ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Llety yn Birmingham

Os ydych yn bwriadu byw oddi cartref tra byddwch yn y brifysgol, mae’n debyg bod llety sydd ar frig eich rhestr o ystyriaethau. Mae poblogaeth enfawr o fyfyrwyr yn byw yn Birmingham, ac felly bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn rhoi digon o ddewis i chi.

Darperir llety yn Birmingham gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich tywys drwy eich opsiynau a chynnig cefnogaeth i chi trwy gydol eich cyfnod fel myfyriwr gyda ni.

Bydd myfyrwyr sy’n aros mewn llety nad yw’n eiddo i’r brifysgol yn dal i allu defnyddio gwasanaethau fel y tîm iechyd meddwl, cyngor ariannol a mwy.

Bydd y swyddfa lety ar gael i gefnogi a rhoi cyngor ynghylch ble mae myfyrwyr PCYDDS yn aros er mwyn i chi allu bod o gwmpas myfyrwyr sy’n astudio gyda ni.

Beth sydd gan Lety Preifat yn Birmingham i'w gynnig

  • Unwaith y byddwch wedi cael ystafell mewn neuadd, efallai y bydd arnoch eisiau dechrau meddwl am beth i’w ddod gyda chi i’r campws.

    Siop ar-lein yw UniKitOut sy’n cynnig arbedion ENFAWR ar lawer o’r eitemau a ganlyn:

    • Pecynnau Dillad Gwely
    • Pecynnau Cegin
    • Pecynnau Ystafell Ymolchi a Thyweli
    • Pecynnau Cyfun Myfyrwyr
    • Offer Trydanol
    • Ategolion a llawer iawn mwy!

    Unwaith y byddwch yn prynu eitemau, gallwch ofyn iddynt gael eu hanfon yn uniongyrchol i’ch ystafell fel eu bod yn aros yno amdanoch chi pan fyddwch yn cyrraedd.

01
Mae fflatiau stiwdio a fflatiau clwstwr gydag ystafelloedd gwely en-suite ar gael ledled y ddinas, sy'n golygu bod digon o opsiynau i ddewis ohonyn nhw.
02
Mae llawer o ddarparwyr yn cynnig ystafelloedd sinema, bariau, lle i storio beiciau a mannau astudio cymunedol.
03
Mae biliau cyfleustodau a WI-FI wedi’u cynnwys.
04
Diogelwch 24 awr.
05
Hunanarlwyo.
06
Mae rhai darparwyr yn gofyn am flaendal, tra bod eraill ddim.

Accordions

Myfyrwyr Caerfyrddin yn gwenu gyda phâr o gadeiriau plygu wedi'i brandio.

Cysylltu â'r Tîm Llety

Mae ein tîm llety yma i’ch helpu chi i wneud y dewis cywir er mwyn helpu i greu’r profiad prifysgol rydych chi’n ei ddymuno.  Os oes gennych unrhyw gwestiynau am lety boed yn ymwneud â hygyrchedd, opsiynau llety neu gwestiynau penodol am eich sefyllfa mae ein tîm llety wrth law i helpu.