Diwrnodau Agored
Cyflwyniad Diwrnod Agored
Dewch i ymweld â ni a Darganfod Y Drindod Dewi Sant
Mae ein Diwrnodau Agored a’n Nosweithiau Agored yn gyfle perffaith i ddarganfod beth sydd gan ein cyrsiau a’n campysau i’w gynnig i chi. Bydd diwrnod agored yn rhoi blas i chi o astudio gyda ni, a chyfle i gwrdd â myfyrwyr presennol a rhai o’r tîm addysgu. Mae’r digwyddiadau hyn, a gynhelir trwy gydol y flwyddyn, yn rhoi cyfle i chi ofyn y cwestiynau sydd bwysicaf i chi, wrth benderfynu beth a ble i astudio. Cofrestrwch eich manylion heddiw i ddarganfod mwy am ein digwyddiadau sydd ar ddod.
Diwrnodau Agored sydd i ddod
Beth i’w ddisgwyl ar Ddiwrnod Agored
Mae Diwrnodau Agored yn rhoi cyfle i chi archwilio ein campysau, ein cyfleusterau a’n lleoliadau. Byddwch yn cwrdd a siarad â myfyrwyr presennol a staff a chael syniad o fywyd myfyrwyr yn PCYDDS. Mae ein Diwrnodau Agored yn ddiwrnodau strwythuredig lle gewch chi gyflwyniadau am y Brifysgol a’n cyrsiau ac yn cael gwybod gan wasanaethau myfyrwyr am yr amrywiaeth o wasanaethau cymorth sydd ar gael pan fyddwch yn astudio gyda ni.
- Caerdydd – Dydd Gwener 20 Mehefin 2025
- Llambed– Dydd Sadwrn 21 Mehefin 2025
- Abertawe – Dydd Sul 29 Mehefin 2025
- Caerfyrddin – Dydd Sadwrn 5 Gorffennaf 2025
Nosweithiau agored sydd i ddod
Noson Agored Caerfyrddin
Cyn Hir:
- -
Noson Agored Caerfyrddin 4 Chwefror 2025
Noson Agored Abertawe
Cyn Hir:
- -
Noson Agored Abertawe 6 Chwefror 2025
Noson Agored Coleg Celf Abertawe
Cyn Hir:
- -
Noson Agored Coleg Celf Abertawe 6 Chwefror 2025
Manteision Ymweld â Ni
Manteision Ymweld â Ni
Dewch i gwrdd â’r Bobl a fydd yn eich addysgu
Dod i adnabod y darlithwyr a’r staff a fydd yn eich arwain drwy eich astudiaethau. Bydd cwrdd â’r tîm addysgu wyneb yn wyneb yn eich helpu i ddeall y cwrs yn well a sut y byddwch yn cael eich dysgu a’ch asesu drwy gydol eich astudiaethau. Rydym yn safle 1af yng Nghymru ar gyfer boddhad myfyrwyr. Bydd cwrdd â’ch darlithwyr nid yn unig yn rhoi cipolwg i chi am hwn, ond bydd hefyd yn rhoi’r hyder i chi am y cymorth y byddwch yn ei dderbyn drwy gydol eich astudiaethau.
Edrychwch ar gyfleusterau eich cwrs
Archwiliwch y cyfleusterau o’r radd flaenaf y byddwch yn eu defnyddio yn ystod eich astudiaethau. O labordai arbenigol i stiwdios creadigol, bydd gweld y gofodau hyn eich hun yn eich helpu i feddwl am eich amgylchedd dysgu. Bydd deall yr adnoddau sydd ar gael yn rhoi darlun cliriach i chi o sut y byddwch yn datblygu’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen yn eich dewis faes. Yn ogystal, byddwch yn gweld sut mae pob un o’n cyrsiau yn galluogi ein myfyrwyr i fod yn barod am yrfa.
Archwiliwch ein campws
Crwydrwch drwy ein campysau hardd a’r lleoliadau rydym yn eu galw’n gartref gan roi ymdeimlad i chi o fywyd myfyrwyr yn PCYDDS. Dewch i ddarganfod gofodau astudio, ardaloedd cymdeithasol ac amgylchedd unigrwydd pob lleoliad. Bydd dod i weld y campysau eich hun yn eich helpu i benderfynu ai hwn yw’r lle i chi.
Dysgwch am fywyd myfyrwyr
Dysgwch am yr opsiynau llety a bywyd myfyrwyr y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Dewch i weld lle gallwch fyw a dysgu am y gwasanaethau cymorth sydd ar gael. Mae deall y trefniadau byw a’r gymuned gampws yn eich helpu i baratoi ar gyfer bywyd yn y brifysgol ac yn sicrhau eich bod yn dod o hyd i le sy’n teimlo fel cartref.
Cael yr atebion i’ch cwestiynau
Dewch i gael atebion i’ch holl gwestiynau gan staff a myfyrwyr presennol. P’un a yw eich cwestiynau yn ymwneud â chyrsiau, derbyniadau, cymorth a chyllid myfyrwyr, gallwch gael yr atebion sydd eu hangen arnoch i benderfynu beth i’w astudio a ble. Mae’r cyfathrebu personol hwn yn sicrhau eich bod yn gadael gyda’r wybodaeth a’r hyder i wneud penderfyniadau gwybodus am eich dyfodol yn PCYDDS.