ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Cyflwyniad

Mewn cydweithrediad â Chymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC), rydyn ni’n cynnig cwrs hyfforddi ar sail tystiolaeth sydd wedi’i ddylunio ar gyfer Footie Families.

Mae Footie Families yn rhaglen unigryw sy’n meithrin ymgysylltu â theuluoedd ac sy’n gwella sgiliau echddygol plant, wrth rymuso rhieni i gymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau corfforol â’u plant.

Mae’r hyfforddiant hwn yn rhoi strategaethau i hyfforddwyr ymgysylltu’n effeithiol â theuluoedd a chefnogi datblygiad corfforol plant ifanc.

Os oes gennych ddiddordeb yn yr hyfforddiant hwn a chyflwyno gweithgareddau hwyliog sy’n briodol yn ddatblygiadol i deuluoedd trwy rym pêl-droed, cysylltwch ag Anna Stevenson i gael rhagor o wybodaeth ar y cyfle hyfforddi hwn:  Footiefamilies@uwtsd.ac.uk