ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Sgiliau Arwain a Rheoli ar gyfer y Gweithle (Llawn amser) (BA Anrh)

Llundain
3 Flynedd Llawn amser
80 o Bwyntiau UCAS

Mae’r radd Sgiliau Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer y Gweithle (BA Anrh) wedi’i chynllunio i’ch helpu i dyfu’n arweinydd effeithiol. Os ydych wedi cwblhau’r cwrs Sgiliau ar gyfer y Gweithle (TystAU), y rhaglen hon yw’r cam nesaf delfrydol, gan roi i chi’r sgiliau arwain a rheoli sydd eu hangen i ragori yn y byd cyflym sydd ohoni.

Mae’r cwrs hwn yn cyfuno theori rheoli â phrofiad yn y byd go iawn. Byddwch yn dysgu sut mae busnesau a sefydliadau’n gweithio ac yna’n cymhwyso’r wybodaeth hon yn uniongyrchol i’ch profiad eich hun o’r gweithle. Cyflwynir y cwrs drwy ddull dysgu hyblyg, sy’n golygu y gall ffitio o amgylch eich bywyd, gan ei wneud yn haws i chi gydbwyso eich astudiaethau ag ymrwymiadau eraill. P’un a ydych yn dymuno gwella eich arferion arwain neu gael dealltwriaeth newydd o’r theori rheoli sydd y tu ôl i dimau effeithiol, mae’r rhaglen hon yn cynnig ystod o sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi’n fawr.

Drwy gydol y cwrs, byddwch yn archwilio pynciau fel rheoli pobl, cynllunio prosiectau, a sut i wneud penderfyniadau busnes pwysig. Byddwch hefyd yn dysgu sut i arwain timau, trin newid, a datblygu perthnasoedd cryf gyda rhanddeiliaid. Mae’r rhain i gyd yn sgiliau arwain a rheoli allweddol a fydd yn eich helpu i sefyll allan yn y gweithle. Bydd eich dysgu wedi’i seilio ar sefyllfaoedd yn y byd go iawn, sy’n golygu y byddwch chi’n barod i gymhwyso’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu cyn gynted ag y byddwch chi’n graddio.

Mae’r dull dysgu hyblyg hefyd yn golygu bod y cwrs yn cael ei gyflwyno mewn gwahanol leoliadau, gan roi cyfle i chi astudio mewn ffordd sy’n gweddu orau i chi. Dim ond i fyfyrwyr Cartref mae’r cwrs hwn ar gael.

Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch wedi datblygu set gref o sgiliau rheoli trosglwyddadwy y gellir eu cymhwyso ar draws amrywiol ddiwydiannau. Nid dim ond gradd yw’r BA mewn Sgiliau Arweinyddiaeth a Rheolaeth, ond hefyd, mae’n borth i ddilyniant gyrfa, gan gynnig cyfleoedd i symud ymlaen mewn rolau rheoli a thu hwnt.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
SCC8
Hyd y cwrs:
3 Flynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
80 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Dosbarthiadau bach lle cewch y cyfle i ofyn cwestiynau a dysgu’n weithredol.
02
Cyfleoedd i ddysgu mewn ffordd ymarferol drwy waith maes gan ddefnyddio ein lleoliad daearyddol gwych.
03
Ymgysylltu’n weithredol gyda chyflogwyr, yn arbennig trwy ein cyrsiau gwaith maes lle byddwch yn dod i adnabod rheolwyr gwarchodfeydd ac ymgynghorwyr amgylcheddol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Wrth wraidd y rhaglen Sgiliau Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer y Gweithle mae ymrwymiad i ddysgu trwy gymhwysiad ymarferol. Credwn mewn cyfuno theori reoli â phrofiad yn y byd go iawn, gan roi cyfle i fyfyrwyr gymhwyso eu sgiliau mewn lleoliadau gwaith ar unwaith. Mae ein dulliau addysgu yn canolbwyntio ar amgylcheddau dysgu rhyngweithiol, hyblyg a chefnogol a gynlluniwyd i’ch helpu i lwyddo.

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen gref mewn sgiliau allweddol fel cyfathrebu effeithiol, sgiliau digidol, a datrys problemau. Mae’r modylau’n cynnwys Sgiliau Academaidd, Gweithio mewn Tîm a Chyfathrebu yn Effeithiol, a Datrys Problemau a Gwneud Penderfyniadau, gan roi i chi’r offer hanfodol sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn academaidd ac yn y gweithle. Byddwch hefyd yn archwilio menter ac entrepreneuriaeth i ddatblygu dulliau meddwl creadigol.

Sgiliau Academaidd

(20 credydau)

Datrys Problemau a Gwneud Penderfyniadau

(20 credydau)

Gwaith Tîm a Chyfathrebu Effeithiol

(20 credydau)

Sgiliau Digidol

(20 credydau)

Cyflogadwyedd a Datblygu Gyrfa

(20 credydau)

Menter ac Entrepreneuriaeth

(20 credydau)

Mae’r ail flwyddyn yn canolbwyntio ar gymhwyso cysyniadau arweinyddiaeth yn fanylach. Byddwch yn dysgu am ymgysylltu â rhanddeiliaid, rheoli tîm a rheoli prosiectau, gan ennill dealltwriaeth ddyfnach o sut i arwain a rheoli o fewn cyd-destun sefydliadol. Bydd modylau fel Datblygu Sgiliau Deallusrwydd Emosiynol a Diwylliant Sefydliadol yn eich helpu i ymdrin Ã¢ chymhlethdodau arweinyddiaeth a deinameg yn y gweithle.

Deall ac Ymgysylltu â Phrofiad y Cwsmer

(20 credydau)

Rheoli Prosiect

(20 credydau)

Datblygu Sgiliau Deallusrwydd Emosiynol

(20 credydau)

Diwylliant Sefydliadol

(20 credydau)

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn archwilio pynciau uwch fel rheolaeth strategol, arloesi ac arwain newid. Mae’r modylau hyn yn eich paratoi i fynd i’r afael â heriau’r byd go iawn ac i feddwl yn strategol fel arweinydd. Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect annibynnol, sy’n eich galluogi i gymhwyso popeth rydych wedi’i ddysgu i bwnc neu her o’ch dewis, gan hoelio eich sgiliau arweinyddiaeth yn ymarferol.

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Arwain a Gweithredu Newid yn y Gweithle

(20 credydau)

Course Page Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Mae’r rhaglen hon ar gael i fyfyrwyr Cartref.


    Cyflawni TystAU Sgiliau ar gyfer y Gweithle (120 credyd) yn llwyddiannus.

  • Mae asesiadau’n amrywio ar draws modylau drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau o adroddiadau maes a labordy i gyflwyniadau, traethodau ac arholiadau i roi’r cyfle i chi wneud yn dda a dangos eich gwybodaeth ddatblygol.

    Rydym yn ymfalchïo mewn rhoi adborth ardderchog ar bob cam o’r cwrs i’ch helpu i wneud cynnydd.

    Rydym yn defnyddio adborth i ddatblygu eich gwybodaeth am y cwrs ac, yn bwysig, eich helpu i ddatblygu eich sgiliau ehangach wrth ysgrifennu adroddiadau, a chyfathrebu gwyddoniaeth fel y galwch ddangos eich gallu i weithio’n effeithiol yn sector yr amgylchedd ar ddiwedd eich cwrs.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y prosiect mawr ond nid yw hyn yn ofynnol, ac ni fydd yn effeithio ar y marc terfynol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

  • Mae’r rhaglen Sgiliau Arwain a Rheoli ar gyfer y Gweithle (BA) (Anrh) wedi’i chreu i fod yn rhaglen israddedig ddeniadol sydd wir yn ymateb i anghenion newidiol dysgwyr yn y gweithle ac sy’n addas i’r rhai sy’n ceisio gwella eu rhagolygon o ddychwelyd i’r gweithle.

    Lluniwyd y rhaglen er mwyn sicrhau bod gan raddedigion y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sylfaenol priodol a fydd yn eu galluogi i weithio’n effeithiol mewn marchnad fyd-eang sy’n newid yn gyson.  Mae’r gallu i gael effaith uniongyrchol ac i gyfrannu’n barhaus yn y gweithle yn agwedd bwysig.

    O’r herwydd, bydd y myfyrwyr yn fedrus wrth weithio mewn tîm, yn meddu ar sgiliau a fydd yn eu galluogi i gyfathrebu’n effeithiol, yn gallu nodi strategaethau priodol er mwyn datrys problemau sefydliadol, yn gallu cyfrannu at ymarfer myfyriol, ac yn gallu datblygu fel dysgwyr gydol oes yn hyderus.

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau