Sut i gyrraedd ein campws yng Nghaerfyrddin
Teithio i Gaerfyrddin
Mae ein Campws yng Nghaerfyrddin o fewn pellter cerdded i ganol y dref. Dyma dref llawn hud a hanes. Gyda’i chastell hardd uwch Afon Tywi, bydd harddwch Caerfyrddin yn ysbrydoliaeth drwy gydol eich amser yma.
Rydym yn deall bod pob taith yn unigryw, dyna pam ein bod wedi mynd ati i gasglu gwybodaeth gynhwysfawr am yr holl wahanol ffyrdd o deithio, er mwyn gwneud eich taith i’n campws yng Nghaerfyrddin mor hwylus ag sy’n bosibl.
Parcio
Cyflwynodd Campws Caerfyrddin System Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig ym mis Chwefror 2023.
Mae parcio ar y campws yn rhad ac am ddim i ddeiliaid trwydded yn unig, gall ymwelwyr barcio ar y campws ond rhaid talu i barcio trwy un o’r mesuryddion talu neu’r Ap PayByPhone ar yr arwyddion sydd ar gael.
Lleoliad Campws Caerfyrddin
PCYDDS, Campws Caerfyrddin, Caerfyrddin, SA31 3EP.
°Õ±ð¾±³Ù³ó¾±´Ç&²Ô²ú²õ±è;…
-
Mae Campws Caerfyrddin tua 30 munud ar droed o naill ai gorsaf bysys neu drenau Caerfyrddin
Cynlluniwch eich Taith
-
Mae Campws Caerfyrddin yn hygyrch o ac mae llawer o barthau ar gael ar y campws i gloi’ch beic.
-
Os ydych chi’n gyrru i PCYDDS, Campws Caerfyrddin, Caerfyrddin, SA31 3EP.
Diwrnodau Agored
Os ydych chi’n mynychu diwrnod agored, mae parcio ar gael ar Gampws Caerfyrddin.
Parcio i Ymwelwyr
Rhaid i ymwelwyr â’r Drindod Dewi Sant dalu am barcio. Rhaid cofrestru pob cerbyd, boed wedi’i gymeradwyo ymlaen llaw ai peidio, wrth gyrraedd, ac mae taliadau parcio yn berthnasol yng Nghaerfyrddin a Llanbedr Pont Steffan, gydag oriau gorfodi a chyfraddau penodol; Mae’n rhaid i unrhyw HTC a roddir cael eu trin trwy Parking Eye.
Parthau Parcio
Er mwyn sicrhau datrysiad rheoli parcio ymarferol, rhennir lleoedd ar y campws yn barthau fel y dangosir ar Fapiau Parcio Caerfyrddin.
Cynlluniwch eich Taith
-
Mae gan Gaerfyrddin rwydwaith gynhwysfawr o wasanaethau bws, sy’n cysylltu â Champysau Caerfyrddin ar Ffordd y Coleg a Heol Ffynnon Job. Golyga hyn bod ein campws yn hawdd ei gyrraedd ar ddulliau trafnidiaeth eco-gyfeillgar.
-
Mae gan Orsaf Drenau Caerfyrddin gysylltiadau rheilffordd gwych gyda threnau’n rhedeg yn rheolaidd o Abertawe, Aberdaugleddau, Doc Penfro a Manceinion Piccadilly ac yn ôl. Awgrymwn eich bod yn defnyddio i gynllunio’ch taith ymlaen llaw.
Dim ond taith 26 munud ar droed o’r orsaf mae ein campws, neu edrychwch ar yr adran ‘Ar fws’ am fysys rheolaidd sy’n stopio’n agos i’n campws.
Teithio Gwyrdd
Mae’n hawdd cyrraedd ein campysau ar droed, ar feic a thrafnidiaeth gyhoeddus. Dilynwch y dolenni isod am wybodaeth ar sut i gyrraedd yno drwy ddefnyddio dulliau trafnidiaeth cynaliadwy.
Bydd ein tudalennau cynaliadwyedd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am ein hymrwymiad i gynaliadwyedd yn PCYDDS.
Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored
Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni.