ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Bwrsariaethau Ôl-raddedig

  • Bwrsariaeth sydd ar gael i fyfyrwyr o dan 25 oed sy’n dod i’r brifysgol o gefndir gofal (i helpu gyda chostau cychwynnol o ran adnoddau ac offer)


    Profiad o ofal (3 mis neu ragor yn byw o dan Ofal Awdurdod Lleol dros eu tair oed). Ar gael i rai o dan 25 yn unig.

    Bydd disgwyl i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth i gefnogi eu cais e.e. Cadarnhad o’ch amgylchiadau trwy lythyr gan eich Awdurdod Lleol (ALl) neu Awdurdod Gofal, yn cadarnhau eich bod o dan ofal eich ALl am gyfnod o 3 mis neu fwy dros eich tair oed.

    Swm y Dyfarniad: Hyd at Â£1,000

    Gwybodaeth Ychwanegol: Ffurflen gais i gynnwys tystiolaeth ategol

    Mae’r fwrsariaeth yn cael ei thalu mewn 3 thaliad (un bob tymor) â€“ 25%, 25% a 50%

    Gwnewch Gais Nawr: 

  • for assistance with disability-related costs


    Bwrsariaeth ar gyfer unrhyw fyfyriwr sydd ag anabledd, neu’n cael asesiad o anabledd, i helpu gydag unrhyw gostau yn ymwneud a’r anabledd hwnnw i hyrwyddo’i astudiaethau.

    Eligibility Criteria:

    Mae Gwasanaethau Myfyrwyr wedi nodi bod angen asesiad diagnostig ar y myfyriwr,

    Neu

    Mae angen offer arbenigol ar y myfyriwr ond nid yw’n gymwys i gael cymorth y Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA).

    Swm y Dyfarniad: Hyd at Â£700

    Dyddiad olaf i wneud cais: Gall myfyrwyr wneud cais unrhyw bryd

    Gwybodaeth Ychwanegol: Ni ellir dyfarnu’r arian hwn i fyfyrwyr sydd eisoes yn derbyn cymorth y DSA.

    Ffurflen gais i gynnwys copi o’ch llythyr hysbysiad Cyllid Myfyrwyr a phrawf o gostau’r offer arbenigol (lle’n berthnasol)

    Gwnewch Gais Nawr: 

  • ar gyfer myfyrwyr  dan 25 oed sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu rhieni


    Hyd at £1000 i gynorthwyo myfyrwyr (18–25 oed) sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu rhieni ac nad ydynt yn cael unrhyw gyswllt â nhw, neu nad ydynt mwyach yn cael eu cefnogi gan eu teulu oherwydd bod y berthynas wedi chwalu gan arwain at roi’r gorau i gysylltu ers 12 mis neu fwy.  

    Meini Prawf Cymhwystra:

    Rhaid i fyfyrwyr fod o dan 25 oed a bydd yn ofynnol iddynt ddarparu tystiolaeth i gefnogi eu cais e.e. cadarnhad gan Gyllid Myfyrwyr eu bod yn cael eu hasesu am gyllid fel myfyriwr sydd wedi ymddieithrio, neu gopi o’r dystiolaeth a roddwyd i Gyllid Myfyrwyr yn rhan o’r cais ymddieithrio.  

    Swm y Dyfarniad: Hyd at Â£1,000

    Gwybodaeth Ychwanegol: Ffurflen gais i gynnwys tystiolaeth ategol.
    Mae’r fwrsariaeth yn cael ei thalu mewn tair rhan – 25% yn nhymor 1, 25% yn nhymor 2 a 50% yn nhymor 3. 

    Gwnewch Gais Nawr: 

  • ar gyfer myfyrwyr sy’n ofalwyr a/neu rieni â chostau gofal plant


    Myfyrwyr dan 25 oed sy’n Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr 

    Myfyrwyr dros 25 oed sy’n Ofalwyr 

    Myfyrwyr sydd â phlant ac sydd angen help gyda chostau gofal plant

    Lefelau bwrsariaethau:

    Hyd at £500 i gefnogi costau gofal plant (mewn meithrinfa, crèche neu ofalwr plant cofrestredig yn y DU), pan na fydd cyllid gofal plant ar gael drwy’r llywodraeth neu Gyllid Myfyrwyr. Telir y fwrsariaeth hon mewn dau randaliad â€“ 50% y semester.

    neu

    Hyd at £500 i gefnogi oedolion dibynnol, pan nad yw myfyriwr yn gymwys am y Grant Oedolion Dibynnol a’r Grant Cymorth Arbennig drwy Gyllid Myfyrwyr (byddai’r dystiolaeth sy’n ofynnol yn cynnwys y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) neu’r Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) perthnasol). Telir y fwrsariaeth hon mewn dau randaliad - 50% y semester.

    Hyd at £1000 i fyfyrwyr dan 25 oed sy’n Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr (y dystiolaeth angenrheidiol fydd llythyr gan eich Awdurdod Lleol/Gwasanaethau Cymdeithasol neu Grŵp Cymorth Gofalwyr). Telir y fwrsariaeth hon mewn tri rhandaliad – 25% yn nhymor 1, 25% yn nhymor 2 a 50% yn nhymor 3. 

    Swm y Dyfarniad: Hyd at Â£1,000

    Gwybodaeth Ychwanegol: Dylai’r cais gynnwys tystiolaeth ategol.

    Gwnewch Gais Nawr: 

  • ar gyfer myfyrwyr sy’n dod o ardaloedd Ehangu Cyfranogiad MALIC 40 


     Hyd at £100 i gefnogi myfyrwyr sy’n dod o ardaloedd Ehangu Cyfranogiad fel y’u dynodwyd gan Lywodraeth Cymru.

    Meini Prawf Cymhwystra: Mae cod post cartref y myfyrwyr (nid eu cyfeiriad adeg tymor) yn perthyn i ddau gwintel isaf MALlC 40 fel y’u darperir gan Lywodraeth Cymru.

    Dyddiad olaf i wneud cais: Nid oes angen gwneud cais cychwynnol; bydd y Brifysgol yn cysylltu â myfyrwyr sy’n gymwys am y fwrsariaeth hon.

    Gwybodaeth Ychwanegol: Gall myfyrwyr dderbyn y fwrsariaeth unwaith yn y flwyddyn academaidd a phrosesir y fwrsariaeth ym mis Mai.

  • Bwrsariaeth Llesiant Myfyrwyr Trawsryweddol ac Anneuaidd 


    Hyd at uchafswm o £250 i bob myfyriwr cymwys, a ddarperir fel arfer yn ôl-weithredol ar ôl cyflwyno derbynebau prynu.

    Rhagwelir y bydd y fwrsariaeth hon yn cynorthwyo myfyrwyr Trawsryweddol ac Anneuaidd i gael cymorth llesiant priodol – er enghraifft, teithio i apwyntiadau, presgripsiynau, gwasanaethau cymorth a lloches.   

    Bydd myfyrwyr yn nodi eu bod yn Drawsryweddol neu’n Anneuaidd a byddant wedi ysgwyddo costau llesiant perthnasol.

    Swm y Dyfarniad: Hyd at Â£250

    Gwybodaeth Ychwanegol: Dyfernir y fwrsariaeth hon fel arfer fel ad-daliad ar ôl cyflwyno derbynebau priodol. Os na all myfyrwyr dalu costau ymlaen llaw yna anogir ceisiadau i’r Gronfa Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr.

    Gwnewch Gais Nawr: 

  • ar gyfer myfyrwyr sy’n ymgymryd â modylau drwy gyfrwng y Gymraeg


    Myfyrwyr sy’n ymgymryd â modylau cyfrwng Cymraeg

    Dyfernir y wobr i fyfyrwyr israddedig sy’n cynnal y cyfan neu ran o’u hastudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg/yn ddwyieithog:
    £50 am bob 10 credyd a gwblhawyd yn llwyddiannus drwy gyfrwng y Gymraeg/yn ddwyieithog (rhaid bod o leiaf 50% o’r modylau yn ddwyieithog a chanddynt god C)

    Swm y Dyfarniad: Hyd at £900 (neu £1200 mewn rhaglenni gradd dwy flynedd dwys)

    Dyddiad olaf i wneud cais: 29ain Ebrill 2024 

    Gwybodaeth Ychwanegol: Mae’r wobr yma’n gysylltiedig â chanlyniadau a bydd yn cael ei dyfarnu wedi’r byrddau arholi ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.
    Sylwer na fydd myfyrwyr sydd eisoes yn derbyn Ysgoloriaethau Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gymwys ar gyfer £500 cyntaf yr ysgoloriaeth hon ac yn derbyn yr elfen ychwanegol yn unig.

    Gwnewch Gais Nawr: 

  • Cymorth â chostau datblygu gyrfa neu brofiad gwaith


    Telir costau o hyd at £200 ar gyfer cyrsiau datblygu byr neu Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (yn ychwanegol at y cwrs) neu hyd at £1000 ar gyfer interniaethau a drefnwyd gan y myfyriwr (yn dibynnu ar y profiad). Rhaid i gyrsiau neu interniaethau fod yn berthnasol i’r rhaglen academaidd.

    Er y gall myfyrwyr wneud mwy nag un cais, yr uchafswm y gellir ei ddyfarnu at ei gilydd i unrhyw fyfyriwr mewn blwyddyn academaidd yw Â£1000.

    Ni chaiff myfyrwyr sydd wedi’u penodi’n interniaid INSPIRE neu sy’n elwa o interniaethau STEM y Brifysgol wneud cais yn ychwanegol trwy’r gronfa hon oherwydd ariennir y rolau hynny drwy’r gronfa hon eisoes. Mae myfyrwyr sy’n cynrychioli’r Brifysgol yn yr Eisteddfod hefyd yn cael eu cefnogi drwy’r gronfa hon, felly mae unrhyw daliadau’n cyfrannu at yr uchafswm dyfarniad o Â£1000.

    Bwriedir i’r Fwrsariaeth Datblygu Gyrfa gynorthwyo â phrofiad gwaith o ran costau teithio / llety. Ni ddylai’r profiad gwaith fod yn elfen orfodol o leoliad gwaith o fewn y cwrs.  

    Ymgeisiwch nawr: 

  • cymorth â chostau cwrs


    Myfyrwyr israddedig ac Ã´l-raddedig

    Hyd at £250 i gynorthwyo myfyrwyr amser llawn i wneud cais am gostau yn gysylltiedig â’u cwrs

    Dyfernir y fwrsariaeth hon fel arfer fel ad-daliad ar ôl cyflwyno derbynebau prynu. Os na all myfyrwyr dalu costau ymlaen llaw yna anogir ceisiadau i’r Gronfa Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr.

    Gall costau yn gysylltiedig â’r cwrs gynnwys: llyfrau arbenigol, offer arbenigol ac ati.

    Er y gall myfyrwyr wneud mwy nag un cais lle mae’r cymorth y gofynnir amdano yn llai na £250, yr uchafswm y gellir ei ddyfarnu at ei gilydd i unrhyw fyfyriwr mewn blwyddyn academaidd yw Â£250

    Swm y Dyfarniad: Hyd at Â£250

    Gwybodaeth Ychwanegol: Bydd angen i fyfyrwyr gyflwyno copïau o dderbynebau fel prawf o’r costau

    Gwnewch Gais Nawr: 

  • cymorth â  chostau graddio


    Hyd at £100 i gynorthwyo graddedigion sydd mewn trafferthion ariannol gyda chostau sy’n gysylltiedig â mynychu seremoni raddio.

    Er mwyn gwneud cais am y fwrsariaeth hon bydd angen i chi: 

    • fod ar fin graddio o gwrs PCYDDS ac yn gymwys i fynychu’r seremoni raddio
    • bod wedi cadarnhau eich bod yn bwriadu mynychu seremoni raddio PCYDDS
    • dangos bod angen cymorth ariannol gyda chostau rhesymol yn ymwneud â graddio

    Swm y Dyfarniad: Hyd at Â£100

    Gwnewch Gais Nawr: 

  • cymorth â chostau cyfnod lleoliad gorfodol


    Hyd at £250 i gynorthwyo myfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliad gorfodol fel rhan o’u cwrs.

    Dyfernir y fwrsariaeth hon fel arfer fel ad-daliad ar ôl cyflwyno derbynebau prynu. Os na all myfyrwyr dalu costau ymlaen llaw yna anogir ceisiadau i’r Gronfa Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr.

    Er y gall myfyrwyr wneud mwy nag un cais lle mae’r cymorth y gofynnir amdano yn llai na £250, yr uchafswm y gellir ei ddyfarnu at ei gilydd i unrhyw fyfyriwr mewn blwyddyn academaidd yw Â£250

    Swm y Dyfarniad: Hyd at Â£250

    Gwybodaeth Ychwanegol: Bydd angen i fyfyrwyr gyflwyno derbynebau fel prawf o’r costau a nodi cyfeiriad y lleoliad a phellter y siwrnai.

    Gwnewch Gais Nawr: 

  • Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig amrywiaeth o 
    Caiff symiau’r bwrsariaethau sydd ar gael a’r pynciau y maent yn gysylltiedig â nhw eu pennu’n flynyddol mewn ymateb i anghenion y sector addysg.

    Dysgu rhagor am  

    Cynlluniau Cymhelliant Hyfforddi Athrawon 2025/26 

    Mae’r pynciau blaenoriaeth uchel ar gyfer 2025/26  yn cynnwys: 

    • Bioleg
    • Cemeg
    • Dylunio a Thechnoleg
    • Technoleg Gwybodaeth
    • Mathemateg
    • Ieithoedd Tramor Modern
    • Ffiseg
    • Cymraeg

     - cymhelliant addysg gychwynnol i athrawon cyfrwng Cymraeg.

    Caiff y bwrsariaethau eu prosesu ym mis Medi ar ôl i chi gofrestru ar y cwrs.

Sylwch fod y canlynol yn cael eu gweinyddu gan Adran Ffioedd PCYDDS.

  • *Gwybodaeth i ddilyn

  • *Gwybodaeth i ddilyn

Cyfarwyddyd ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig o’r DU

  • Cyllid Myfyrwyr

    Mae cyllid ar gael ar ffurf benthyciadau, grantiau a bwrsariaethau ar gyfer astudio Ã´l-raddedig.

    Mae cyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon, fel cyrsiau gradd israddedig, yn denu cyllid, ac mae’n bosibl eich bod yn gymwys i dderbyn cymelldaliadau ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon.  

    Lwfansau i Fyfyrwyr Anabl

    Os oes gennych anabledd, cyflwr iechyd tymor hir, cyflwr iechyd meddwl neu anabledd dysgu penodol, gallwch wneud cais am Lwfansau i Fyfyrwyr Anabl i helpu gyda chostau cynnal ac offer arbenigol. Ni fydd yn rhaid i chi eu talu yn ôl, ac nid oes yn rhaid eich bod yn derbyn Benthyciad Ôl-raddedig i wneud cais chwaith.

    Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

    Mae’r Drindod Dewi Sant yn cynnig amrywiaeth o Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

  • Cyn i chi dderbyn unrhyw gyllid ar gyfer eich cwrs yn y brifysgol, bydd yn rhaid i chi fodloni rhai meini prawf cymhwyster. Bydd p’un ai yr ydych yn gymwys yn dibynnu ar eich cwrs, eich oedran, eich cenedligrwydd, eich statws preswyl a’ch astudio blaenorol.

    Mae digon o wybodaeth a chyfarwyddyd fesul cam ar gael ar y gwefannau canlynol i’ch helpu chi ddeall beth sydd ar gael ar eich cyfer, a sut a phryd i wneud cais, a sut i ad-dalu:

    Y ffordd gyflymaf a symlaf i wneud cais yw ar-lein. Dylech wneud cais cyn gynted ag sy’n bosibl ar ôl i’r gwasanaeth ceisiadau agor er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn eich arian mewn pryd ar gyfer dechrau’r cwrs.

    I wneud cais, bydd angen pasbort, rhif yswiriant gwladol a manylion banc arnoch.

    Wrth gwblhau eich cais am Gyllid Myfyrwyr, sicrhewch eich bod yn dewis:

    Enw’r Brifysgol: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

    Ar gyfer cyrsiau sydd â nifer o ddyddiadau derbyn a lleoliadau, sicrhewch eich bod yn gwneud cais am Gyllid mewn perthynas â’r mis derbyn a’r lleoliad cwrs cywir.

    Nid oes rhaid i chi aros tan i chi gael lle yn y Brifysgol wedi’i gadarnhau i wneud cais. Gallwch ddefnyddio’r cwrs sydd orau gennych, ac os bydd rhaid, newid y manylion nes ymlaen.

    Ar ôl i’r cais gael ei brosesu, byddwch yn derbyn llythyr oddi wrth staff Cyllid Myfyrwyr (amserlen dalu) yn cadarnhau faint byddwch yn ei dderbyn a’r dyddiadau y cewch eich talu  (tri rhandal, un bob tymor, os ydych yn gwneud cais drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, a rhandaliadau misol os ydych yn gwneud cais drwy Student Awards Agency Scotland).

    Caiff Gwasanaethau Cofrestrfa’r Brifysgol eu hysbysu unwaith bod eich asesiad wedi’i gwblhau, gan ofyn iddynt gadarnhau eich cofrestriad a’ch presenoldeb i ‘r staff Cyllid Myfyrwyr.

    Ar yr amod eich bod wedi cofrestru, a’r tymor wedi dechrau, caiff eich presenoldeb ei gadarnhau a gwnewch dderbyn eich rhandal cyntaf o’r benthyciad (a grantiau os yw’n berthnasol) o fewn 3-5 diwrnod gwaith yn dilyn y dyddiad hwnnw.

    Ar yr amod eich bod yn parhau i fod wedi cofrestru ac yn bresennol, bydd y taliadau yn parhau i gael eu gwneud yn unol â’ch amserlen dalu.

  • Dylid cyfeirio unrhyw broblemau neu ymholiadau sy’n ymwneud â’ch cais neu ddyfarniad at Gyllid Myfyrwyr yn y lle cyntaf, oherwydd nhw sy’n penderfynu ar eich asesiad ariannol ac ar unrhyw ddyfarniadau.

    Ymholiadau ynglÅ·n â Benthyciadau Ã”l-raddedig

    • Student Finance England: 0300 100 0031
    • Student Finance Northern Ireland: 0300 100 0493
    • Student Awards Agency Scotland: 0300 555 0505
    • Cyllid Myfyrwyr Cymru: 0300 100 0494

    Mae hefyd gan y Brifysgol Swyddogion Cyllid Myfyrwyr a all siarad â chi am y cyllid yr ydych efallai yn gymwys i’w dderbyn a’ch helpu gyda’r ffurflenni gwneud cais.

  • Bydd rhaid ad-dalu benthyciadau ôl-raddedig, a chaiff llog ei godi arnynt, gan ddechrau ar y diwrnod y caiff y rhandal cyntaf ei dalu i chi tan i chi ad-dalu’r benthyciad yn llawn. Ni fydd yn rhaid i chi ad-dalu unrhyw arian tan eich bod yn gweithio ac yn ennill dros £21,000 y flwyddyn.

    Unwaith byddwch yn ennill digon i ddechrau ad-dalu, byddwch yn talu 6% ar bopeth yr ydych yn ei ennill sydd dros £21,0000 y flwyddyn. Bydd yr ad-daliadau yn cychwyn ym mis Ebrill, ar ôl i’r cwrs orffen.

    • Os ydych yn gweithio, bydd eich cyflogwr yn didynnu ad-daliadau yn uniongyrchol oddi wrth eich cyflog, ynghyd â threth ac Yswiriant Gwladol. Bydd cyfanswm yr ad-daliad ar gyfer y benthyciad i fyfyrwyr i’w weld ar eich slip talu.
    • Os ydych yn hunangyflogedig, byddwch yn gwneud eich ad-daliadau ar yr un pryd ag y byddwch yn talu treth drwy hunanasesu.
    • Os byddwch yn gorffen gweithio neu mae gostyngiad yn eich incwm, bydd yr ad-daliadau yn dod i ben yn awtomatig tan eich bod yn ennill mwy na’r trothwy unwaith eto.
    • Os byddwch yn symud dramor, bydd rhaid i chi adael y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr  (Student Loans Company – SLC) wybod. Byddwch yn ad-dalu SLC yn uniongyrchol. 
    • Os gwnaethoch dderbyn unrhyw fenthyciadau eraill oddi wrth y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ar gyfer astudiaethau blaenorol, byddwch yn ad-dalu’r rhain ar yr un pryd, ar yr amod eich bod yn ennill mwy na’r trothwy.

    Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am ad-dalu benthyciadau drwy gysylltu ag 

  • Ni chaiff Cyllid Myfyrwyr ei dalu tan 3-5 diwrnod gwaith ar ôl diwrnod cyntaf y tymor.

    Rhaid i chi gofrestru’n llawn cyn caiff eich cyllid ei ryddhau. Bydd rhaid i chi hefyd gofrestru ar-lein gan ddefnyddio eich cyfrif MyTSD pan gewch eich annog i wneud hynny, a mynychu dosbarthiadau, er mwyn bod eich cofnod yn dangos eich bod wedi cofrestru’n llawn.

    Os nad ydych wedi derbyn llythyr amserlen dalu, mae hyn yn awgrymu nad yw eich asesiad eto wedi ei gwblhau gan Gyllid Myfyrwyr.  Mae’n bosibl mai’r rheswm am hyn yw’r dyddiad y gwnaethoch y cais, neu oherwydd bod y tîm asesu yn aros o hyd am dystiolaeth bellach oddi wrthych. Yn yr achos hwn, dylech gysylltu â Chyllid Myfyrwyr:

    Ymholiadau ynglÅ·n â Benthyciadau Ã”l-raddedig

    • Student Finance England: 0300 100 0031
    • Student Finance Northern Ireland: 0300 100 0493
    • Student Awards Agency Scotland: 0300 555 0505
    • Cyllid Myfyrwyr Cymru: 0300 100 0494

    Os ydych wedi cofrestru, ac wedi derbyn eich llythyr amserlen dalu oddi wrth Gyllid Myfyrwyr, ond heb dderbyn tâl ar ôl 5 diwrnod gwaith wedi dechrau’r tymor, yna, cysylltwch â’r Gofrestrfa registry@uwtsd.ac.uk a gwawn ymchwilio i hyn ar eich rhan.