Profiad Rhys Price yn PCYDDS
Profiad Rhys ar BA (Anrh) Technoleg Cerddoriaeth Greadigol
Beth oedd eich hoff beth am gampws Caerdydd?
Y peth gorau am fy nghampws oedd bod sawl stiwdio ar gael. Gallwn i drefnu amser mewn stiwdio a defnyddio’r holl gyfleusterau yno, gan gynnwys unrhyw offer neu offerynnau oedd ar gael. Roedd cyfrifiaduron Mac yn y stiwdios hefyd, gyda meddalwedd sy’n safonol i’r diwydiant, ac roedd hynny’n fy ngalluogi i greu cerddoriaeth a fyddai wedi bod yn amhosibl i’w greu gyda fy offer fy hun.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Roedd gan PCCYDS sawl agwedd greadigol nad oedd cyrsiau eraill yn eu cynnig. Roedd cyrsiau eraill yn tueddu i ymdrin â cherddoriaeth o safbwynt traddodiadol, gan ganolbwyntio ar ddamcaniaethau a dadansoddi. Mae gan y cwrs Technoleg Cerddoriaeth Greadigol agwedd fwy creadigol ac anarferol tuag at gerddoriaeth, maen nhw’n caniatáu i’r myfyriwr ddewis beth maen nhw eisiau ei wneud gyda’u tasgau. Ges i ryddid i fynegi fy hun trwy gerddoriaeth yn fy ffordd fy hun, ac i wneud tasgau gan ddefnyddio fy syniadau fy hun.
Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Mae’n hwyl arbrofi gyda’r hyn rydw i wedi’i ddysgu, a hynny trwy ddychwelyd at fy ngwaith blaenorol a meddwl beth fyddwn i wedi ei wneud yn wahanol. Mae dychwelyd at y caneuon yma, a gweld cymaint y mae nhw’n gwella drwy ddefnyddio’r sgiliau newydd sydd gen i yn ffordd wych o weld fy natblygiad i fel cerddor.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?
Ers gorffen fy mhrosiect olaf, rwyf wedi bod yn brysur yn ysgrifennu cerddoriaeth, fel yr oeddwn i ar y cwrs. Rydw i wedi llwytho llawer o ganeuon i lwyfannau fel YouTube a Spotify, ac rwy’n esblygu fy mrand fel cyfansoddwr er mwyn ehangu fy nghynulleidfa.
Roedd llawer o ddarlithoedd ar frandio a’r diwydiant ar y cwrs, a oedd yn rhoi dealltwriaeth go iawn o’r diwydiant cerddoriaeth fel ag y mae. Dysgais i fod dewis y llwybr iawn fel cerddor yn hollbwysig o ran llwyddo neu beidio.
Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?
Ges i lawer o ryddid ar y cwrs. Ddwedodd neb bod raid cwblhau unrhyw aseiniad mewn rhyw ffordd benodol. Gan fod gan y myfyrwyr eraill i gyd wahanol arbenigeddau cerddorol, roedd yn teimlo fel petai’r cwrs yn cael ei addasu er mwyn ein helpu i ddatblygu yn y ffordd yr oedden ni eisiau, a hynny trwy gynnig tasgau amrywiol. Gallech chi fod yn recordio drymiau un diwrnod, a’r diwrnod wedyn gallech chi fod yn ffilmio fideo cerddoriaeth neu’n creu offeryn.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Un o’r pethau pwysicaf a ddysgais i ar y cwrs yw bod mwy o swyddi ar gael yn y diwydiant cerddoriaeth nag y byddai rhywun yn ei feddwl. Gallech chi ddod ar y cwrs gyda’ch bryd ar ddod yn gynhyrchydd, ond ‘dyw person ddim wir yn gwybod beth yw eu diddordebau nes iddyn nhw roi cynnig arni, a dyna’r cyfle a gewch chi yma. Mae’r wybodaeth ymarferol a’r profiad ges i yn y stiwdios ac yn y Maclab yn rhywbeth na allwn fod wedi’i gael yn unman arall.