Cyflwyniad
Mae Gweld Tsieinëeg yn gwrs hyfforddi iaith sy’n dilyn y Cwricwlwm Newydd i Gymru ar ffurf DPP i athrawon. Fe’i lluniwyd yn benodol ar gyfer athrawon heb unrhyw wybodaeth flaenorol am Tsieinëeg Mandarin sy’n dymuno cyflwyno rhywfaint o ddysgu iaith syml yn seiliedig ar bynciau i’w disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 2. I gyd-fynd â’r cwrs ceir pecyn cyflawn o adnoddau cyffrous sy’n bodloni gofynion trawsgwricwlaidd addysgu iaith ryngwladol.
Archebwch arddangosiad addysgu yn eich ysgol.
Os hoffech chi weld potensial llawn adnoddau’r cwrs, gallwch archebu arddangosiad addysgu i’w gynnal yn eich ysgol drwy anfon e-bost at confuciusinsitute@pcydds.ac.uk. Gwnaiff ein hathro / hathrawes ‘See Chinese’ ddod i’ch ysgol a rhoi gwers sampl i’ch myfyrwyr – yn rhad ac am ddim!
Methodoleg addysgu Gweld Tsieinëeg
Rydyn ni wedi galw’r cwrs yn Gweld Tsieinëeg gan fod y fethodoleg addysgu’n canolbwyntio ar fewnbwn gweledol i atgyfnerthu cymathu’r Tsieinëeg yn gyflym gan ddysgwyr ifanc. Mae’r fethodoleg yn defnyddio adeiladwyr brawddegau â chod lliw sy’n cysylltu dysgu’r iaith Tsieinëeg ar unwaith â phatrymau brawddegau Cymraeg a Saesneg. Yn y modd hwn mae’n cefnogi’r dull amlieithog o ddysgu iaith a anogir gan y Cwricwlwm Newydd.
Dysgu gweledol
Mae’r dull dysgu gweledol yn sefydlu patrymau rhesymeg sylfaenol gramadeg a chystrawen Tsieinëeg yn gyflym sy’n caniatáu i ddechreuwyr ifanc ddeall a chynhyrchu brawddegau Tsieinëeg. Mae’r cwrs yn ganlyniad i gydweithio â Hanzeasy, gwefan sy’n arbenigo mewn addysgu nodau Tsieinëeg gyda chymorth darluniau byw sy’n cynorthwyo adnabod.
10 gwers thematig
Mae Gweld Tsieinëeg yn cynnwys 10 gwers thematig y gall athrawon eu meistroli’n hawdd fel bod ganddynt yr holl wybodaeth a’r adnoddau i fwrw ymlaen â’r gwersi gyda’u disgyblion CA2. Mae llawer o’r pynciau, megis teulu, anifeiliaid neu rifau, yn unedau annibynnol a gellid eu haddysgu ar eu pennau eu hunain fel cyrsiau blasu Tsieinëeg. Mae’r unedau hyn hefyd yn sylfaen ar gyfer pynciau pellach ac felly maent yn caniatáu i athrawon adeiladu cwrs byr y gellid ei gyflwyno dros nifer o wythnosau. O’u cymryd gyda’i gilydd, mae’r 10 gwers yn creu sylfaen gadarn ar gyfer gafael sylfaenol ar yr iaith Tsieinëeg.
°Õ³ó±ð³¾Ã¢³Ü&²Ô²ú²õ±è;³Ù°ù²¹·É²õ²µ·É°ù¾±³¦·É±ô²¹¾±»å»å
Wythnos rhif | Thema | Astudiaeth Bellach | Sgiliau trawsgwricwlaidd |
---|---|---|---|
1 | teulu | Y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd | Y Dyniaethau Celfyddydau Mynegiannol |
2 | anifeiliaid | Addasiad ar gyfer anifeiliaid Tsieineaidd: mwncïod, pandas, dolffiniaid trwyn smwt a ffesantod euraidd | Gwyddoniaeth a Thechnoleg |
3 | rhannau o’r corff | Gemau’r iard chwarae yn Tsieina | Iechyd a llesiant |
4 | bwyd a diod | Bwyd gwyliau a dathliadau |
Y Dyniaethau Iechyd a Lles |
5 | fy ysgol | Diwrnod ym mywyd myfyriwr ysgol yn Tsieina | Y Dyniaethau |
6 | rhifau | Pos Tangram | Mathemateg a rhifedd |
7 | mewn siop | Yong E – cerdd Tsieineaidd gan Luo Binwang | Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebiad Y Dyniaethau |
8 | dewisiadau personol | Gwneud Te Tsieineaidd | Gwyddoniaeth a Thechnoleg |
9 | amser, diwrnodau a dyddiadau | Y tymhorau a 24 tymor yr haul | Gwyddoniaeth a Thechnoleg |
10 | helo a hwyl fawr | Molihua: y raddfa 5 nodyn mewn cerddoriaeth Tsieineaidd draddodiadol | Celfyddydau Mynegiannol |
Adnoddau Athrawon
Ar ôl cwblhau pob gwers ar y cwrs Gweld Tsieinëeg rhoddir y sleidiau cyflwyno PowerPoint i’r athrawon ynghyd â thaflenni gwaith a dolenni i adnoddau eraill i’w defnyddio eu hunain yn y dosbarth.
Mae pob gwers yn cynnwys:
- set o gardiau geirfa sy’n modelu’r ynganiad cywir
- adeiladwr brawddegau â chod lliw sy’n modelu’r strwythur brawddeg a dargedir
- set o dasgau siarad i atgyfnerthu’r eirfa a strwythur brawddegau
- darluniau Hanzeasy sy’n cyflwyno cofeiriau ar gyfer ysgrifennu nodau Tsieinëeg
- set o gardiau fflach Quizlet
- cân Tsieineaidd sy’n adleisio ffocws y wers
Mae Gweld Tsieinëeg yn rhan o’r gyfres o gyrsiau DPP ‘Dysgu i Addysgu Mandarin’ ar gyfer athrawon a ddatblygwyd gan Athrofa Confucius yn y Drindod Dewi Sant ac mae’n chwaer gwrs i ‘Dysgu i Addysgu Mandarin CA3’.
Cofrestrwch yma
Gellir addysgu Gweld Tsieinëeg drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, gan ddibynnu ar brif iaith y garfan. Nodwch eich dewis ar y ffurflen.