Profiad Kia Elise Breckon yn PCYDDS
Enw: Kia Elise Breckon
Cwrs: BMus Perfformio Lleisiol
Astudiaethau Blaenorol: Coleg Chweched Dosbarth Scarborough
Tref eich cartref: Whitby, Gogledd Swydd Efrog
Profiad Kia ar BMus Perfformio Lleisiol
Beth oedd eich hoff beth am gampws Caerdydd?
Fy hoff beth am gampws Caerdydd oedd pa mor ganolog ydyw. Mae’n rhwydd iawn ei gyrraedd ac mae ganddo lawer o lety i fyfyrwyr sy’n dafliad carreg o Haywood House. Mae gan yr adeilad ei hun fannau anhygoel a ddefnyddir ar gyfer gwersi, dosbarthiadau meistr, ymarferion a pherfformiadau. Yn fyfyriwr perfformio, roedd bod yng nghanol y celfyddydau mor bwysig i mi a dyna yn union a gewch chi yn WAVDA. Mae yna gymaint o fannau creadigol gwahanol yn agos i gampws Caerdydd gan gynnwys Canolfan Mileniwm Cymru sydd o fewn taith fer mewn trên.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Dewisais WAVDA am fod y cwrs Perfformio Lleisiol yn wahanol i’r lleill a welais i mewn prifysgolion eraill. Mae PCYDDS yn cynnig cyfuniad unigryw o ran sut rydych chi’n dysgu. Awr yr wythnos o hyfforddiant lleisiol 1 i 1, a gwers ganu 1 i 1, gwersi a phrosiectau dan arweiniad ymarferwyr o’r diwydiant sy’n dal i fod yn gweithio ar yr un pryd ag addysgu, dosbarthiadau llai fel bod y darlithwyr yn gallu dod i’ch adnabod fel unigolyn a pherfformiwr. Mae gan PCYDDS ffocws ar gysylltiadau gyda’r diwydiant ac ar y cwrs Perfformio Lleisiol, byddwch yn meithrin y rhain o’r diwrnod cyntaf.
Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Tu allan i’m hastudiaethau rwy’n mwynhau darllen – ffantasi yw fy hoff genre, heb os. Hefyd, roeddwn i’n mynd i’r gampfa cyn fy ngwersi/ymarferion am fod hynny’n rhoi meddylfryd positif i mi ar gyfer gweddill y dydd ac rwy’n bendant yn teimlo ei fod wedi fy ngwneud yn fwy cynhyrchiol. Gwnes i hefyd fwynhau cwrdd â ffrindiau a oedd ar y cwrs Theatr Gerddorol.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?
Gan fy mod wedi gorffen y cwrs Perfformio Lleisiol yn PCYDDS, rwy’n mynd i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i gwblhau gradd Meistr mewn Rheolaeth yn y Celfyddydau. Yn ystod fy nghyfnod yn PCYDDS, gwelais fod gen i gariad at drefnu, p’un a oedd hynny’n rhaglen ar gyfer Sbotolau’r Myfyrwyr – sef cyfres o gyngherddau y gwnaethom ei chreu ar y cwrs Perfformio Lleisiol yn rhan o fodwl yn yr ail flwyddyn –neu’n creu amserlenni ymarferion ar gyfer prosiectau perfformio. Yn sicr, gwnaeth y cwrs fy helpu i adeiladu ar y sgiliau trefnu oedd gen i yn barod, yn barod ar gyfer fy amser yn RWCMD.
Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?
Fy hoff ran o’r cwrs hwn oedd y darlithwyr a fuodd yn fy nysgu- y Darlithwyr a Delir fesul Awr a’r darlithwyr gwadd a wnaeth ddosbarthiadau meistr gyda ni. Maent i gyd yn anhygoel. Mae eu hangerdd am y celfyddydau yn fwy nag unrhyw un rwyf wedi cwrdd â nhw o’r blaen ac mae eu profiadau wedi rhoi cipolwg gwerthfawr i mi i’r diwydiant, ac maent wedi fy ysbrydoli. Gwnaethant fy nysgu sut i ofalu am fy llais, sut i’w ddefnyddio’n iawn a sut i’w ddefnyddio mewn gwahanol ffyrdd sydd wedi helpu i mi ddysgu fel perfformiwr.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Byddwn i’n argymell PCYDDS yn gryf. Mae’r brifysgol yn cynnig profiad addysgol cyfoethog, yn arbennig ar gyrsiau fel y cwrs Perfformio Lleisiol. Mae’r profiadau a gewch chi yn PCYDDS yn anhygoel a dydw i heb weld unman arall yn eu cynnig nhw, sydd yn fy marn i’n gwneud y brifysgol yn arbennig iawn. Mae ffocws PCYDDS ar gyflogadwyedd a chysylltiadau cryf gyda diwydiant hefyd yn darparu profiad ymarferol gwerthfawr a chyfleoedd gyrfa.