawer ohonynt wedi eu difrodi’n wael neu wedi eu colli’n llwyr. Cafodd patrymau gwydr gwreiddiol, proffiliau plwm dilys, a chylchigau o waith llaw eu defnyddio drwy gydol y gwaith. Ail-grëwyd darnau o beintwaith a gollwyd, gan gynnwys portread gwydr lliw o’r Frenhines Fictoria yng nghanol y prif gynllun gwydr yn y fynedfa fawr.
Abertawe – Llyfrgell Y Fforwm
Mae Llyfrgell y Fforwm yn rhan o ddatblygiad campws diweddaraf PCYDDS ar lannau Abertawe ac mae’n ymgorffori gwaith celf a wnaed gan y myfyrwyr.
Dyluniwyd y balwstrad gwydr addurniadol hwn ar y llawr cyntaf gan Stacey Mead, myfyriwr BA Dylunio Patrwm Arwyneb yng Ngholeg Celf Abertawe. Mae’r patrwm di-dor, a ysbrydolwyd gan amgylchedd glannau’r dociau, yn ymestyn ar draws 14 panel gwydr, metr sgwâr, 25mm o drwch wedi’u lamineiddio.
Gweithiodd y Ganolfan Gwydr Pensaernïol (CGP) yn agos gyda Stacey, gan helpu i reoli’r prosiect, cynhyrchu’r stensiliau a swndio’r dyluniad terfynol.
Mae creu gwaith at ddefnydd masnachol yn dasg ychydig yn frawychus a rhoddodd y tîm CGP yr hyder i mi gwblhau darn terfynol o ansawdd uchel. Hefyd, cynhyrchodd y tîm fy ngwaith terfynol sydd bellach mewn lle amlwg yn Llyfrgell Campws SA1. Yn fyr, ni allwn i fod wedi cynhyrchu darn mor uchel ei ansawdd heb y GGP a byddaf yn ddiolchgar am byth fy mod wedi cael y cyfle i weithio gyda nhw.
— Stacey Mead
Eglwys Dewi Sant – Yr Wyddgrug
Yn 1966, creodd Jonah Jones, artist-grefftwr o Gymru, dalle de verre mawreddog ar gyfer Eglwys Atgyfodiad Ein Hachubwr ym Morfa Nefyn, ar benrhyn Llŷn. Pan gaewyd yr eglwys i’w dymchwel, cymerodd y GGP y cynllun ymaith, gan ei gludo i’n gweithdy lle cafodd y paneli eu hadfer fesul un i’w hailosod yn Eglwys Dewi Sant yn Yr Wyddgrug.
Mae’r cynllun yn cynnwys 12 ffenestr, â phob un yn cynnwys dau banel dros fetr a hanner o uchder, wedi’u llunio gan ddarnau o slabiau gwydr lliw modfedd o drwch wedi’u gosod mewn matrics resin.
Cafodd ardaloedd o wydr a resin oedd wedi’u difrodi neu a oedd ar goll eu trwsio a’u hailosod, a chafodd blociau o wydr lliw eu hasio i gymryd lle lliwiau nad oeddynt ar gael yn fasnachol. Caniataodd ein cyfleusterau torri â chwistrell ddŵr i ni dorri’r dalles newydd yn union i ffitio’n berffaith yn eu hagoriadau resin. Roedd un o’r paneli gwaelod wedi malu’n llwyr o ganlyniad i faterion strwythurol a chafodd ei ailadeiladu fel copi union o’r gwreiddiol.