ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Doethur mewn Gweinyddiaeth Busnes (Llawn amser) (DBA)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser

Mae’r DBA yn cael ei gydnabod fel y pinacl o ran cymwysterau busnes a rheolaeth. Dyma ddoethuriaeth broffesiynol sy’n cynnig rhaglen astudio strwythuredig, gyda modiwlau a addysgir yn Rhan I a thraethawd ymchwil yn Rhan II, ac sydd wedi’i integreiddio’n agos â datblygiad gyrfa proffesiynol yr unigolyn.

Prif nodwedd ein DBA yw ei fod yn cael ei lywio gan ymarferwyr a’i fod wedi’i seilio ar broblemau cymhleth y gweithle, a bydd ein myfyrwyr doethuriaeth yn cynnig dealltwriaeth a dehongliadau damcaniaethol - yn aml o safbwyntiau gwahanol a gwrthwynebol - o darddiad y problemau hyn a’r ffyrdd gorau o fynd i’r afael â nhw.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser

Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cyfle i wneud cyfraniadau o’r radd flaenaf at wybodaeth ac arfer.
02
Agor eich potensial gyrfaol, yn y diwydiant a’r byd academaidd.
03
Cyfle i fod yn arbenigwr yn eich maes.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd y rhaglen DBA yn meithrin amrywiaeth eang o gymwyseddau dysgu gydol oes ar draws Rhan I a Rhan II y rhaglen.


Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i feithrin meddylfryd beirniadol o’r radd flaenaf yn ystod eu hastudiaethau. Bydd disgwyl iddyn nhw feirniadu a dadansoddi gwaith academaidd o ansawdd eithriadol o uchel yng nghyd-destun eu hymchwil eu hunain, ac yn y pen draw i baratoi gwybodaeth a dulliau arfer newydd.


Mae hunan-fyfyrdod yn rhan angenrheidiol a pharhaus o’r rhaglen, yn enwedig o ystyried natur hynod annibynnol y gwaith a’r mireinio parhaus a hirdymor y mae angen ei wneud ar waith ymchwil.
Bydd angen i fyfyrwyr ddysgu bod yn hyblyg ac yn wydn er mwyn gallu ymdopi â’r rhaglen gymhleth a heriol hon. Mae angen llawer iawn o hunanreolaeth er mwyn cwblhau darn eithriadol o fawr o waith, a bydd angen sgiliau rheoli amser rhagorol.

Traethawd Hir Ymchwil

(360 credydau)

Dulliau Ymchwil Meintiol

(30 credydau)

Gweledigaeth ar gyfer y Dyfodol - Safbwyntiau Damcaniaethol ar Reoli

(30 credydau)

Egwyddorion Ymchwil ac Athroniaeth

(30 credydau)

Adolygiad Beirniadol o Lenyddiaeth ar gyfer Ymchwil Doethurol

(30 credydau)

Trosi Ymchwil yn Arfer

(30 credydau)

Symud Ymlaen i'r Cam Ymchwil Doethurol

(30 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Gwybodaeth allweddol

  • Bydd ymgeiswyr angen gradd Meistr dda gyda chanran cyfartalog o 60% neu uwch er mwyn cael mynediad i’r cwrs. Bydd pob ymgeisydd yn cael eu hystyried. Mae tair blynedd o brofiad rheoli perthnasol diweddar yn ddymunol.

    Bydd myfyrwyr rhyngwladol angen sgôr IELTS cyfartalog o 6.0 (neu gyfwerth mewn unrhyw brawf cymeradwy arall) heb unrhyw sgôr is na 5.5 yn y cydrannau unigol.

  • Caiff pob modiwl ei asesu’n unigol ac maen nhw wedi’u llunio’n arbennig er mwyn paratoi myfyrwyr ar gyfer ail ran y DBA.

  • Efallai y bydd myfyrwyr angen adnoddau dysgu ychwanegol sy’n benodol i’w hymchwil, gan gynnwys tanysgrifio i gyfnodolion.

    Efallai y bydd angen mynychu cynadleddau, teithiau dydd dewisol neu waith maes, gan ddibynnu ar bwnc eich ymchwil, ac efallai bydd angen teithio i ddigwyddiadau ac yn ôl neu drefnu llety.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Bydd y rhaglen DBA yn paratoi myfyrwyr ar gyfer unrhyw faes neu ddisgyblaeth o fewn rheolaeth a busnes, gan wella eu sgiliau meddwl beirniadol, eu gallu dadansoddol a’u gallu gwybyddol ac yn eu galluogi i lwyddo yn y meysydd hyn. Hefyd, pe byddan nhw eisiau dechrau ar yrfa yn y byd academaidd, bydd y rhaglen yn eu paratoi i fod yn ymchwilwyr cadarn a medrus.

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau