ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Lucy Davies - Gwneud Ffilmiau Antur (BA Anrh)

Profiad Lucy Davies yn PCYDDS

Lucy with her camera hanging over the sea

Enw: Lucy Davies 

Cwrs: BA (Anrh) Gwneud Ffilmiau Antur

Astudiaethau Blaenorol: Safon Uwch: Ffotograffiaeth, seicoleg ac addysg gorfforol

Tref eich cartref: Y Mwmbwls, Gŵyr.
 

Profiad Lucy ar BA (Anrh) Gwneud Ffilmiau Antur

a man surfing in the sunset

Beth oedd eich hoff beth am gampws Caerfyrddin?

Y lleoliad. Nid yw’r campws yn rhy bell o’r Gŵyr neu Sir Benfro, lleoliadau gwych ar gyfer syrffio a dringo, a phrosiectau ffilmio ar gyfer y radd hon neu fy mhrosiectau i fy hun.  Mae llawer o gyfleusterau gwych ar y campws fel y labordai Mac ac ystafelloedd golygu, yn ogystal â’r ystafell drochi. Mae hefyd drws nesaf i adeilad S4C sydd wedi rhoi llawer o gyfleoedd i ni.  

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Dewisais i’r Drindod Dewi Sant oherwydd y radd unigryw. Y brifysgol hon oedd yr unig un lle llwyddais i ddod o hyd i gwrs gwneud ffilmiau antur, a dyma’r radd agosaf i’r math o lwybr gyrfa rydw i eisiau ei ddilyn. Dwi hefyd yn hoffi’r ffaith nad yw’n gampws enfawr ble rydych yn un o 300 mewn dosbarth. Rydych yn cael llawer o help gan ddarlithwyr ac mae’n teimlo fel prifysgol gyfeillgar lle mae’r darlithwyr yn gallu neilltuo tipyn o’u hamser mewn darlithoedd i’ch helpu.

Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Roedd gweithio gyda myfyrwyr y radd addysg antur awyr agored mewn darlithoedd yn wych. Des i ar draws pobl oedd, fel fi, yn mwynhau syrffio ac yn mwynhau dringo. Byddem yn mynd allan i lefydd fel Rhosili ac yn abseilio trwy ogofau neu’n treulio’r diwrnod yn arforgampau pan fyddai gennym amser sbâr. Roeddwn i wir yn mwynhau mynd allan i syrffio a thynnu lluniau fy ffrindiau yn y dŵr. 

Roedd y teithiau hefyd yn anhygoel. Roedd cyfleoedd i fynd ar deithiau y tu allan i ddarlithoedd. Aethon ni ar daith ddringo i Sbaen yn 2023 lle treulion ni’r wythnos yn gwneud campau dringo ac yn dringo clogwyni gyda fy nghamera i dynnu lluniau o bobl yn dringo. Aethon ni hefyd ar daith ddringo i Sir Benfro a gweithio ar ein sgiliau dringo traddodiadol a dringo llwybrau traddodiadol aml-ddringen sy’n hongian allan uwchben y môr.

Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?

Y freuddwyd fyddai gwneud ffilmiau syrffio neu ddod yn ffotograffydd syrffio ond byddwn i’n hapus iawn i weithio mewn unrhyw feysydd sy’n gysylltiedig â gwneud ffilmiau antur. Byddai gweithio i uned astudiaethau natur y BBC yn gwireddu breuddwyd i mi neu weithio i’r National Geographic hyd yn oed fel dynes camera. Dwi’n gweithio ar hyn o bryd fel gweithiwr llawrydd yn gwneud rhaglenni dogfen i warchodfa natur. 

Dwi hefyd yn gweithio fel arweinydd arforgampau a hyfforddwr dringo creigiau. Ym mis Hydref neu Dachwedd, byddaf yn hedfan allan i Kalymnos, Groeg, i ffilmio prosiect cyffrous a fydd yn cynnwys criw o ddringwyr creigiau, rigwyr ac artist syrcas a pherfformiwr styntiau. Mae’n debyg y byddaf yn hongian 100 troedfedd oddi ar graig fargodol yn fy harnais yn ffilmio’r stynt hwn ac mae hynny’n fy nghyffroi i’n fawr.

Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?

Y darlithoedd ymarferol. Mewn rhai darlithoedd byddem yn ffilmio barcutiaid coch gyda lensys teleffoto enfawr ac yn dysgu sut i’w tracio wrth iddynt hedfan a’u cadw mewn ffocws. Mewn darlithoedd eraill byddem yn canolbwyntio ar ddysgu ffotograffiaeth facro neu ddysgu sut i stacio ffocysau. Roedd rhai o’n darlithoedd ym mis Rhagfyr i fyny yng Ngogledd Cymru lle cawsom gyfleoedd i dynnu lluniau pobl yn mynydda mewn hyd at 6 troedfedd o eira ar Grib Goch yn Eryri.

Cawsom gyfleoedd hefyd sawl gwaith i ffilmio a thynnu lluniau’r troellwyr tân o Sir Benfro, ac un o’r troeon hynny cawsom ddefnyddio camerâu RED oedd yn costio hyd at £50,000. Roedd y darlithoedd ymarferol gyda’r radd addysg antur awyr agored hefyd yn uchafbwynt o’r radd. Byddem yn mynd i dipyn o bobman, naill ai’n dringo, caiacio, mynydda, neu’n ennill cymwysterau cymorth cyntaf a gwaedu catastroffig.   

A man rappelling down a mountain.

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Mae’r Drindod Dewi Sant yn teimlo fel prifysgol gyfeillgar. Mae’r darlithwyr yn mynd y tu hwnt i’r gofyn i helpu mewn unrhyw ffordd y gallant. Ceir cyfleoedd unigryw yn y brifysgol hon, fel teithiau dringo dramor, neu ffilmio a dysgu gan bobl wirioneddol lwyddiannus yn y diwydiant gwneud ffilmiau antur. Mae lleoliad y campws yn berffaith ar gyfer rhywun sy’n dilyn gradd gwneud ffilmiau antur. Mae gan y rhan hon o’r byd gymaint i’w gynnig i ffotograffwyr bywyd gwyllt, neu’r rhai sy’n caru cyffro, neu sy’n mwynhau’r awyr agored.  

Gwybodaeth Gysylltiedig