Arfer Proffesiynol (PGDip)
Dyma gwrs arloesol a hyblyg y gellir ei deilwra i ddiwallu anghenion unigol neu sefydliadol. Ei nod yw darparu cyfleoedd hygyrch wedi’u teilwra wrth gydnabod ac achredu dysgu trwy brofiad yn y gweithle.
Pam dysgu’r hyn rydych chi’n ei wybod yn barod?
Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ennill credydau am eich gwybodaeth a’ch sgiliau presennol, a dyma beth rydyn ni’n ei alw’n ‘dysgu trwy brofiad’.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
- Saesneg
£43.33 y credyd
£5 y credyd ar gyfer dysgu drwy brofiad
Why choose this course?
What you will learn
Gellir addasu’r cwrs i’ch llwybr gyrfaol chi, ond gallai llwybr nodweddiadol gynnwys y Modwl Cydnabod ac Achredu Dysgu (RAL), lle gallwch hawlio’r credyd am ddysgu trwy brofiad, ac 20 credyd ychwanegol ar gyfer eich adolygiad adfyfyriol. Wedyn, argymhellir yn gryf eich bod yn dilyn y modwl Dulliau Ymchwil cyn ymgymryd â modwl Prosiect Dysgu Seiliedig ar Waith lle byddwch yn ennill sgiliau ymchwil a chyflwyno.
Optional
(20 credydau)
(15 credydau)
(20 + (40-160 cais credyd))
Optional
(30 credydau)
(20 credydau)
(30 credydau)
(15 credydau)
(20 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(20 credyd)
Optional
Course Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
testimonial
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Dylai fod gan ymgeiswyr 5 mlynedd o brofiad gwaith.
-
Defnyddir amrywiaeth o asesiadau i herio dysgwyr. Mae ffocws academaidd cryf o fewn y rhaglen ochr yn ochr â datblygu sgiliau ymarferol.
-
Nid oes unrhyw gostau ychwanegol gofynnol ar gyfer y cwrs. Mae opsiwn i gynnal asesiad Seicometrig Insights.
-
Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaeth. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau ar ein gwefan.