ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Bywyd Campws Llundain

London campus reception

Yng nghanol Llundain

Dewch i ddarganfod amgylchedd addysgol deinamig PCYDDS yng nghanol Llundain. Gyda dosbarthiadau llai ac opsiynau i astudio naill ai ar y penwythnos neu yn ystod yr wythnos, rydym ni’n blaenoriaethu profiad dysgu rhyngweithiol sy’n darparu ar gyfer gofynion eich bywyd. Gan groesawu amrywiaeth, rydym ni’n meithrin amgylchedd cefnogol a chyfeillgar iawn lle mae dysgu’n brofiad diddorol i’w rannu. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn i’ch datblygiad cyfannol, gan gyfoethogi eich taith bersonol gyda ni. 

Camwch i Lundain gyda’r Drindod Dewi Sant, lle mae ein campws, sydd wedi’i leoli mewn adeilad eiconig yn Westferry Circus, yn golygu mwy nag addysgu a dysgu – mae’n ymrwymiad i gefnogi myfyrwyr aeddfed. Mae ein staff academaidd a’n staff gwasanaethau proffesiynol profiadol yn darparu cymorth wedi’i deilwra, o weithdai ymarferol a seminarau, i gymorth 1-i-1 sy’n cyfoethogi eich rhaglen, gan sicrhau eich bod yn barod am lwyddiant. Byddwch yn meithrin cysylltiadau parhaus â’n staff ac yn profi awyrgylch dysgu deniadol. Yn PCYDDS Llundain, rydym ni’n ymdrechu i’ch cyflwyno i ddiwydiannau sy’n gysylltiedig â’ch diddordebau, gan ddarparu ar gyfer twf personol a phroffesiynol. Dewiswch addysg sy’n gallu trawsnewid bywydau.

Dewch i ymgolli yn un o ddinasoedd mwyaf cyfareddol a bywiog y byd ac archwilio amrywiaeth y bywyd dinesig yn Canary Wharf a thu hwnt, wedi’ch amgylchynu gan gymuned fusnes ffyniannus, yn cynnwys brandiau byd-eang a busnesau newydd.

Pam Llundain?

Camwch i ganol Llundain gyda’r Drindod Dewi Sant, lle mae ein campws bywiog yn golygu mwy na dysgu – mae ganddo ymrwymiad i gefnogi myfyrwyr aeddfed. Mae ein staff profiadol yn darparu cymorth pwrpasol, o weithdai i raglenni hyblyg, sy’n sicrhau eich llwyddiant. Byddwch yn meithrin cysylltiadau parhaus â darlithwyr ac yn profi awyrgylch dysgu deniadol.Yn PCYDDS Llundain, rydym ni’n ymdrechu i’ch cyflwyno i ddiwydiannau sy’n gysylltiedig â’ch diddordebau, gan ddarparu ar gyfer twf personol a phroffesiynol. Dewiswch addysg sy’n gallu trawsnewid bywydau. 

Archwiliwch fan dysgu deinamig lle mae rhaglenni’n darparu ar gyfer gofynion eich bywyd, gan gynnig dull pragmatig ar gyfer eich taith addysgol gyda PCYDDS Llundain.

What You'll Study

Ffynnon ddŵr yn Llundain

Ymgollwch ym Mrifddinas Diwylliant

Torrwch eich cwys eich hunan mewn dinas sy’n ffynnu ar wahaniaeth, amrywiaeth a pherthyn. Cewch fwyta bwyd o bob cwr o’r byd ac ymweld ag arddangosfeydd gan artistiaid rhyngwladol.

Mwynhewch y gigs, y cyngherddau a’r nosweithiau clwb di-ben-draw gan gerddorion, perfformwyr a DJs byd-enwog. Mae lle i bawb yn Llundain.

Beth Fyddwch chi'n ei Astudio

lecturer at London campus

Beth Fyddwch chi'n ei Astudio

Gan gynnig cyrsiau a addysgir ar y campws gyda ffocws ar fusnes, cyfrifiadura, neu iechyd a gofal cymdeithasol, mae cyrsiau PCYDDS wedi’u llunio i’ch paratoi ar gyfer y gweithle ac i wneud argraff ar gyflogwyr.  Byddwch yn dysgu cymysgedd o wybodaeth a sgiliau damcaniaethol ac ymarferol sy’n amrywio yn ôl y rhaglen. Mae ein campws yn Llundain yn darparu amgylchedd dysgu strwythuredig fel y byddwch o wythnos i wythnos yn meithrin eich hyder a’ch arbenigedd yn eich maes pwnc dewisol. Pan fyddwch yn gwneud cais am eich rhaglen, gallwch ddewis naill ai’r opsiwn i astudio eich rhaglen yn ystod yr wythnos yn unig, neu fel arall ar y penwythnos yn unig. Ac am eich bod yn astudio mewn campws wedi’ch amgylchynu gan un o ganolfannau busnes mwyaf y byd, byddwch yn teimlo eich bod wedi ymgolli mewn diwydiant.

Book an Open Day

Student ambassadors with potential students

Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored

Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglÅ·n â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni. 

Sut i gyrraedd ein campws yn Llundain

Arwydd London Underground

Sut i gyrraedd ein campws yn Llundain

Mae Llundain yn ddinas gyfareddol a deinamig sy’n cynnig profiad addysg dihafal sydd o’r radd flaenaf.  Wedi’i lleoli yng nghanol ardal ariannol ffyniannus Llundain, mae ein campws newydd yn Llundain yn Canary Wharf yn ymgorffori asiad diwydiant a’r byd academaidd.