Arweinyddiaeth a Rheolaeth Gymhwysol yn y Gweithle (Llawn amser) (CertHE)
Sylwch fod y rhaglen hon yn cael ei chyflwyno ar gampysau eraill hefyd, sy’n cynnwys Caerdydd ac Caerfyrddin. Yn ogystal, cyflwynir y rhaglen hon hefyd yn ‘Busnes in Focus’, Tondu, yn rhan o ddarpariaeth Pen-y-bont ar Ogwr a Business in Focus, Ystâd Ddiwydiannol Trefforest yn rhan o ddarpariaeth Trefforest.
Ydych chi eisiau rhoi hwb i’ch gyrfa? Ydych chi eisiau astudio cwrs gradd yn lleol heb orfod rhoi’r gorau i’ch swydd arferol? Gyda’n tystysgrif Arweinyddiaeth a Rheolaeth Gymhwysol yn y Gweithle cewch ddysgu a datblygu strategaethau arwain a rheoli ar gyfer y gweithle.
Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio’n benodol ar gyflogadwyedd ac ar ddilyniant gyrfa, trwy eich cyflwyno i’r dulliau, y strategaethau a’r sgiliau sy’n cael eu hystyried yn hanfodol ar gyfer cyflogaeth. Diben trafodaeth a dadl wrth ddatrys problemau; datblygu eich deallusrwydd emosiynol a’ch gallu i weithio’n effeithiol, boed hynny mewn tîm neu ar eich pen eich hun; ac arfer myfyriol yw rhai o’r meysydd a drafodir.
Rhaid gwneud cais ar-lein i gael mynediad, ac nid oes angen unrhyw gymwysterau. Mae’r rhaglenni hyn yn cynnig cyfleoedd i gael addysg mewn amrywiaeth o ganolfannau cymunedol. Mae’r rhaglenni’n cael eu cyflwyno gyda’r nosau yn ystod yr wythnos ac yn ystod y dydd ar benwythnosau - er enghraifft, un dydd Sadwrn ac yna tair nos Fawrth ac yn y blaen — er mwyn caniatáu i chi barhau â’ch cyflogaeth llawn amser wrth i chi astudio.
Bydd pob un o’r myfyrwyr llwyddiannus ar y rhaglen Tyst AU yn graddio gyda Thystysgrif Addysg Uwch a Thystysgrif Lefel 4 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth gan ILM, ac yn cael cynnig mynd ymlaen i astudio ar gwrs BA (Anrh) sy’n cael ei addysgu yn yr un ffordd.
Ar ôl astudio’n llwyddiannus am flwyddyn, bydd myfyrwyr TystAU yn graddio gydag achrediad deuol, ardystiad, a chydnabyddiaeth ddigidol ILM. Yna gall myfyrwyr llwyddiannus symud ymlaen i raglenni Dip AU neu BA atodol.
Rydym yn cynnig y cyfle i’n myfyrwyr blwyddyn olaf ennill Tystysgrif Lefel 5 ILM mewn Hyfforddi a Mentora hefyd.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Nodau’r rhaglen yw:
- Rhoi cyfle i ddysgwyr astudio am ddyfarniad sy’n canolbwyntio’n benodol ar gyflogadwyedd a dilyniant gyrfa yn y dyfodol
- Cyflwyno myfyrwyr i ddulliau, strategaethau a sgiliau a ystyrir yn hanfodol ar gyfer cyflogaeth mewn cyd-destun cyffredinol
- Gwneud myfyrwyr yn gyfarwydd â thrafod a dadlau wrth brosesu a datrys problemau
- Datblygu meddwl beirniadol myfyrwyr i gefnogi gwneud penderfyniadau mwy effeithiol ac effeithlon
- Rhoi amrywiaeth o brofiadau dysgu i fyfyrwyr a luniwyd i’w cynorthwyo i gaffael a chymhwyso gwybodaeth
- Galluogi dysgwyr i ddod yn rheolwyr adfyfyriol, sy’n gallu diffinio targedau personol a phroffesiynol a’u cyflawni, gan gynnwys cyfrifoldeb am ddysgu a datblygiad proffesiynol yn y dyfodol.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Gwybodaeth allweddol
-
Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu cwrs dewisol byddwn fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.
-
Mae asesiadau wedi’u llunio i wneud yn fawr o’r cyswllt rhwng theori ac arfer a chaniatáu i fyfyrwyr ddangos trylwyredd deallusol ac adfyfyrio’n feirniadol ar eu profiadau eu hunain yn y gweithle.
Defnyddir dulliau asesu gwahanol i alluogi myfyrwyr i ddangos yr hyn maent wedi’i ddysgu mewn amrywiol ffyrdd, megis adroddiadau, gwaith adfyfyriol, cyflwyniadau, gwaith unigol a pheth gwaith grŵp, er bod asesiad unigol bob tro. Defnyddir asesiadau ffurfiannol i gyfoethogi dealltwriaeth dysgwyr ac i fagu hyder dysgwyr, yn ogystal â nodi ymhle y gallai fod angen cymorth tiwtorial ychwanegol. Ar gyfer asesiadau ffurfiannol, gall cwisiau fod yn ddifyr a gweithio’n dda. Anogir myfyrwyr i ddod â’u hymchwil eu hunain i’r dosbarth i’w rannu ag eraill sy’n cyfrannu.
Yn gyffredinol, darperir adborth trwy’r platfform ar-lein, Moodle. Mae tîm y rhaglen hefyd yn darparu adborth wyneb yn wyneb er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn gwerthfawrogi ac yn dysgu o’r adborth a ddarperir ac yn gallu trafod pob agwedd ar eu perfformiad a’r gwersi y gellid eu cymhwyso yn y dyfodol.
I grynhoi, er mwyn creu ymarferwyr adfyfyriol cymwys, bydd y rhaglen yn:
- Annog myfyrwyr i ymgymryd â darllen ac ymchwil annibynnol i ehangu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth unigol o’r pwnc
- Defnyddio dulliau asesu sy’n rhoi pwyslais ar ddadansoddi beirniadol, gwerthuso ac arfer adfyfyriol
- Profi gwybodaeth a sylfaen sgiliau drwy waith cwrs ac ymarferion ymarferol a asesir.
-
Fel sefydliad, ymdrechwn yn barhaus i gyfoethogi profiadau myfyrwyr ac o ganlyniad, mae’n bosibl y daw costau ychwanegol i ran y myfyrwyr sy’n gysylltiedig â gweithgareddau a fydd yn ychwanegu gwerth at eu haddysg.
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio heb gostau ychwanegol. Efallai bydd myfyrwyr yn dymuno cofrestru am dystysgrif L5 mewn Hyfforddi a Mentora gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth am gost ychwanegol o £160.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau arwain a rheoli sydd gan y myfyrwyr aeddfed a’u defnyddio yn gweithle.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen lefel 4 sy’n sefyll ar ei phen ei hun, gall myfyrwyr adael y Brifysgol â ThystAU lefel 4 a Thystysgrif lefel 4 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth gan yr ILM. Mae’r rhan fwyaf o’r myfyrwyr llwyddiannus yn dewis symud ymlaen a pharhau â’u hastudiaethau amser llawn drwy ymgymryd â rhaglen BA atodol am 2 flynedd. Mae’r BA 2 flynedd mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth hefyd yn cynnig cydnabyddiaeth broffesiynol gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth i’r myfyrwyr sy’n parhau â’u hastudiaethau. Cenhadaeth y Sefydliad yw “Ysbrydoli Arweinyddiaeth Ardderchog”.
Mae ymgysylltu â chyflogwyr yn rhoi cyfleoedd i rwydweithio a chael gwell dealltwriaeth o’r maes astudio, ac yn helpu’r brifysgol i ragweld anghenion posibl cyflogwyr yn y dyfodol. Ymgynghorir â chyflogwyr a chyrff dyfarnu wrth ddylunio’r deunydd a chynnwys y modylau ac maent yn rhoi mewnbwn ar y rhaglen ar ffurf siaradwyr o fyd diwydiant.